Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lwyddiant

lwyddiant

Yn ogystal â'r ffaith fod yr Ymneilltuwyr yn dadlau ymysg ei gilydd, yr oedd yr elyniaeth yng Eglwyswyr yn dwysa/ u, a'r dadlau'n chwerw wrth i lwyddiant ysgubol Ymneilltuaeth ddod yn fwyfwy amlwg, yn arbennig yn yr ardaloedd diwydiannol newydd.

Yn ddiamheuaeth, bydd hanes yn siwr o farnu mai rhan allweddol o'r llinyn mesur ar lwyddiant ac arwyddocâd y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr hyn a gyflawna'r Cynulliad dros sicrhau dyfodol i'r iaith Gymraeg.

Mantais y Blaid, tra bo diddordeb pawb arall mor isel, yw bod ei chefnogwyr wedi cael blas mor dda ar lwyddiant yn ddiweddar.

Edrychodd yr athro'n amheus arno, er i Hector egluro'n eiddgar wrtho ei fod wedi astudio'r pwnc yn yr ysgol, ond heb grybwyll na bu ei lwyddiant, a dweud y lleiaf, yn syfrdanol.

Mae hi yn sicr yn stori o lwyddiant o dan amgylchiadau sy'n swnio'n ofnadwy.

Diffyg diddordeb oedd y peth tristaf am etholiad y Cynulliad ac onibai am lwyddiant rhyfeddol Plaid Cymru, yr unig stori fyddai wedi mynd a bryd y wasg oedd y nifer isel a bleidleisiodd.

Yn yr un cyfnod, aeth Morris Williams, perchen Gwasg Gee ers rhyw flwyddyn ar y pryd, yn aelod o gyngor Bwrdeistref Dinbych; a gallodd roi gwybod am ei lwyddiant i'r Tri yn eu carchar, drwy lunio stori fer am lwyddiant y Blaid Ddirwestol mewn etholiad yn Nhretomos (Tomos Gee, wrth gwrs) a'i hanfon i'r Eisteddfod Genedlaethol i'w beirniadu gan DJ Williams, yntau wedi cael caniatâd yr awdurdodau i feirniadu o'r carchar.

LLONGYFARCHIADAU i Hugh Williams, Pant yr Afallen ar ei lwyddiant ysgubol gyda'r Hwch Las a'r deg mochyn bach, heb anghofio wrth gwrs yr hwch ei hun a'r tad - er mai y cwbl a ymddangosodd am y creadur hwnnw oedd mai Duroc oedd ei 'fec' - neu ei fecwn hwyrach!

Dyma un o'r materion y rhoes y Trefnydd, J. E. Jones, fwyaf o sylw iddo a chryn orchest ar ei ran oedd ei lwyddiant i gyhoeddi a gwasgaru cymaint o ddefnydd.

TABERNACL Llongyfarchiadau Llongyfarchwn Geraint Evans, mab Mr a Mrs John Evans ar ei lwyddiant yn arholiad TGAU a dymunwn yn dda iddo i'r dyfodol Estynnwn hefyd ein llongyfarchiadau a'n dymuniadau gorau i dri phar a fu'n dathlu yn ddiweddar gerrig milltir pwysig yn eu bywydau priodasol.

Fe'i cysurodd ei hunan, rywsut, trwy geisio'i berswadio'i hun fod y pwnc wedi'i daro ar ysmotyn dall, ac nad oedd ar ei orau wedi cael diwrnod caled a thrafferthus yn y siop heb fawr o lwyddiant ar y gwerthu.

Bydd pawb yn ôl ymhen deuddeg mis a dyna wir lwyddiant y gystadleuaeth.

Fe ymdrechodd yn deg gan ddefnyddio pob ystryw i geisio ymateb ganddi ond heb fawr o lwyddiant.

mae'r rhesymau am lwyddiant y Bloquistes yn debyg o fod yn eithaf cymhleth.

Gyda'i gymeriad hoffus, ychydig yn ddireidus, Williams fu'n gyfrifol am lwyddiant y gyfres chwe rhan hon.

Yn drydydd, cystadleuaeth y Cartref Cymraeg a drefnwyd ar ran yr Eisteddfod ac a ddaeth â dimensiwn arall i lwyddiant a defnydd o'r iaith Gymraeg.

