Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lwc

lwc

'Dyma lwc!

mae tros hanner teulu'r nico yn mudo i Ffrainc ac i Sbaen tros y Gaeaf ond wrth lwc mae amryw yn aros yma.

Bydd pobl sy'n gamblo'n broffesiynol yn ymwybodol iawn o lwc ac anlwc ac oherwydd hynny yn ofergoelus iawn.

Drwy lwc iddi hi mae Reg wedi maddau am y cwbwl.

Wrth lwc, roedd pridd y ffordd wedi sychu yng ngwres yr haul ac roedd fel gyrru trwy gae newydd ei aredig.

Gall peilot gadw'i lwc drwy wagio'i bocedi ar y ddaear ar ôl glanio fel pe bai'n ail-gyflwyno aberth o ddiolch am gael siwrnai ddiogel.

Ifan Ralltgoch, oedd mor blaen ei dafod a hunanwrthrychol, ond mor garedig mewn cymdeithas ag ydi lwc wrth y lwcus.

Os ydych wedi cael llawer o lwc wrth ddefnyddio un hen ffon yna dylech ei chario gyda chi yn y bag er nad yw'n cael ei defnyddio bellach.

Un cysur sydd gan y gamblwr anlwcus yw'r gred fod y sawl sy'n cael anlwc efo'r cardiau yn cael lwc mewn cariad!

Ychydig iawn o lwc mae Mark wedi ei gael gyda merched ond 'roedd mewn cariad gyda Sharon Burgess a bu'n cyd-fyw â hi.

Cael a chael oedd hi wedyn ond am unwaith roedd y lwc efo Abertawe.

Wrth lwc roedd lle iddo fynd heibio ond arafodd a gwelais wyneb mawr coch yn gwenu drwy'r ffenestr.

Hei lwc y gallwn ei ladd, neu ei ddal." Un diwrnod bu brwydr fawr yr yr awyr uwchben traethau Ffrainc.

Gyda lwc byddai hyn yn golygu cael stori hefyd.

Dyna lwc iddi ei achub o'r bag sbwriel yn union ar ôl i Mam ei daflu.

Os gwerthir car fu'n eiddo i berson enwog, llwyddiannus neu gyfoethog, bydd pobl yn heidio i brynu'r car yn y gobaith y caiff lwc y cyn-berchennog ei drosglwyddo i'r perchennog newydd gyda'r cerbyd.

Cred y gellir gweithredu mewn modd arbennig er mwyn sicrhau lwc dda - ennyn bendith a'ch diogelu eich hunain ac eraill rhag aflwydd, yn aml drwy gymorth swynion.

Gyda lwc, mi fyddai adra ymhen pythefnos, efo'r dilead am fod yn hogyn da.

Pob lwc i'r hogia o Lanrug efor cd arbennig yma.

Yn anffodus mae angen mwy na lwc ar amddiffyn Wrecsam.

Pob lwc iddynt.

Pob Lwc i chi.

ond hei lwc na fyddai angen hynny, a chamodd tuag at ei gerbyd, neu, o leiaf, dechreuodd gamu.

Yn y pumdegau hefyd y dechreuodd y gred fod gweld fan bost yn gallu dod â lwc neu anlwc i berson.

Bu'r ddau yn pysgota mewn tawelwch am dipyn ond heb fawr o lwc.

Wrth lwc, dim ond am eiliad neu ddau y digwyddodd hynny.

Trwy lwc a bendith newidiodd y ddau grychydd eu cwrs ac yn lle mynd drosodd i'r 'Ynys Werdd', troesant eu hwynebau tuag adref gan ollwng eu llwyth ar Fanc Dihewid rhyw bum milltir o Silian.

Mae hi'n argoeli'n flwyddyn a hanner i artistiaid Cymreig felly, ac ni allwn ond dymuno pob lwc i bob un, er nad oes angen peth felly ar yr un ohonyn nhw.

Hwyrach y cewch chi well lwc y tro nesa'.' `Hwyrach hynny,' ebe Harri, `a mi wn pwy i'w ddilyn y tro nesa'.

Ond parhau fydd helynt y dyfarnwyr - ac yn y prawf hwn Lloegr sydd wedi cael y lwc i gyd.

On in gwybod bod ganddyn nhw chwaraewyr unigol da ond on i ddim yn meddwl bod ei hamddiffyn cystal a fe ddylsen ni fod wedi sgorion eu herbyn nhw efo ychydig o lwc.

Ond trwy lwc roedden nhw hefyd yn lletach ac yn llai llithrig.

Wrth lwc, mae llwybr y gyrrwr yn mynd heibio'r stryd arbennig hon ac yn bwrw 'mlaen â'r daith.

