Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lonydd

lonydd

Cefais lonydd i gilio i'r coridor tywyll wrth ymyl y gegin, i atal y ffrwd o'm trwyn ac i lyfu 'nghlwyfau.

A'r wlad a gafodd lonydd.

"Ond cofia," ychwanegodd, "mi fydd yn rhaid i ti roi cweir i un o'r hogia cyn y cei di lonydd ganddyn nhw." Er cased gen i glywed y newydd hwn ganddo, sylwn gyda boddhad ei fod wedi newid y "chi% bell i'r "ti% agosach ac anwylach.

Am y gwyddant yn eu calonnau y dylai Cymru fod yn ymreolus y mae ganddynt gydwybod Gymreig na rydd lonydd iddynt, gan wneud gwarth eu hannheyrngarwch yn fwy llidus.

Mae'n amlwg fod yr ychen yn hynod o lonydd bryd hynny a barnu wrth y ffordd roedd yn dal y pen!

Yr oedd i'w glywed ym mhobman, mewn tŷ a siop, ar fynydd ac ar draeth, nes o'r diwedd i fasnachwyr llygadog weld cyfle i farchnata'r setiau bach i'w rhoi mewn poced a'u gwifrau'n cysylltu i gyrn ysbwng am y clustiau nes bod y gwrandawyr yn edrych fel pe baen nhw yn rhan o ryw 'dyrfa lonydd lan' a hanner gwen ar eu hwynebau a golau byd arall yn eu llygaid.

Ar ôl awr o gerdded y lonydd y tu allan, a hithe'n dechrau tywyllu, bu raid iddi gydnabod nad oedd Rick am ddod.

Cymerai arno wrth ei deulu ei fod yn gweithio'n galed ac felly cai lonydd iorweddian yn ei lofft am oriau.

Mi gei lonydd bellach." Pan oeddwn yn cael te y prynhawn hwnnw a minnau'n ceisio ateb cwestiynau Mam ynghylch yr ysgol a chelu oddi wrthi hanes yr ymladdfa, daeth cnoc ar y drws.

'Mae'n rhaid i mi gael cryn lonydd i fynd i mewn i'r cymeriad', meddai.

Gorwedda'r marchog yn hollol lonydd.

O'r gorau,' meddyliodd Glyn, mi gei di lonydd yr hen foi.' Eisteddodd yn ôl yn ei sedd i edrych ar y sêr drwy'r ffenestri yn nho ac yn nhrwyn yr awyren.

Twristiaeth ydi'r ffon fara bwysicaf ac mae'n wir dweud bod y lonydd culion yn frith o sgwteri a motobeics er bod yna wasanaeth bysiau cyhoeddus rhagorol a rhad.

Pan gâi lonydd (ganddo ef ei hunan a chan eraill) at y cofiant yr âi - ac, yn awr ac yn y man, at y cofiant i Goronwy Owen yr oedd hefyd yn ei gynllunio.

Gwnaeth Jabas yn fawr o'i gyfle gan fod y mor yn hollol lonydd o hyd ac yn agos i ben llanw.

Y mae rhywun yn cydymdeimlo â'r Tywysog William pan yw ef a'i dad a'i daid a'i nain yn erfyn am lonydd iddo fyw ei fywyd heb ymyrraeth newyddiadurwyr a thynwyr lluniau.

Safodd Siân a Tudur yn hollol lonydd ac yn hollol fud am funudau hirion gan syllu ar y sach agored yn y twll o'u blaenau.

Er gwaethaf drewdod y llygoden a'i hymdrech i gosi dy drwyn, llwyddaist i gadw'n hollol lonydd wrth i un o'r milwyr gerdded atat.

Fe gawn ni lonydd yn y fan honno.

"Gwynt teg o'u hôl nhw, gobeithio y can ni dipyn o lonydd rwan wedi gweld cefna'r haflig am sbel eto.'

'Os cân' nhw lonydd yn ddigon hir, fe ddaw natur i'w hadfeddiannu nhw, ac i wella'r clwyf fel petai,' meddai.

Dim rhyfedd ei fod o wedi galw am lonydd.

'Gad lonydd i 'mrawd bach i, y bwli hyll!' gwaeddodd Elen.

Ar unwaith anfonwyd cwch i aros yn y môr gerllaw'r clogwyn, a rhuthrodd ambiwlans drwy'r lonydd cul gyda thîm achub ynddi.

Gad ti lonydd iddo fo ac mi gei di weld!

A thrwy'r adeg wrth iddi ddod ni adawodd yr Angau lonydd iddi.

Bu cryn bwysau arno i chwarae golff, ond mynnai mai gêm i bobl heb ei gwneud hi oedd honno, gêm lonydd barchus i athrawon a gweithwyr banc, pobl heb lawer o egni meddyliol heb sôn am gorfforol.

Ond roedd pob un yn berffaith lonydd, fel delw garreg.

'Paid â disgwyl gormod o lonydd - mae hi'n amsar cynhaea pry cop.

Chwarddodd pawb, a chafodd Francis lonydd.

Dyna fel y cei di lonydd ganddyn nhw.