Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llysoedd

llysoedd

Ysgytwol yw eu cyhoeddi'n blaen fel hyn: erlynwyd dros 1,100 o unigolion mewn llysoedd barn yn Lloegr a Chymru am eu rhan mewn ymgyrchoedd; codwyd cyfanswm o £38,854 o ddirwyon a £26,283 o gostau llys a iawndal; a dedfrydwyd 170 o unigolion i gyfanswm o 41 mlynedd a deufis o garchar.

Y mae ymgyrch y Gymdeithas yn erbyn gorthrwm Saesneg y llysoedd cyfraith a holl gyndynrwydd y barnwyr a'r plismyn i gadw braint a rhagoriaeth iaith y Ddeddf Uno yn deffro anesmwythyd ar feinciau ynadon.

Un feirniadaeth ohonynt y gellir o bosib ei gwneud yw eu bod yn tueddu i ganolbwyntio ar y newyddion 'da', ac i osgoi pethau fel hanes llysoedd lleol, ysgariadau, ac ati, a'u gadael i'r papur lleol traddodiadol, Saesneg ei iaith yn bennaf.

Rhai o'r pynciau y cafwyd darlithoedd arnynt oedd Cyfundrefn Addysg Cymru, y Llysoedd Barn, Pwerau Cynghorau Lleol, Cyllid Cymru, a Phropaganda'r Blaid.

Hawlia rhai ohonynt le anrhydeddus iawn yn hanes y deyrnas, ac y mae cysylltiad agos rhyngddynt ac enwau gwroniaid a harddodd enw Prydain yn llysoedd y Cyfandir ac ym mhellteroedd byd.

Euog, ie, - ond yr oedd y cosbau ysgafnach a ddyfarnai'r llysoedd mewn achosion fel hyn yn adlewyrchu'r teimlad fod yr euog o dan bwysau teimladol anghyffredin.

Cefais wahoddiad gan Gyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr i fynd i Strasbourg i weld llysoedd a senedd-dai Ewrop.

Mae'r Athro Glanmor Williams wedi dadansoddi'r helyntion hyn yn fanwl (yn Welsh Reformation Essays) a dangos sut y cafodd rhai ohonynt sylw yn y llysoedd, Llys Mainc y Brenin, Llys yr Ychwanegiadau, Cyngor y Gororau, y Sesiwn Fawr a Llys y Seren.

Tystiolaeth mewn Llysoedd a.y.b.

Yn ychwanegol at hynny yr oeddent dros y blynyddoedd wedi llwyddo i gadarnhau eu hawliau crefyddol a dinesig mewn cyfres o ddyfarniadau ffafriol yn y llysoedd barn.

Y canlyniad fu'r Welsh Courts Act, 1942, deddf seneddol a ddiystyrodd holl fwriad y ddeiseb ac a adawodd y Saesneg o hyd yn unig iaith swyddogol y llysoedd cyfraith a'r gwasanaethau cyhoeddus oll.

Astudiaeth o waith y llysoedd yng Nghymru yn ystod yr oesoedd canol.

Fe'i nodweddid gan basiantri a mawrfrydirwydd oesol, a nodweddion tebyg a gaed, yn ôl dehongliad y beirdd, yn llysoedd uchelwyr Cymru.

Byddai'r dirwyon yn y llysoedd yn drwm, ac o wrthod eu talu byddai'r canlyniadau'n gostus, er nad yn fwy costus nag ymladd etholiadau seneddol diamcan.

Os cânt eu dal ar ôl dychwelyd i'r Unol Daleithiau, cânt eu herlyn yn y llysoedd am dorri'r bloqueo.

Maen nhw'n dweud y bydd y gyfundrefn newydd 'ma yn help i'r heddlu ac i'r llysoedd.

Yn dilyn, ceir golwg ar dywysogaeth Llywelyn cyn y gostyngiad pryd y derbyniai arian dirwyon y llysoedd, tollau a rhenti tiroedd yn ogystal ag elw y marchnadoedd a'r ffeiriau.

Mesur ddatblygwyd yn llysoedd Siapan yn yr ail-ganrif-ar-bymtheg drwy ymdrechion y bardd Matsuo Basho.

Deuai i gyffyrddiad â phob math o droseddwyr ac ni ellid cael neb gwell i drafod eu hachosion ac i gynorthwyo'r llysoedd i wneud cyfiawnder â hwy.

Bues i yn y llysoedd sawl gwaith dros ymgyrch Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf iaith Newydd, ac roeddwn yn disgwyl achos Cymraeg heb drafferth, fel y cefais bryd hynny.

Cai sylw a llwyddiant hefyd: Fy llais a yfai llysoedd: Megis gwin neu drwmgwsg oedd Yn swyno pob rhyw synnwyr Mewn llyffethair llesmair llwyr.

Yr oedd hyn yn tueddu i fod yn nodweddiadol o'r hen drefn babyddol pan oedd uchel swyddogion yr Eglwys hefyd yn weinyddwyr yn y llysoedd ac yng ngwasanaeth y Goron.

O'm profiadau gyda Chymdeithas yr Iaith, roeddwn i wedi cymeryd bod y frwydr am driniaeth deg wedi'i ennill, o leiaf, yn y llysoedd.

Mae'r dadleuon a roddir o blaid cwtogi ymhellach ar yr hawl hon wedi'u seilio ar ddiffyg cyllid, a'r angen i leihau costau achosion gerbron Llys y Goron ac i esmwytho gweinyddiad y llysoedd hynny.

At hynny, fel ceidwad heddwch ymysg ei bobl, ymgymerodd â'r cyfrifoldeb, ynghyd â'i gyd-ustusiaid, o weithredu'r gyfraith ymhlith ei gydnabod, yn bennaf mewn llysoedd sesiwn chwarter a'r llysoedd bach.