Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lwyfan

lwyfan

Pan gyrhaeddodd y Fishguard Express funudau wedi deg o'r gloch, er enghraifft, dringodd rhai picedwyr lwyfan troed y peiriant i ddadlau â'r gyrrwr ac i annerch y dyrfa.

Ac wele nid oedd lwyfan, a hwy a gythryblwyd

Mae'n debyg mai fy awr fawr i ar lwyfan oedd ychydig fisoedd yn ôl fel Doctora mewn sgets yn Esquel, Patagonia - lle cefais yr anrhydedd o fod yr unig feddyg benywaidd gyda barf yn y Wladfa i gyd.

Rhaid cymryd y teledu a'r ffilm gymaint gymaint o ddifri fel cyfryngau a'r nofel neu'r ddrama lwyfan.

Y Stiwt eto yn lwyfan i ddoniau'r ardal.

Ac os methodd ambell un wneud ei farc ar lwyfan eisteddfodol 'does raid iddo boeni dim oll canys fe fydd yn bownd o raddio'n feirniad o'r radd flaena' mewn dim o dro.

Fe welwyd un ddrama, sef Y Tŵr, ar lwyfan yn ogystal a theledu.

Boed y ddrama'n dda neu'n sal,mae'n rhaid i'r cyrtan ddwad i lawr ar y diwedd, ac mae rhai a fu ar lwyfan hanes yn siwr o fod wedi rhoi mwy o'r byw mewn bywyd na llawer arall.

Cynhelid y rhagbrofion ym mharlwr tū'r ysgrifennydd, ac yno y bu+m i'n gwrando'n astud ar gyflwyniadau llafar y cystadleuwyr a obeithiai am lwyfan.

Symbol y cyfeillgarwch a'r malu yw'r cwt bugail a adeiledir yn llythrennol ar lwyfan a'i falu drachefn.

Roedd y syniad ddinist yn gryf ym myd celf y chwedegau, ac yn hytrach na chreu cerfluniau 'hierarchaidd' a gâi eu gosod ar bedestal neu lwyfan gwell ganddo oedd creu 'democratiaeth o wrthrychau' a fedrai gyfleu teimlad tuag at ddarnau o natur, pren, haearn, pridd, unrhyw weddillion dienw y gallai eu defnyddio.

Aeth i ffair Fawrth y Cerrig, lle roedd show fawr, a'r showman ar lwyfan o'i blaen yn traethu am y rhyfeddodau oedd i mewn, mewn rhaff o Saesneg mor rhugl â Phistyll Sibyl.

Collais y cyfle i weld y cynhyrchiad ar lwyfan, felly balch iawn oeddwn o gael gwylio telediad ohono.

Bellach yn ddeuddeg ar hugain oed, fe'i magwyd ym Mhenmachno, ac yno, yn wyth oed,yr aeth ar lwyfan gyntaf, mewn drama bentref.

YR ARWYDD A'R CELFYDDYDAU: Calonogl bob amser yw gweld a chlywed criw o bobl ifanc yn cyflwyno cynyrchiadau ar lwyfan.

Teimlwn mai'r peth gorau i mi oedd ymgolli mewn sgwrs, heb dalu gormod o sylw i'r lwyfan.

Dim ond unwaith y gwelwyd cynrychiolydd Lloegr ar lwyfan y noson olaf - Christopher Maltman, y baritôn aeth rhagddo i ennill y wobr Lieder yn 1997.

Ond ar y funud olaf, fel petai, mae'r ochr ymarferol, traed-ar-y- ddaear yn cymryd drosodd; fel petai'r golau'n gostwng ar un rhan o lwyfan, ac yn codi ar un arall, yn gwneud i ni gredu yn yr olygfa honno, er bod y llall yr un mor wir.

Fe welwyd siaradwyr gwir ddawnus yn datblygu i ddod yn siaradwyr o fri ar lwyfan: Daw enwau fel Geraint Lloyd Owen a Derfel Roberts i'r meddwl o blith y bechgyn, a Meinir Hughes Roberts (Jones gynt) ac Eirlys Jones Davies (Lewis gynt) o blith y merched.

Yn ogystal â'r prif seremonïau bob dydd am 4.30 a rhaglen awr o bigion dyddiol am 8.00 bob nos (a gyd-ddarlledir ar y gwasanaeth analog), bydd S4C Digidol hefyd yn dilyn y cystadlu ar y prif lwyfan gan ddechrau am 10.

