Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llywodraethwr

llywodraethwr

Mae'n ffaith bod yn Hong Kong heddiw nifer sylweddol, ymhlith y boblogaeth o bum miliwn a hanner, sydd heb allu siarad Saesneg; dyna gadarnhad o ffyniant yr agwedd herfeiddiol a barodd i'r llywodraethwr Robinson ganrif yn ôl awgrymu bod amharodrwydd Tseineaid Hong Kong i ymseisnigeiddio yn 'rhyfeddol, os nad gwaradwyddus'.

Y mae Geraint wedi'i addysgu, nid yn nyletswyddau marchog fel y bu rhaid gwneud yn achos Peredur wladaidd, ond fel llywodraethwr, a'i gyfrifoldeb ef bellach yw cynnal ei lys ei hun, amddiffyn ei derfynau ac ymgymryd â dyletswyddau arglwydd.

Caiff y Cyngor ei gadeirio gan y Llywodraethwr Cenedlaethol, sy'n eistedd ar Fwrdd Llywodraethwyr y BBC.

Un o drafferthion mwyaf Zulema, fodd bynnag, yw ei huchelgais gwleidyddol ei hunan, a ddechreuodd y diwrnod yr etholwyd Menem yn Llywodraethwr La Rioja.

Enw'r llywodraethwr oedd James Walmsley, Sais o Swydd Gaerhirfryn.

Yma y byddai nes y câi'r ddau fynd o flaen y llywodraethwr...

Dilyn twrnameintiau 'diffrwyth' yw ei fywyd yn hytrach na chynnal ei deyrnas yn arglwydd a llywodraethwr aeddfed.

Mae'n gyn-gadeirydd a llywodraethwr ysgol gynradd leol, yn un o swyddogion Clwb Athletau Pontypridd ac wedi rhedeg marathon Llundain bum gwaith.

Ond mewn gwledydd eraill, lle nad oedd y brenin neu'r llywodraethwr wedi llwyddo lawn cystal i orfodi'i ewyllys ei hun ar draul hawliau'r Eglwys, byddai'n demtasiwn o'r mwyaf iddo fabwysiadu dysgeidiaethau hereticaidd a roddai iddo gyfoeth ac awdurdod ac a fyddai'n haws eu hieuo wrth agwedd ffafriol ei ddeiliaid tuag at iaith a chenedlaetholdeb.

A oes llywodraethwr ac aelod o dîm yr uwch-reolwyr â chyfrifoldeb arbennig am AAA?