Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lo

lo

Bu gwraig y Gweinidog Wesle yn ddigon diniwed i ofyn, "Pa bryd gaf fi lo, Mr Thomas?" A'r ateb!

Synfyfyrio wedyn am orchest David Davies yn y De gyda'r Fasnach Lo a Dociau'r Barri.

Dyma fi a Robin El, wrth ddþad adra o'r ysgol yn tynnu'u cyrc nhw, new yr oedd y lôn yn un foddfa o dar 'run fath â'r Trinidad Lake, ac yr oedd yn rhaid i drigolion y Waen fynd trosodd i gae Tai Croesion i fynd heibio.

Arogl y cytiau tywyll ac anadl boeth y lloi wrth darllen am roi bys i lo bach i'w annog i yfed o bwced yn hytrach na sugno'r deth.

Ni welais i erioed gyfeiriad at gloddio am lo yn yr ardal a, hyd y gwn, nid oes yna unrhyw dystiolaeth fod glo i'w gael dan y ddaear neu ar y brig yno.

Un bore Gwener fe welwyd Jim yn crymu o dan bwysau cant o lo ar ei ffordd i gwt glo Ty'r Ysgol yn ystod arddangosiad celfydd i ni'r plant gan y prifathro o grefft taflu lasso.Bu'r demtasiwn yn ormod i'r gwr o Batagonia.

o eitem lO: Cytunwyd nad oedd y mesurau diogelwch ychwanegol yn yr adeilad ym Mlaenau Ffestiniog yn wir berthnasol i'r Ganolfan Gynghori.

Yn y lôn a'r gerddi hyn ymgasglai pawb a oedd wedi dilyn y trên ar hyd y cledrau a phennau'r cloddiau.

Rhedai lôn ar y crib y clawdd deheuol, tu ôl i dai Bryn Road, gyda gerddi cefn High Street ar gopa'r clawdd i'r gogledd.

"I gerdded lôn Plas Madyn er mwyn gweld y fan lle cwympodd y merlod." Disgleiriodd llygaid Einion a Llinos.

Safodd am funud yng ngheg y lôn fel un nad oedd yn siŵr pa ffordd a gymerai.

Bwriad y Gronfa Gredyd yw i gynorthwyo pobl ar gyflogau isel neu sy'n dibynnu ar y wladwriaeth am gynhaliaeth, i helpu i gilydd drwy gynilo symiau bychain o arian, ac wedyn benthyca arian ar lôg isel.

Cofia, saith o'r gloch nos Lun." Wrth sefyll am foment ar ben y lôn wedi dywedyd 'Nos dawch,' clywn fy nghyfaill Williams yn mwmian canu - "'Does unman yn debyg i gartref." Pan gyrhaeddais gyffiniau Siop y Sgwâr ar noson y cinio yr oedd yn amlwg fod ysbryd y Nadolig wedi meddiannu'r lle.

'Gwell i tithe fynd ffor 'ny c'lo!" Wrth sgrifennu hanes siwrne hir a gwag fel hyn, mae'n rhaid i mi gael dweud i mi fwynhau'r dydd yn Aberteifi.

Fe'i gwelwyd yng nghyffiniau Tyddyn Bach yn ystod y bore a thystiai Ann Jones, Fferm Trefadog, iddi ei weld yn pori'i wartheg ar y lôn bost tua deuddeg o'r gloch.

Ond yna fe ddechreuodd pobl droi at fathau eraill o danwydd, olew yn arbennig, a bu llai a llai o alw am lo, a bu'n ergyd farwol i'r diwydiant.

Mi fuon ni ar hyd lôn Bicall pnawn 'ma, a gweld bod 'na olwg go lew am gnau, a rhai wedi tyfu mor fawr nes basa rhywun yn meddwl yn siŵr eu bod nhw'n barod.

Edrychodd yn gyflym yn ei ddrych, cyn llywio'r car i'r lôn araf a dilyn yr arwyddion tua'r gwasanaethau cyfagos.

Ar yr un pryd cofiwn mai o ranbarthau China y gwelir y twf economaidd cyflymaf ac i'r un wlad y perthyn y stôr mwyaf o lo yn y byd.

Hyfrydwch tangnefeddus Y Lôn Goed sy'n treiddio trwy'r ddau bennill olaf, a'r profiad o gerdded hyd-ddi yn werthfawr ynddo'i hun yn hytrach nag fel moddion i fwynhau unrhyw brofiad pellach:

Nid sach fechan tebyg i sach lo oedd hon, ond o'r un maint â sach wenith ers talwm, ac roedd hi wedi'i stwffio'n llawn dop â rupies.

