Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

loes

loes

Roedd hyn yn dipyn o loes i'm cydletywr, ond doedd wiw iddo ef brofi ohono; ac atgoffwn innau ef yn gyson â'r geiriau: "Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn!" Roedd honno'n flwyddyn galed iawn, ond bwriais iddi'n ddiarbed gan y gwyddwn yn dda na fyddai ailgynnig mewn cyfnod felly.

Gwelsom hyn yn digwydd droeon a thro yn ystod y gêm yn erbyn De Affrica a maen elfen a barodd loes imi.

Er mawr loes i Harri Gwynn ceryddwyd ef gan nifer o wþr blaenllaw y genedl am feddwl derbyn y fath ychwanegiad i'w gyflog a dywedwyd wrtho mai ei ddyletswydd oedd ad-dalu cyfran sylweddol ohono.

Achosodd yr hyn a welwyd fel brad ar ran yr SPD loes mwy personol i Schneider hefyd.

'I ba beth y gwnaed y Cymry?' , meddai'n guchiog rhyw dro, 'I durio y ddaear i'r Sais, a'i arbed ef rhag gweithio.' Loes calon iddo ef oedd gweld cynifer o Saeson yn ymgyfoethogi ar draul y Cymry, yn ysbeilio crombil y ddaear o 'frasder oesoedd' ac yn 'ddiwyd gasglu i'w llogellau gynnyrch trysorau ein gwlad'.

Dywed y bardd fod y sefyllfa drist a fodolai yn peri loes iddo ef a'i deulu.

Ac yntau o gefndir glofaol ei hun y mae'r ffaith fod gan lenyddiaeth Gymraeg gyn lleied i'w ddweud am ddiwylllant y glowr yn achos loes arbennig i Hywel Teifi.

O loes!

Yn awr mae'n eiriol yn y nef, Erfyniwn am fyn'd ato ef; I'r wlad lle nad oes loes na chlwy', Ac na fydd rhaid ymadael mwy.

Loes i mi oedd cael fy nhaflu i ymryson ag ef yn y mater hwn.

Sdim eisiau gwneud loes i neb, mae teimladau gyda ni i gyd.

Ond os mynnwch gael ansoddair ar ôl y gair 'llenor', y mae'n peri loes i mi'ch ateb.

Mae yn loes i mi fod y rhaglen 'Dechrau Canu' yn cadw pobl o'r capel.

Mae'n amlwg mai diwedd y cynnwrf a'r gobaith a oedd yn rhan o wleidydda'r myfyrwyr ar ddiwedd y chwedegau a barodd y loes fwyaf iddo.

Bu yn byw yn Llundain, lle bu ei unig ferch fach farw, a bu hyn yn loes drom iddo.

Dacw'r nefoedd fawr ei hunan 'N awr yn diodde' angau loes, Dacw obaith yr holl ddaear Heddiw'n hongian ar y groes; Dacw noddfa pechaduriaid, Dacw'r Meddyg, dacw'r fan Caf fi wella'r holl archollion Dyfnion sy ar fy enaid gwan.