Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llynedd

llynedd

Y mae gennym lawer iawn o bethau i edifarhau amdanynt ymhlith y pethau a wnaethom llynedd.

Lansiwyd label Boobytrap yn hwyr y llynedd, a hynny yng Nghaerdydd.

Dwin gwbod fod Caerloyw wedi bod yn Lords ac ennill dau gwpan llynedd - maen nhw'n dîm da yn y gêm undydd, maen nhw'n whare gyda digon o hyder a maen nhw'n wharen dda gydai gilydd.

Roedd hi wedi bwriadu cael gwledd gyffelyb y llynedd, ond cafodd Eurwyn ryw virus a bu'n rhaid gohirio tan eleni.

Bydd y rhaglenni hefyd yn rhoi sylw i rai o'r ymdrechion codi arian gwirion a gwahanol sy'n digwydd ar hyd a lled Cymru ac yn rhoi hanes yr unigolion a'r mudiadau a dderbyniodd arian gan Blant Mewn Angen y llynedd.

Roedd hyn yn ddilyniant i seminar debyg a gynhaliwyd ym Mangor y llynedd.

Yng Nghwpan Lloegr llynedd curodd Blackburn Bolton 3 - 0.

Yn y rownd gyn-derfynol arall bydd pencampwraig y llynedd, Lindsey Davenport yn wynebu Jelena Dokic.

"Ble'r aeth eira llynedd?" fydd Mam yn ei ddweud pan fydd y gacen siocled wedi diflannu i gyd a neb yn gwybod i ble!' 'Ie,' torrodd Delwyn ar fy nhraws a "Caws o fola ci% fydd hi'n ei ddweud pan ofynna i iddi am arian i brynu hufen iâ, ac addo'i thalu'n ôl yr wythnos wedyn.'

Un cysur sydd yna, nad oes unrhyw fwriad i ddathlu cychwyn go iawn y mileniwm gyda sbloet fel un y llynedd! A fydd yna ddim ail-agor y Dôm a thrio eto.

Ei werth yw i storio dþr mewn pridd a chompost; nodwedd werthfawr iawn mewn haf fel llynedd neu i rwyddhau natur pridd cleiog, hynny yw, casglu gronynnau mân pridd cleiog at ei gilydd yn ronynnau mwy er mwyn hyrwyddo sychu tir felly ar gyfer ei drin.

Fodd bynnag, bydd arian yn cael ei wario ar amser stiwdio hefyd - fel yn achos Geraint Jarman a Steve Eaves y llynedd.

Nhw oedd wedi gollwng y lefel uchaf o nwyon gwenwynig i'r awyr y llynedd er bod lefel y deunydd mwyaf gwenwynig gan y cwmni yn fach iawn.

Yn ail gymal y rownd gyn-derfynol, curodd Bayern enillwyr y gystadleuaeth llynedd, Real Madrid, 2 - 1, sef 3 - 1 ar gyfanswm goliau.

I raddau helaeth, er hynny, roedd ymweliad Mrs Chalker, a'r holl ymdrechion a wnaed ar ran y Cwrdiaid am rai misoedd y llynedd yn dystiolaeth fwy amlwg nag a brofais i erioed o rym y wasg.

Mis Mai y llynedd, 5,234 o bobl oedd yn ddigartref yn Iwerddon a dim ond 27% ohonynt yn fenywod.

Mae egwyddorion yr hyn rydyn ni'n galw amdano wedi'u gosod allan mewn cynnig a basiwyd yn y Cyfarfod Cyffredinol y llynedd.

Fe fues i draw yn Cwrdistan ym mis Ebrill a mis Tachwedd y llynedd - i'r ardal lle mae'r Cwrdiaid yn dod dros y mynydd.

Ond ddiwedd yr wythnos hon y llynedd pan oeddwn ar wyliau yn yr Alban yr oedd yno goblyn o le wedi i hogan bedair ar bymtheg oed redeg bron yn boeth at Tiger Woods ar ddeunawfed grîn y Scottish Open a rhoi clamp o sws iddo fo a dawnsio o'i gwmpas.

