Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

loriau

loriau

Parodd streic y gyrwyr loriau i silffoedd a chistiau'r siopau mawr gael eu gwagio'n noethlwm hyd at y fframau.

Ac yr oedd yn yr un adeilad wraig dlawd a'i gorchwyl ydoedd glanhau lloriau swyddfeydd, a'r grisiau a gysylltai loriau gwahanol yr adeilad hwnnw.

Gŵr hynaws dros ben, ac yn gresynu nad oeddwn i wedi gofyn am gar i'm cludo yno (roeddwn i wedi cyrraedd mewn rickshaw-peiriannol, ac rwy'n dechrau arfer gweu i mewn ac allan dan draed loriau a bysiau).

Mae loriau i'w gweld, a beics, a llyn mwy, a rhai tai sy'n sefyll yn eu tir eu hunain.

Nid edrychai'n fygythiad i ddim ar y pryd wrth i'r perchnogion newydd balch eistedd o'i flaen am y tro cyntaf i wylio'r ceffylau yn neidio'r clwydi neu'r dawnswyr syber yn chwyrlio'u partneriaid fflownsiog ar loriau llithrig y neuaddau crand berfeddion nos.

Mae David Bradshaw yn berchennog cwmni loriau yn Abertawe.

Un gred gyffredin yw fod gosod penglogau o dan loriau eglwysi yn fodd i atal atsain, ond y mae'n bur debyg mai ymgais crefyddwyr yw'r gred hon i geisio cyfiawnhau hen arfer gyn-Gristnogol.