Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llywodraethol

llywodraethol

Rhain yw'r union bobl sy'n ffurfio'r mwyafrif o gyrff llywodraethol sefydliadau megis Coleg Ceredigion a'r CCTA yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi methu yn eu cyfrifoldebau i siroedd gwledig Cymru.

Argymhelliad Cymdeithas yr Iaith i'r ysgolion hyn yw i gyflawni'r lleiafswm o ofynion statudol fel Byrddau Llywodraethol unigol (e.e cynnal cyfarfod statudol rhieni/llywodraethwyr, cyhoeddi adroddiad blynyddol etc) ac hefyd i drin materion yn ymwneud â disgyblion unigol ar lefel ystod.

Mae yma gofnod trawiadol o'r modd yr oedd gafael y wasg radicalaidd yn niwedd y ganrif ddiwethaf yn cael ei gweld fel bygythiad difrifol gan y dosbarth llywodraethol Prydeinig a hynny nid yn lleiaf am mai yn yr iaith Gymraeg yr oedd y wasg honno yn ei mynegi ei hun.

Honnodd un cadfridog eu bod wedi llwyddo fwy nag unwaith i lanio timau bychain o filwyr yng Nghuba er mwyn llosgi cnydau siwgr a llofruddio swyddogion llywodraethol.

Y mae'r mwyafrif o economwyr bellach yn derbyn bod yr oediadau sydd ynghlwm wrth ymyriant llywodraethol, ynghyd â'r anghywirdeb sy'n nodweddu rhagolygiaeth economaidd, yn gwneud rheolaeth fanwl o'r economi yn hynod o anodd- onid, yn wir, yn amhosibl.

Disgwyliwn i'r Cynulliad fod yn atebol i gymunedau Cymru gan gryfhau grym ein cymunedau i fod yn gymunedau rhydd gan felly fod yn hollol agored yn ei holl weithredoedd a datblygu perthynas ystyrlon rhwng haenau llywodraethol Cymru.

I ateb y cwestiwn bwn, y mae'n rhaid dyfalu beth fyddai wedi digwydd petai'r llywodraeth heb ymyrryd, a chymharu cwrs tybiannol yr economi yn absenoldeb ymyriad llywodraethol â chwrs hanes.

Mae hyn oll yn dod yn fater brys iawn erbyn hyn oherwydd - cyn diwedd 1999 - mi fydd yn rhaid i bob ysgol wledig (yn ôl statud) ffurfio ei Bwrdd Llywodraethol unigol.

Galwn hefyd ar i'r Cynulliad ddatgan ei hawl foesol fel corff llywodraethol democrataidd ein gwlad i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, a mynnu gweithredu arni yn hytrach na'i gadael yn San Steffan.

Amcan ymyriant llywodraethol mewn sefyllfa o'r fath, fyddai ceisio lleihau osgled y toniannau.

Dylai pob Bwrdd Llywodraethol hefyd drafod sut y gellir agor ysgolion fel canolfannau addysg a diwylliant i'r gymuned gyfan a hybu addysg efallai i rieni a phlant ar y cyd e.e. dysgu Cymraeg i fewnfudwyr a'u plant.

Rhaid i'r Cynulliad dderbyn ei rym a'i awdurdod o'r gymuned ac oddi wrth ffynhonellau eraill o'r tu allan i'r Cynulliad os yw am fod yn offeryn llywodraethol effeithiol.

Yr un llywodraethol yw'r Mynegol sy'n consurio pendantrwydd.

Polisi tra gwahanol oedd ar dafod arweinydd glowyr Aberdâr, Charles Stanton: rhaid cynnull 'brigâd ymladdgar o lowyr' i herio trais yr heddlu a thrais y dosbarth llywodraethol, taranai.

Mae'r awyr yr un mor llywodraethol mewn llawer o'r dyfrluniau.

Gwynedd, wrth gwrs, yw'r corff llywodraethol mwyaf drwy'r wladwriaeth i gyd sy'n gweithredu'n fewnol mewn iaith ar wahân i Saesneg.

Y mae hyd yr oediad hwn yn dibynnu i ryw raddau ar y peirianwaith llywodraethol.