'Dwi'n saff i ddweud 'dwi'n meddwl, mai o blith y gwþr sydd â'u gwreiddiau yn nhir Llanfechell ar Ynys Môn y mae'r un a gafodd y dylanwad mwyaf ar gwrs y byd llynedd - Mr Tristan Garel-Jones (mi fentra i y daw llythyr gyda throad y post yn cynnig ymgeisydd mwy teilwng - oedd hen nain Boutros Bourtos Ghali yn dod o Fynydd Mechell tybed?).

Enillodd rhaglen o gyfres llynedd, Annwyl Kate, Annwyl Saunders a ddangoswyd eto oherwydd ceisiadau niferus, y wobr am y Rhaglen Ddogfen/Drama Ddogfen Orau yng Ngwobrau BAFTA Cymru.

Tawelwch sydd wedi bod ym Mhrydain ers i'r grwp ganslou taith Brydeinig llynedd, ac ers hynny, mae Cerys wedi wynebu beirniadaeth yn y wasg am ei sylwadau am gyffuriau, a chyhuddiadau o ymddygiad rhagrithiol - yn bloeddio canu am ba mor ddi-enaid yw bywyd Llundain, ond eton cael ei sbotion gadael y Met Bar bondigrybwyll gydag amrywiaeth o ser.

Yn y gêm gynta ar y Cwrt Canol bydd pencampwr y llynedd Pete Sampras yn chwarae Jiri Vanekac.

Wel, maen nhw ar fin dychwelyd yn dilyn cnul marwolaeth y llynedd pan fomiwyd eu ffatri yn Iwgoslafia gan Nato - a oedd yn anelu at Slobodan Milosevic mewn gwirionedd.

Fel y crybwyllwyd yn yr adroddiad y llynedd, dylai cynllunio fod yn broses rhesymegol, nid mympwyol, yn mynd ati'n drefnus i ystyried defnydd tir a rheoli datblygu.

Disgwylir gwariant o £330m o gymharu a dim ond £98m y llynedd.

Dro arall y canfu+m i'r rhyfeddod prin yn ffurf oenig annhymig oedd achlysur ymweliad cerbydaid ohonom â Dolwar Fach, ym mlwyddyn dathlu daucanmlwyddiant geni Ann Griffiths, llynedd blwyddyn y gwres diddiwedd.

Tynnwyd sylw y llynedd at y cwynion a dderbyniwyd parthed methiant rhai awdurdodau cynllunio i ufuddhau i bolisi%au cynllunio a chwynion bod rhai penderfyniadau cynllunio yn wrthnysig.

Dychwelodd i Gwrdistan yn yr haf y llynedd i weld ei deulu, ac fe'i diflaswyd yn llwyr gan yr erchyllterau a welodd yno.

Ond bellach, y mae hi eto'n teyrnasu, heb ei diorseddu gan na sychder y llynedd na dathliadau Jiwbili Arian plant dynion, eleni.

Yn rownd gyn-derfynol y merched yn Wimbledon heddiw, bydd y chwiorydd Williams, Venus a Serena, yn wynebui gilydd ac enillydd y llynedd Lindsay Davenport yn chwarae yn erbyn Jelena Dokic - sydd ddim ymhlith y detholion.

Doedd hiwmor ddim yn brin chwaith y llynedd gyda fersiwn Cymru o The Fast Show sef Lucky Bag yn ymddangos ar ein sgriniau.

Yr oedd fy stumog i'n dechrau troi, ac er mwyn rhoi taw ar Jini am ennyd, dywedais, 'Allwch chi ddim dod o hyd i eira llynedd, heb sôn am ei bwyso!

Ambell flwyddyn yr ydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael stoncar o goeden syn edrych fel pe byddai wedi gallu byw tan yr haf! Y llynedd, wedyn, yr oedd hi'n geoden drychinebus gyda nodwyddi yn cwympo ym mhob man.

Maen debyg y dylai rhywun lawenhau yn y ffaith fod disgwyl i siopio Nadolig arlein fwy na dyblu eleni o gymharu âr llynedd.

Roedd nifer yn y tîm wnaeth ennill mâs yn Ffrainc y llynedd.

Yr heddwas John Gordon, a gollodd un goes pan ffrwydrodd bom y tu allan i siop Harrods, Llundain, y llynedd, wedi colli'i goes arall yn dilyn llawdriniaeth.