Agor doc 'Queen Alexandia' yng Ngherdydd i allforio rhagor o lo.

Er enghraifft, cloddiwyd trigain miliwn tunnell o lo o'i daear yn y flwyddyn cyn dechrau'r rhyfel byd cyntaf heb fod gan Gymru odid ddim i'w ddangos mewn canlyniad.

'Un noson dywyll, stormus, mae rhyw þr parchus yn teithio adref yn ei gar, ar hyd lôn brysur ac yn gweld merch ifanc yn ffawdheglu.

Pan gafwyd hyd i lot o lo a haearn ac ati mewn rhannau o Urmyc fe ddaeth yna filoedd o bobl ddieithr i mewn ac fe stopiwyd siarad Urmyceg cyn hir yn y lleoedd hynny achos iaith pobol dlawd oedd hi.

Mae yr un mor abswrd â dweud wrth ddyn glo ei fod yn cario sachaid o blu ac nid sachaid o lo.

Rhaid oedd iddo ddanfon y plant bob dydd o'r fferm i'r lôn fawr at y bws ysgol, gan mai bychan oeddynt, a'r daith o'r fferm i'r lôn yn bell.

Kelly heb Stu a Rich: Cafwyd cadarnhad y bydd Kelly Jones o'r Stereophonics yn teithio ar ei ben ei hun fis Tachwedd gan gychwyn yn Nulyn ar Dachwedd 13 a gorffen yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd, Tachwedd 24.

Enwau ar yr haenau o lo sy'n britho'r ardal ydynt, wrth gwrs, ac er bod y mwyafrif llethol o lofeydd y gymdogaeth bellach wedi cau, y mae enwau'r gwythiennau glo yn dal ar dafod leferydd glowyr y fro.

Un hwyr, pan oeddwn yn dychwelyd i'm cartref o Lyn Rhosyn, rhedodd y ferch allan 'o lôn gefn gul' yn syth o'm blaen.

Wedi cyrraedd ceg lôn y plas roedd y Llewod yn fwy gwyliadwrus.

Hwnnw stumiodd rhyw beipan wrth dynhau rhyw raff amdani i dynnu rhyw lo Charli mawr a aned yno wyth mlynadd yn ôl.

Er enghraifft, taflu darn o lo i mewn i siop sy'n agor am y tro syntaf - y glo yn cynrychioli rhinweddau'r Fam Ddaear.

A'r diwrnod wedyn, dyma fan fawr yn dod at y tŷ ym mhen draw'r lôn.

Yn y cofiant dyfynnir yr atgof diddorol hwn o gyfrol Kate Roberts, Y Lôn Wen (tud.

Rhennir y llun yn dair rhan: yr awyr o amgylch y felin yn llenwi hanner y canfas, yna'r caeau llafur ar oleddf, a'r creigiau yn y blaendir a lôn yn troelli rhyngddynt.

'Maen nhw'n gyrru fel ffyliaid i fyny ac i lawr y lôn yna bob awr o'r dydd a'r nos.

Roedd o'n mynd i drwshio tolynod y giât lôn, rhoi giatia newydd ym mhob cae, cilia concrit i ddal pob giât a'r cwbwl yn cau heb linyn bêl!

'Doedd dim hanas am lo.

Lledwyd y lôn ac, yn bwysicach fyth, gosodwyd palmant drwy'r pentref.

Clywsant sŵn traed yn dod i lawr y lôn o gyfeiriad y plas, a synnwyd y pump pan welsant mai Meurig Puw y Wenallt oedd yno.

Mrs Owen, Lôn Goch (mam y Prifardd Dafydd Owen) fyddai'n fy nysgu i adrodd a thrwy ei hymroddiad hi y llwyddais i ennill nifer o wobrau.

Roedd un slogan yn unigryw i Ciwba: `Lo quo amamos cuidamos'.

Roedd hi'n nosi, a neb i'w weld yn cerdded ar hyd y lôn unig oedd yn arwain at ddrws y caban.

"Mi rydw i'n cofio adag pan fasach chi'n medru gorfadd ar ben lôn King am ryw hannar awr heb i ddim fynd trostach chi.

Ddoe daeth Mrs Davies i'n gweld ni i sôn am drydan ac naeth hi ddod a Wilbi hefyd ac naeth hi ddeud wrthym ni i beidio a chwarae hefo barcud lle mae yna wifren ac os ydi'r ffrisbi wedi mynd ir is orsaf gofun wrth mam neu dad i ffonio Manweb i nôl o ac peidiwch chwarae pêl ar y lôn pan maer dynion yn trwsio gwifrau yn y lon.