Yn wahanol i waith teledu, does 'na ddim ail gyfle ar lwyfan, mae'n rhaid i chi ei gael o'n iawn y tro cynta.

Er bod yr iaith yn destun gwawd ac ymosod barnwyr ac esgobion a gweision sifil, ni chododd neb i fynnu ei hawliau iddi yn y Senedd nac ar lwyfan.

Y mae gan Gwenlyn y gallu i greu triciau llwyfan sy'n rhan o'r themau ac mae codi muriau'r cwt ar lwyfan yn rhan o asio cyfeillgarwch Williams a Now yn weladwy.

Mae wedi'i wneud yn gelfydd ar siâp llyfr agored o bren derw a rhai o gymeriadau gweithiau Mary Vaughan Jones (rhai fel Tomos Caradog, y llygoden unigryw) wedi'u llunio mewn arian yn sefyll ar lwyfan o'i flaen.

Heledd yn chwerthin yn hapus, Heledd yn dywysoges drasiedi ar lwyfan tywyll.

Owain Goch!" Er ei bod yn teimlo y carai gael rhyw lwyfan mawr i sefyll arno tua Phumlumon, 'i fedru gweiddi yn erbyn pob anghyfiawnder', dywedai ei greddf wrthi nad llwyfan i weiddi ohono oedd y stori fer.

Gwelodd Mrs Parry yr egwyddor hon ar waith droeon wrth gyfeilio i ugeiniau o gantorion byd-enwog ar lwyfan y Stiwt.

Gwelid ffrwyth darpariaeth drylwyr yn y cydweithrediad hapus a llyfnder y perfformiad drwyddo; yn wir, roedd cydsymud sicr y grwpiau, y cydadrodd a'r llefaru croyw yn y ddwy iaith, a hunan-hyder yr actorion wrth chwarae'n gartrefol ac yn urddasol ar lwyfan eang y Neuadd yn dangos disgyblaeth ryfeddol mewn plant mor ifanc.

Ym marn yr adolygydd, gwendid dramatig oedd diriaethu syniadau o'r fath ar lwyfan yng Nghymru: 'Y mae eisiau llawer mwy o berswad nag a geir yma ar unrhyw gynulleidfa o wrandawyr fod rhinwedd yn y balchder aristocrataidd.' Proffwydodd, er hynny, fod y ddrama yn dynodi 'cam yn nhyfiant meddwl anghyffredin iawn, fel y caiff Cymru weled eto.' Yr oed y pegynnu rhwng Gruffydd a Lewis yn amlwg.

Fel tae o 'rioed wedi sefyll ar lwyfan !" Fel'na bydd hi pan fyddwch chi am iddyn nhw fod ar eu gora, cysurais hi, gan wenu, "Mae'r actorion diarth na'n 'u gwneud nhw 'n nerfus." Gwelwn Enoc yn symud yn ôl a blaen wrth waelod y llwyfan, yn chwifio'i freichiau.

Ac eto, heb risiau gweladwy ar set lwyfan, megis un Martin Morley yn y cynhyrchiad gwreiddiol, mae'n anodd gweld sut y gellid cyfleu 'man dechrau'r daith' i'r gwyliwr.

Ymddangosodd pedwar o'r Ffindir ar lwyfan y noson derfynol o'i gymharu â thri o Canada, Yr Almaen, Yr Unol Daleithau a Chymru.

Dyma gyfle i bump neu chwech o ddynion ifainc esgyn i lwyfan y peiriant.

Gorffwysai'r bêl ar lwyfan o garreg.

Eu prif lwyfan oedd cylchgrawn o'r enw The British Critic, a olygwyd gan frawd-yng-nghyfraith Newman, Tom Mozley.

Oblegid y mulod hynny a dynnai'r aradr i fyny'r bryn, i ben draw y gwys, yna hwynt hwy a droent wysg eu cefn, ac a geisient lwyfan ar yr aradr er mwyn teithio nôl at waelod y cae hwnnw.

Mae Cura yn cyfnewid geiriau gydag aderyn crawclyd arall a hynny, rywsut, yn cael pethau i gychwyn eto mewn ysbryd eithriadol o dda ymhlith cantorion sydd wedi sefyll yn hir ar lwyfan.

Mae'r Cyngor yn awr yn chwilio am fentrau ategol sydd wedi eu cyllido'n ddigonol i gyfathrebu â'r gynulleidfa ar lwyfan ehangach.

Dyry streic iddo lwyfan i bledio am gyfiawnder a gwell amodau byw.