Hon oedd buddugoliaeth gynta Chelsea oddi cartre ers mis Ebrill y llynedd.

Pan ddaeth tymor y 'Dolig i'w derfyn y llynedd fe gawsant wared ohona' i o'r ysgol a 'dydw i'n ama' dim nad oedd yr ocheneidia' rhyddhad i'w clywed bryd hynny yn atseinio'n uchel hyd goridora' byd addysg.

Rhaid imi gychwyn a gorffen sgrifennu'r ddarlith hon cyn cyhoeddi ystadegau'r cyfrifiad a fu y llynedd ar y Cymry Cymraeg yng Nghymru.

'Mae'n helpu damed bach bo fi wedi guro fe llynedd, ond mae e'n whariwr da.

Y llynedd bu Noson Lawen anffurfiol iawn ar Fawrth 1 yn yr hen gapel yn Y Gaiman.

Y llynedd cefais innau flwyddyn Sabothol, a threuliais hi yn dechrau darllen ar gyfer astudiaeth arfaethedig o ddylanwad y Beibl ar lenyddiaeth Gymraeg y canrifoedd modern.

Llwyddodd Kilkenny i gyrraedd y ffeinal llynedd a'r flwyddyn gynt, ond colli wnaethon nhw.

Mewn ymgais i greu mwy o farchnad, mae Ankst wedi dilyn polisi brwd o hysbysebu'n helaeth ac yn yn gyson, gan arbrofi gyda dulliau gwahanol - fel rhoi copi%au am ddim o un record sengl newydd gyda'r tocynnau mynediad i ddawns lwyddiannus ym Mhafiliwn Ponthrhydfendigaid adeg Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth y llynedd.

Dyfynnaf o adroddiad yr Undeb i'r wasg y llynedd - geiriau'r Ysgrifennydd, Denis Evans: "Bu Cymru erioed yn un o genhedloedd gorau rygbi trwy odidogrwydd Cymry.

Prif atyniad yr arddangosfa oedd detholiad o'r Rhuban Heddwch lliwgar a ddangoswyd y llynedd ar faes Eisteddfod Llanrwst.

Mae Llanelli yn gyfarwydd iawn â'r Cwpan Heineken ar ôl cyrraedd y rownd gyn-derfynol y llynedd.

Gobaith Robert Croft yw y gall Morgannwg ailadrodd camp llynedd a chyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth.

Mae prawf meddygol gafodd Van Nistelrooy ym Manceinion dros y Sul wedi profi ei fod wedi gwella'n llwyr o'r anaf i'w benglîn a'i rhwystrodd rhag ymuno â Manchester United am £18.5 miliwn y llynedd.

Dwi'n credu bod y tîm sy gyda ni eleni dipyn cryfach na'r tîm oedd 'da ni llynedd, meddai hyfforddwr Casnewydd, Allan Lewis, ar y Post Cyntaf y bore yma.

Disgwylir i'r dorf fod bedair gwaith yn fwy na'r dorf wyliodd y rasys y llynedd.

Yr amser hon y llynedd y ffrae oedd mai blwyddyn olaf hen fileniwm fyddai 2000 yn hytrach na blwyddyn gyntaf mileniwm newydd.

O ganlyniad i lwyddiant ysgubol Parti Ponty, gwyl fywiog a gynhaliwyd ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, y llynedd penderfynwyd ailgynnal yr achlysur.

Mae enillwyr Cwpan Gilbert y llynedd, Y Barri, drwodd i rownd derfynol eleni ar ôl curo Llanelli 4 - 1 yn ail gymal y rownd gyn-derfynol ar Barc Stebonheath.

Dywedodd cwmni Corus, sydd bia'r gwaith yn Llanwern, eu bod wedi llwyddo i ostwng y lefel oedd yn cael ei gollwng 10% y llynedd.

Yn ystod yr Eisteddfod yn Abergele llynedd, torrodd Branwen Nicholas a Sioned Elin i fewn i Swyddfa Etholaeth Rod Richards, yr Is-Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig, i brotestio yn erbyn polisïau addysg y Torïaid.

