Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lusgo

lusgo

Defnyddiwch y saeth dewis i lusgo ar draws y diagram i gyd (o'r top chwith i'r gwaelod dde) fe gewch linell fylchog grynedig o gwmpas y diagram, wrth ichwi adael i fotwm y llygoden godi bydd pob gwrthrych yn cael ei ddewis fel yn y diagram ar y dde isod.

Pwysai'r cŵn eu traed a'u hewinedd yn erbyn y grisiau wrth fy nhynnu i fyny gerfydd fy jersi." "Mae'n wyrth na ddrylliodd y defnydd wedi'r holl lusgo," ebe'i fab.

Llwyddodd y cerddi hyn i lusgo cystadleuaeth y Goron o'r merddwr yr oedd ynddo ar y pryd, a rhoi nod a chyfeiriad pendant i feirdd rhydd y dyfodol.

Cefaist fwy na digon o gynghori a phregethu, a blino cael dy lusgo ar draws gwlad, ond uchel oedd ei fwriad.

clywodd ef yn glir : y gair wedi ei lusgo a rhoi iddo don ymbilgar, sw ^ n anobaith.

Nid chdi 'di'r gynta'.' 'Ifan Ifans?' 'Ia?' ''Dwi'n mynd i gal babi rwan.' Brysiodd William Huws i lawr grisiau'r bus, gan ddarn-lusgo'r hwch i'w ganlyn, wedi gwerthu'i gymydog am lai na chawl ffacbys.

Wedi dod yn rhydd o'r breichiau cryfion cafodd JR ei lusgo i'r gadair freichiau ger y tân a rhoddodd Laura Elin orchymyn siarp i'w mab Hywal, a eisteddai ar y stôl drithroed, yn pigo'i drwyn, i symud 'i hen betha oddi ar y bwrdd i'r gŵr bonheddig gal tamad yn 'i grombil.

Wrth i'r Bwrdd gyhoeddi y byddan nhw'n dosbarthu drafft o ganllawiau iaith yn yr Hydref, fe gawson nhw'u beirniadu gan Eleri Carrog o'r mudiad Cefn am lusgo'u traed.

Yr oedd yn gyfnod pan oedd chwyddiant yn rhyw lusgo yn araf o un flwyddyn i'r llall, bron yn ddisylw, a 'does rhyfedd felly fod y rhan fwyaf ohonom yn dal i ddioddef gan ryw 'rith ariannol'.

Atolygwn arnat, serch hynny, i ...' Tagwyd y weddi gynnes cyn iddi gyrraedd ei hanterth gan swn Pyrs, y coetsmon, un heglog ar ei orau, yn darn-lusgo cist ei feistres drwy ffrâm gyfyng y drws allan.

Gwthiodd ei hun ymlaen ar ei ben-lin a'i benelin dde am ychydig, gan lusgo'i fraich a'i goes chwith yn boenus ar ei ôl.

Ymhen tridiau câi drafferth i lusgo'i gorff ar hyd llwybr yr ardd, gan ei fod yn ei ddau ddwbl erbyn hynny.

Gwisgais fy 'llinyn G' a'm clocsiau, cyn inni lusgo'r corffyn allan a'i archwilio.

Dilyn esiampl yr Almaen a wnaeth Cymro amlycaf ei oes, a'i wobr oedd gwybod fod gweithwyr yn gallu cael cynhaliaeth hyd yn oed mewn salwch trwy lusgo byw 'ar y Lloyd George'.

Tasg go wahanol yw llusgo dan amgylchiadau felly i lusgo ar draws gwlad.

gwelodd ellis owen ar unwaith na allai yn ei fyw ddal gafael yn hir cyn cael ei lusgo gan y lli erchyll a 'i hyrddio yn erbyn y clogwyni yn is i lawr.

Roedd yn gweiddi mewn poen wrth geisio symud, ond gan fod ei gyfaill mewn cyflwr gwell, fe lwyddodd hwnnw i lusgo'i hun yn ôl at geg y ffordd.

"Mae'n rhaid i mi beidio â'i gollwng," meddyliodd, gan barhau i gael ei lusgo drwy'r tonnau a chan gofio'r tro hwnnw y syrthiodd oddi ar ei geffyl ers talwm a chael ei dynnu ar hyd y ddaear gydag un droed yn sownd yn y warthol.

Pan geisiodd y gŵr camera ddringo i mewn i'r car, gyrrwyd y cerbyd i ffwrdd gan lusgo'r dyn ar ei hyd drwy'r mwd.

Ceisiodd ei godi ei hun o'r dŵr wrth iddo gael ei lusgo drwy'r tonnau.

Cliciwch ar yr erfyn petryal a gwnewch betryal fel sydd i'w weld isod trwy lusgo ar draws y sgrîn i gynhyrchu'r petryal.

Wrth i Lili chwarae mae Tedi'n cael ei lusgo i ffwrdd ar gortyn barcud ac yn glanio mewn coedwig - ac yn mynd ar goll.

Doedd yna ddim son yr adeg honno am lusgo pobl wedi eu lapio mewn tystysgrifau geni o bendraw'r byd.