Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lundan

lundan

"Mae gan bobol Pen'sarwaen," medda fi, "gystal hawl â neb i wybod faint o ffordd sydd yna i Lundan." Doedd ganddo fo ddim atebiad i hynny, ond mi lloriodd fi hefo peth arall.

"A pheth arall," medda fi, ar ôl iddo fo gael cyfla i ddžad i lawr o ben ei gawall, "lle mae'r lechan las honno oedd yn y clawdd yn deud fod yna dros hannar cant o filltiroedd dros ddeugant i Lundan?" Wydda fo ddim, a doedd dim gwahaniaeth gynno fo chwaith.