Enillodd JOANNA QUINN Primetime Emmy am Lwyddiant Unigol Arbennig ym maes Cynllunio Cynhyrchiad.

Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad o lafur diflino pawb a sicrhaodd lwyddiant y cynhyrchiad, gan hyderu ei fod wedi ennyn yn y gynulleidfa rwyfaint o'r blas a gafodd darllenwyr gwreiddiol O Law i Law hanner can mlynedd yn ôl.

Dylid nodi cryn lwyddiant yn y maes dros y degawd diwethaf, yn enwedig ym maes llyfrau plant a phobl ifanc lle y gwelwyd y twf mwyaf, ac mae ansawdd a diwyg y llyfrau'n cymharu'n ffafriol â'r hyn sydd ar gael mewn gwledydd eraill.

Yr agwedd bositif hon ymysg y trigolion lleol sy'n fesur o lwyddiant yr Antur.

'Fu'r syniad o ail fis mêl fawr o lwyddiant mae gen i ofn,' meddai'n betrus.

A hyd yn oed o'r rhai a oedd yn parhau â'u hastudiaethau iaith, byddai'r mwyafrif ohonynt yn methu â sicrhau Safon "O" neu lwyddiant cyfatebol.

Davies, Tryfal, Ffestiniog, a'i lwyddiant ef, efallai, gyda ymroad rhai fel Dewi Wyn Jones, oedd yn bennaf gyfrifol am y cynnydd a'r llwyddiant ym mhrofion medrusrwydd y mudiad yn y chwedegau.

Ac mae'n sicr fod y rhesymeg hwn yn cyfrif llawer am lwyddiant Ankst hyd yn hyn; cred Gruffydd ac Alun ei bod hi'n bwysig eu bod nhw eu hunain yn cael eu cyffroi gan unrhyw grwpiau neu artistiaid unigol y mae Ankst fel cwmni'n ymgymryd â nhw.

'Mi gafodd Ben dipyn o lwyddiant hyd yn hyn.

'Mi ges i gynnig i ymuno efo'r cwmni, ac mi fu'n lwyddiant ysgubol,' meddai.

Yr oedd i lwyddiant diwydiannol yr Wyddgrug, fel i lwyddiant diwydiannol rhai o drefydd Deheudir Cymru, ei broblemau, a daeth tonnau'r llanw Seisnig cyntaf i effeithio ar y werin Gymreig dros Glawdd Offa, er bod hwnnw wedi ei godi ganrifoedd lawer ynghynt.

Doedd Alun yn cael fawr o lwyddiant gyda'i bysgodyn.

Ar derfyn y tymor hoffen ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y cyfarfodydd, ac edrychwn ymlaen at y tymor nesaf.

Byd dyfodol ariannu o'r fath yn dibynnu ar lwyddiant cyflawni'r cytundebau hyn, neu ar eu diwygio trwy negodi yn wyneb profiad.

Serch hynny, yn amgylchiadau canol y ganrif, roedd sefydlu'r Swyddfa Gymreig yr anhepgor cyntaf i lwyddiant polisi o fagu cyfrifoldeb yng Nghymru am fywyd Cymru.

Enghraifft wych o hyn yw'r stori John Williams Tresalem, John Ford, Lillian Gish a D W Griffith sy'n adrodd hanes Cymro, John Williams, a aeth i'r Amerig i chwilio am well bywyd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ond na chafodd fawr o lwyddiant erioed, er iddo fod yn ecstra mewn ffilm fawr, gan adael cofnod ohono mewn hanes.

Bydd hyn yn arwydd o lwyddiant a thaith ddiogel a diffwdan.

'Fe ges i amser caled mâs yn Sri Lanka - a thipyn bach o lwyddiant hefyd.

Ond roedd ganddo un elfen bwysig arall yn ei raglen waith a honno, yn ei farn ef ei hun, oedd bwysica', sef `edrych pa lwyddiant sydd i'n brodyr, y Cymry, yn y wlad bell'.

Ychwanegu at lwyddiant gwaith marchnata yn y gorffennol i godi ymwybyddiaeth o holl wasanaethau'r BBC yng Nghymru.