Rhoes y golygydd, a gymerai gymaint o ddiddordeb yng ngorffennol byw ei fudiad, gyfle i'w ddarllenwyr gael golwg ar gynnwys rhyfeddol dyddiaduron pwysig fel eiddo Evan Humphreys, Pen-lôn; John Jenkins, Glynmeherin; Gwilym Marles,i Llwyn, a John Thomas o Landysul.

Ac i ffwrdd â nhw i lawr y lôn i ddal y bws i'r dre.

Wrth imi ei gychwyn adref i fyny'r lôn, ymdrawodd i'm meddwl yn sydyn y gallsai Huw Huws fod yn gynhorthwy i yrru Anti Lw ymaith.

Da y cofiaf Jim yn cwympo yn ei hyd wrth gario cydaid o lo ar ei gefn ac yn addo "medal fel plat cino Dydd Sul" i'm ffrind a finne am helpu i glirio'r llanast.

Doedd Manon yn hidio fawr am Isan 'chwaith, ond doedd hi ddim am roi rhagor o lo ar y tân a chynhyrfu Gwyn yn waeth.

'Mae'r gwir yn lladd, tydi?' edliwiodd Nel a dyma hi'n estyn ei braich allan ac yn gwthio pen ei bys i ganol ei fol oni chollodd ei gydbwysedd yn llwyr a chwympo'n glewt ar lawr a'i helmet las a'i lyfryn yn fflio ar chwâl i ganol y lôn.

Danfonais ef at lidiart y lôn er mwyn ei chau ar ei ôl.

Yr adeg honno rhaid oedd allforio unrhyw gynnyrch tebyg i lo gan nad oedd rheilffyrdd i'w cael a defnyddio'r camlesi'n ychwanegu'n ddirfawr at y gost, a'r gwaith yn llafurus iawn.

Daw bywiogrwydd arddull Youenn Drezen a'i glust am ddeialog i'r amlwg eto yn ei ddramâu byrion, a gyhoeddwyd dan y teitl Youenn Vras hag eu Leue (Owain Fawr a'i Lo).POT-POURRI - Herbert Hughes

Wrth gychwyn i fyny'r lôn at y tþ wedyn, ceisiais osgoi gweld y garreg fawr a saif o hyd fel arwydd o'm euogrwydd mewn perthynas â Gruff, ac erbyn hyn o bob methiant ac euogrwydd arall yn fy mywyd.

Rydym am farchogaeth dau ferlyn ar hyd y lôn ym mherfedd nos, a gobeithio y cawn weld yr ysbryd!

Ar yr un pryd, ceisiwyd atal llif y twyni trwy'u hamdoi a changhennau coed bythwyrdd, a'u plannu â moresg a thyweirch o laswellt ochr-lôn.

Un o'r lluniau mwyaf tirweddol yn yr arddangosfa yw Yr Allt lle mae cae yn y blaendir mewn gwyrdd golau a du, a ffens a weiran bigog yn rhedeg o flaen y llun i fyny'r ochr gydag ymyl y lôn.

Er enghraifft, os ydym yn gwybod faint y mae glofa yn ei gynhyrchu, gall fod yn fater eithaf hawdd, trwy gynllunio'r cyfrifon yn briodol, i gyfrif cost tunnell o lo.

Noson John Peel, PJ Harvey, Tystion, Reviver Gene - Y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd.

"Mae o'n tynnu pobol, beth bynnag," meddwn "Gobeithio y dôn nhw i weld y perfformiad." "O, mi fydd 'na rai yn bodloni ar ei weld o'n mynd a dwad, 'run fath a'r tywysog yng Ngholeg Aberystwyth." Mae 'ma gar yn troi i mewn i lôn yr ysgol; ia, fo ydi o, mae'r gofalwr yn agor y giât." Yr oedd y cynnwrf yn dechrau cydio ynof finnau.

Droeon tra'n teithio yn fy nghar (piws!) ar hyd y ffordd brysur rhwng Caernarfon a Bangor yn y mis bach, gwelais sguthannod yn gelain ar y lôn wrth droed wal fawr Stad y Faenol.

Doedd dim sôn amdano yn unman, Mi gerddais i lawr y lôn gefn yn galw arno fo gan ddisgwyl ei weld yn dod dros ben y wal o rywle, ond doedd dim golwg ohono fo.