Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

longyfarch

longyfarch

Mae pawb yn ei longyfarch am chwarae mor dda ac mae'r criw yn dechrau paratoi ar gyfer gêm arall.

Dymunwn hefyd longyfarch Mrs Beryl Heber Owen, Tanrallt, a fydd yn y dyfodol agos yn derbyn medal arian gan y RNLI.

Ond trwy wneud hyn caiff ei longyfarch ei hun ei fod yn foddion achub ei genedl rhag marwolaeth, tra ar yr un pryd yn ei brysur ladd ei hun fel gwir lenor.

Rwyt yn dy longyfarch dy hun am fod mor hirben â'i gael i'th arwain; fe fyddi allan o'r goedwig ofnadwy yma ymhen dim amser.

Rhaid ei longyfarch e yn y lle cynta, meddai Clive.

Os yw'r gêm ar y teledu mae'n ymwybodol o leoliad y camerâu ac yn gwneud yn siwr ei fod yn cael ei weld; er enghraifft os yw rhywun wedi sgorio gol yn ystod yr hanner cyntaf bydd yn mynd ato i'w longyfarch wrth i'r chwaraewyr adael y maes neu yn achos un reff o Gymro yn ystod gêm rhwng Man U a Tottenham yn gadael y maes adeg tafliad o'r ystlys er mwyn cael sbwnj oer ar ei dalcen.

Ond yr wyf yr un mor ymwybodol o'r perygl i genedl fach longyfarch ei hawduron am yr unig reswm eu bod yn sgrifennu yn y famiaith.

Yn y tacsi ar ein ffordd 'nôl i'r maes awyr, troais at Norman i'w longyfarch.

A phan gafodd yr athro achlysur i longyfarch Hector ar ateb i ryw bwnc bach nid oedd terfynau i lawenydd y disgybl newydd, a phan ofynnodd un o'r merched yn y dosbarth i Hector, wedi'r wers, am help a chyfarwydd ar bwynt a barai anhawster iddi, teimlodd yntau, am y tro cyntaf, efallai, ias o'r pleser a ddaw o awdurdod o oleuni cywir ar y broblem.

Plygodd i gusanu'r merched, gan longyfarch Glenys ar ei siwt, ac Elsbeth ar ei bathodyn Band of Hope.