Parhaodd cyfres newydd o The Slate â'r patrwm a ddechreuwyd llynedd o ffilmiau o'r ansawdd uchaf ar bwnc unigol: Karl Jenkins y cyfansoddwr a'r arweinydd, y darluniwr Jim Burns, yr animeiddwraig Joanna Quinn, y cyfarwyddwr ffilm Peter Greenaway, a'r nofelydd Dick Francis, bob un yn adnabyddus yn rhyngwladol, ond â'u gwreiddiau yng Nghymru.

Fe gododd rai ohonynt o glawdd hen furddun ar ei ffordd 'nôl o dŷ Nanti Anna y llynedd.

Rydw i'n cofio, y llynedd, cyrraedd a 'mhac ar fy nghefn yn Istanbwl (yr hen Constantinople roeddwn i wedi clywed cymaint o sôn amdani yn Ysgol Menofferen), a chael fy moiddro gan faint y traffig oedd yn mynd heibio.

Yn dilyn y llwyddiant ysgubol y llynedd bydd yna sawl grwp arall yn cael canu a pherfformio fersiynnau arbennig o ganeuon i gyfeiliant cerddorfa.

'Gobeithio galla i wneud yr un peth a llynedd.

Er i Zabrinsky fod wrthi ers rhyw bum mlynedd, y llynedd y daeth eu halbym gynta Screen Memories ac ar sail hynny dewiswyd y grwp yn grwp newydd gorau.

Llynedd, sefydlwyd Uwch Gynghrair y Gogledd a'r Canolbarth (Cynghrair Undebol Manweb) - i gyfateb â chynghrair Abacus yn y de.

Buom ynddi y llynedd fel gwahoddedigion y Llywydd, sef fy ewythr, R.

'Dou beth na all neb ddod o hyd iddyn nhw yw eira llynedd a chaws o fola ci,' torrais ar ei draws yntau'n fuddugoliaethus.

Byddai wedi bod yn braf cael cipolwg ar eira llynedd, ond rwy'n falch na welais i'r caws o fola ci!

Yn dilyn llwyddiant y gyfres NOW Hear This y llynedd ailadroddwyd hyn a chafwyd canmoliaeth fawr iddi.

Cwmnïau cynhenid sydd wedi creu dros hanner y swyddi newydd yng Nghymru y llynedd.

Cafwyd cychwyn delfrydol i'r bwriad y llynedd pan wahoddwyd Jan Svankmayer, Tsiecoslofacia, i Gymru.Y CAM ARALL HARRI GWYNN

Cyfeiriodd at gwestiwn y llynedd ynghylch trefniant gwaredu gwastraff i'r dyfodol drwy ddweud bod y Cyngor wedi derbyn dau dendr ac wedi ystyried adroddiad manwl ar y tendrau.

Petaech ymn mynd ar goll cyn hynny ac yn troi'n ôl am Bontardawe, fe fyddwch yn mynd trwy bentre' Bryncoch, cartre' Lewis Davies, awdur y nofel Work, Sex and Rygbi y llynedd.

O'r 20,000 o swyddi a gafodd eu creu neu eu diogelu'r llynedd, mae dros 10,000 ohonyn nhw mewn cwmnïau Cymreig.

Dechrau ar gwrs arall- darlith oedd ar waith yr Adran, rhyw gawl aildwym o'r hyn a gawsom ym Matlock llynedd gydag ychydig o liw neu flas tramor wedi'i roi ynddo i'w wneud yn fwy llyncadwy.

Ond anfonodd yr Almaen filwyr i Kosovo y llynedd gan esgor, felly, ar drefn newydd.

Hwn yw'r ail enwebiad yn olynol i S4C, yn dilyn Yr Enwog Ffred y llynedd, a'r trydydd o gofio am Hedd Wyn yn '94.

Dechreuodd Jini ddarllen, 'Cymerwch: Chwe owns o hylif o lys brogaid, Hanner pwys o afu tramp, Dau ddwsin o hadau dannedd ieir, Dwsin o wyau clwc, Tri phwys o eira llynedd, Hanner pwys o gaws o fola ci...'

Y newidiadau ym mhatrwm darlledu Radio Cymru a ysgogodd yr ail gynnig yn y Cyfarfod Cyffredinol llynedd.