Cawsai gweithiau gŵyr fel Luther a Melanchthon lwyddiant ysgubol yno.

Mae'r drefn weithredu a ganlyn yn strwythur awgrymedig i hybu a chefnogi eich meddwl, i ddatblygu eich cynllun, i fonitro ei weithrediad a gwerthuso ei lwyddiant.

Enillodd LES MILLS o Gaerdydd hefyd wobr am LWYDDIANT UNIGOL ARBENNIG.

Tafla'r dis i fesur dy lwyddiant.

Cred mewn rhagarwyddion neu argoelion, cred fod rhai pethau, yn arbennig ym myd natur, megis adar ac anifeiliaid, yn gyfrwng i ragfynegi'r dyfodol ac i ddateglu gwybodaeth am gyflwr dyn ei hun, boed lwyddiant neu aflwyddiant, lwc neu anlwc.

Hoffwn ar ran PDAG ddiolch i bawb a dderbyniodd ein gwahoddiad i ymuno yn y seminar ac a gyfrannodd ymhob ffordd at lwyddiant y diwrnod.

Tybed a oes modd i'r sefyllfa fod yn rhwystr i lwyddiant yr Achos mewn llawer lle?

Eglurodd Ms Lewis fod yr enw Saesneg Bitsize wedi cael ei gadw er mwyn manteisio ar lwyddiant y gwasanaeth Saesneg.

I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.

'Cystal i ti ddeall nad oes yr un mygiwr yn y sir, yn y wlad a deud y gwir sy wedi cael cymaint o lwyddiant â Jaco.

Gydai gymeriad hoffus, ychydig yn ddireidus, Williams fun gyfrifol am lwyddiant y gyfres chwe rhan hon.

Mae hi'n cofio'n dda yr 'help' pan gafon nhw lwyddiant gyda 'Wild Thing'.

O ganlyniad i lwyddiant ysgubol Parti Ponty, gwyl fywiog a gynhaliwyd ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, y llynedd penderfynwyd ailgynnal yr achlysur.

Rhan annatod o lwyddiant ysgubol y sioe Awê Bryncoch!

Yno y mae'r holl bolisiau a bwriadau yn blodeuo a dwyn ffrwyth neu'n marweiddio a chrebachu o ddiffyg cynhaliaeth gan mai natur y berthynas rhwng athro a disgybl yw'r elfen sy'n greiddiol i lwyddiant.

Ychydig iawn o lwyddiant economaidd a gafodd; roedd hynny'n gwbl amlwg wrth i mi weld dinas Havana am y tro cyntaf.

Trawsgyweiriad ingol a dryslyd yw'r un o lwyddiant a dylanwad i ddistadledd a dirmyg.

Fawr o lwyddiant.

phelps, ac mewn gwirionedd, ei fersiwn ef oedd y fersiwn safonol, er mai syniadau david hughes oedd yr allwedd i'r holl lwyddiant a ddaeth i'w rhan.

Mae'n anlwcus felly i unrhyw chwaraewr roi menthyg ei fat i un arall gan ei fod yn rhoi iddo hefyd y cyfle i sgorio ar draul ei lwyddiant ef ei hun.

Mewn gwaed oer gellir gofyn pa lwyddiant a ddisgwylient?

Enillodd ASHLEY POTTER, Arlunydd Cefndirol "Chwedl Offeiriad y Lleian", wobr am Lwyddiant Unigol Arbennig.

Mae adroddiadau eraill gan arolygwyr yn cadarnhau'r un argraff cyffredinol o lwyddiant academaidd yr ysgolion pentrefol bach.

Mae'r pinnau gwallt yma yn bwysig i'r chwaraewr gan fod pob pin yn arwydd o lwyddiant wrth daro'r bêl, y bydd yn bêl dda ac yn galluogi'r chwaraewr i sgorio'n dda.

AH Ond fe ddylai fod yna 'feed back' oddiwrth y canolfannau â'r gweinyddwyr ar lwyddiant cynhyrchiad.

Dyfernir y gwobrau am Lwyddiant Unigol mewn Animeiddio gan banel o feirniaid o blith Animeiddwyr o fri o fewn yr Academi Celfyddydau a Gwyddorau Teledu (sy'n cynnal y seremoni Primetime Emmys bob blwyddyn).