Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lol

lol

Petai'r goeden gyraints duon honno gan yr estate agent , ac yntau eisiau ei gwerthu, ni fuasai'n chwarae o gwmpas gyda rhyw lol am haul a lleuad.

Os wyt ti'n fodlon, fe ddof i draw yr wythnos nesaf, gan ofalu gwneud hynny'n ddi-lol wrth gwrs, rhag iddyn nhw amau dim.

Yr oedd Huw Huws yn bopeth gwrthwyneb i Anti Lw; yn smociwr trwm, yn fwytawr harti a di-lol, a gallai greu awyrgylch mewn amser, hwyrach mewn un noson, a yrrai'r foneddiges gymhenllyd honno ar ffo.

Finna'r adeg honno'n ddigon gwirion i goelio dy lol di, Morys, ac yn ddigon diniwed i gredu fod dagrau'r hen Ifan 'na'n dwad o grombil ei fol.

'Dwi'n methu dallt y lol a'r brolio 'sgin y merched 'ma am y washing machines a rhyw gybôl felly.

Gobeithio nad wyt ti ddim yn dechre'r lol yna eto?

Nodwedd arall yn ei gymeriad a'i gwnâi'n fugail effeithiol oedd ei allu i siarad yn ddi- lol â neb pwy bynnag.

'Tŷ glân, calon lân.' Lol mi lol, meddyliodd Mam.

'Twt lol, Modryb,' meddai he fel pe bai hi'n siarad efo Huw pan oedd o'n dychmygu pethau, 'dim ond sŵn y gwynt.' Trodd ei modryb a'i llywio'n ôl i gyfeiriad ei stafell wely gerfydd ei hysgwyddau.

Felly penderfynais i os oeddwn i am fyw yng Nghymru byddai'n rhaid imi ddysgu'r Gymraeg er mwyn medru symud o gwmpas yn ddi-lol.

"Rwan, dim o dy lol di," meddai'r bachgen, ac ar y gair, agorwyd drws yr ysgol yn sydyn, a daeth Mr Roberts allan.

Newyddion gwell ydi fod gwyddoniaeth fodern wedi darganfod nad oedd yr hen AStecs a Sbaenwyr yna ddim yn siarad cymaint â hynny o lol wrth ddweud mai siocled ydi'r petrol sy'n mynd i roi nwydau rhywun mewn ofyrdreif.

Denodd fonllefau o anghrediniaeth o du cynulleidfaoedd teledu America ugain mlynedd yn ôl drwy ymhelaethu'n ddi-lol am olchi llestri a rhyw orchwylion mundane felly nad oedd sêr fod ymhel â nhw.

Fedr wyddost-ti-pwy ddim clywed ein sgwrs ni wedyn." Dechreuodd Llefelys siarad drwy'r beipen a Lludd yn gwrando, ond roedd yr hyn a glywai yn lol llwyr.

Cyhoeddi Lol am y tro cyntaf.

Daliai hi i gael pyliau anniddig ynglŷn â'i ymddygiad pan ddarganfu lun ei wraig ac 'roedd sicrwydd di-lol Lleucu'n ei sicrhau hithau hefyd.

'Ydi hanner coron yn ddigon i dalu am het pregethwr, deudwch?' Twt lol,' atebais, "does dim eisio ichi dalu dim.

Erbyn hyn roedd yr hogiau wedi dechrau blino ar y lol yma ac fe daflwyd amheuon ar gyfreithlondeb priodas rhieni'r gyrrwr, ymysg rhegfeydd eraill.

Lol ydi hyn i gyd wrth gwrs.

'Rwyt ti'n siarad lol, Tudur,' ebe Siân ar ei draws yn ddwys.