Gall tocyn bws arbennig ddod â chryn lwc i'w ganlyn, fodd bynnag.

Lwc i'r Stiward Bach i rywun ddyfod heibio ar y pryd.

Gall ddal i ddod a lwc i chi.

Cred mewn rhagarwyddion neu argoelion, cred fod rhai pethau, yn arbennig ym myd natur, megis adar ac anifeiliaid, yn gyfrwng i ragfynegi'r dyfodol ac i ddateglu gwybodaeth am gyflwr dyn ei hun, boed lwyddiant neu aflwyddiant, lwc neu anlwc.

Byddant yn gwisgo swynion o bob math i ddod â lwc iddynt.

Os alla i ddal fy ngafael yn honno, fe fydd rhywun yn sicr o'm tynnu'n ôl i mewn ar ddec y British Monarch." Wrth lwc, a chyda chymorth y lamp fawr oedd yn goleuo starn y llong fasnach, fe ddaeth o hyd i'r wifren.

Holi am Stryd y Cei, a'i chael yn weddol agos, trwy lwc.

Am fwy o fanylion ffoniwch Guto ar 2199 a phob lwc i bawb fydd yn cystadlu.

Pob lwc gyda'r cwis.

Gofynna i gyd-weithiwr iddo geisio ffonio hefyd, ond heb lwc.

Yn yr un modd yr ydym yn fwriadol yn gwneud rhai pethau, a hynny'n reddfol bron, er mwyn sicrhau lwc dda.

"Ond mi gicia i'r dŵr mor galed ag y medra i." Wrth lwc, siarc oedd newydd gael llond ei fol oedd yn llercian yno, fel llong danfor dawel dan y lli.

Roedd gwenwyn yn y siocled 'na, ond trwy ryw lwc fe ddiferodd o'th geg wrth i ti ddisgyn, neu fe fyddai ar ben arnat erbyn hyn.

Er enghraifft, gweld un frân neu bioden: anlwc, 'dwy frân dda, lwc dda i mi.'

Mae angen mawr am nid yn unig ysgolion Cymraeg (a phob lwc iddynt) ond ysgolion Ffrangeg, Almaeneg, a.y.b.

Fe'm cadwyd o'm gwaith am bron pythefnos ac roeddwn yn anghyfforddus iawn ar droeon, ond wedyn fe ddiflannodd y poen yn llwyr trwy lwc.

Doedd dim lwc i dîm dan 21 Cymru uwaith eto.

petrol budr, meddai rhywun wrtho ; yn iawn wedi i 'r llychyn baw setlo i lawr - gyda lwc !

Nid anodd oedd rhoi dau a dau wrth ei gilydd a gyda lwc cai ychwaneg o brawf o fol ei gamera.

Daeth mwy o lwc i ran Denzil yn ddiweddarach wrth iddo gwrdd â chwaer ieuenga Eileen, Maureen, a'i phriodi.

Wrth lwc roedd hynny'n hawdd.

Er mwyn sicrhau fod lwc yn eu dilyn, bydd llawer tîm yn cael plentyn bach i fod yn fascot iddynt - adlewyrchiad hwyrach o'r adeg honno pan oedd aberthu plant i blesio'r pwerau tywyll yn beth cyffredin.

Mae elfen gref o lwc neu anlwc mewn rasio ceffylau hefyd.

Ond trwy ryw lwc, neidiodd y bêl i'w law yn sydyn, ac yn rhyfedd iawn teimlai cyn drymed â phlwm.

Bydd rhai timau yn cerdded ar y cae mewn trefn arbennig a hyn yn dod â lwc iddynt.

Bendithiwyd y penwythnos, drwy lwc, â thywydd braf ac achosodd hynny i deuluoedd a thrigolion yr ardal heidio i'r pentref.

Go brin y bydden nhw'n ffansïou lwc yn erbyn rhywun mor nobl a Helen Mary Jones, dyweder.

Y mae dyn erioed wedi dymuno ennyn bendith y duwiau, ymatal rhag herio ffawd a rhagluniaeth ('Fe ddof yfory, os byw ac iach...' ) Mae'n awyddus i ennill lwc dda a chael bod yn ffortunus neu'n ffodus mewn bywyd (ansoddair sy'n tarddu o'r gair 'ffawd').

Profiad cynhyrfus oedd dringo i ben tūr Zigmund a chyffwrdd â'r gloch enfawr am lwc, yng nghwmni rhai o'r plant.

Yn sicr, mae sefydlu is-label i Fflach wedi bod yn fenter lwyddiannus a chyda lwc fe fyddwn ni'n gweld mwy o gynnyrch gan RASP yn ystod ail hanner y flwyddyn.