Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lwyr

lwyr

Adnabyddiaeth lwyr o ddramâu Groeg yn unig oedd gan Aristotlys pan ymdriniodd â nodweddion drama drasig Efo 'ychydig o Ladin a llai o Roeg' treisiodd Shakespeare hwy i gyd bron.

Gan nad yw'n arfer yn Lloegr i roi unrhyw sylw yn yr ysgolion i'r diwylliant Cymreig, y mae trigolion y wlad honno at ei gilydd mewn anwybodaeth lwyr am gynnwys y diwylliant sy'n cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynhaliodd ei hun yn lled lwyr am flynyddau, drwy werthu pamffledau o'i farddoniaeth, neu bregethau, neu areithiau byrion ac ymffrostiai mai efe oedd yr unig fardd Cymreig oedd yn gallu byw ar ei dalent, a chwarae teg iddo, yr oedd yn bur agos i'w le .

Y mae'r amod hwn yn gosod rheolaeth lwyr ar y rhyngweithiad ieithyddol, sydd yn hanfodol bwysig i barhad unrhyw gymdeithas ddwyieithog.

Mae dyfodol disglair o'i blaen a chefnogaeth lwyr dau riant sydd am sicrhau'r gorau iddi hi.

Sicrhaodd ein rheng flaen feistrolaeth lwyr ar reng flaen y gleision, a chan i Derek Quinnell ei hyrddio'i hunan o gwmpas y cae roedd gofyn cael dau neu dri i'w daclo a'i rwystro.

Mi dybiwn i y bydd gan ddarllenwyr ddiddordeb neilltuol yn y pytiau cynganeddol hynny - amryw ohonynt yn fyrfyfyr - sydd bellach yn rhan o lên a llafar y sawl sy'n ymhe/ l â barddoniaeth, a ninnau, efallai, heb lwyr sylweddoli bob amser mai David Ellis yw'r awdur.

Peth ofnadwy yw bod yn anwaraidd, yntê, ond wrth gwrs mae tylwyth y Buganda yn adnabyddus am ei ddulliau modern ynghanol cyfandir heb ei lwyr wareiddio.

Yr argraff a gefais yn fy Ysgol Haf gyntaf oedd ei bod yn ddealledig y dylai holl sbectrwm gweithgarwch cenedlaethol fynd trwy unig sianel Plaid Cymru, a chredaf i hynny fod yn briodol yn y tridegau a'r pedwardegau pan oedd holl ddyfodol Cymru fel cenedl yn dibynnu ar lwyr ymroddiad dyrnaid bychan o bobl, ac mai felly'n unig y gellid gwneud pryd hynny.

Pan ymgnawdolodd Mab Duw a'i wneud yn ddyn, ailadroddodd ynddo'i hun linell hir y ddynoliaeth, gan roddi inni oll achubiaeth lwyr, fel y derbyniem yng Nghrist yr hyn a gollasom yn Adda ( sef i ni fod ar lun a delw Duw).

Nid oedd ei afiechyd yn ei lwyr gaethiwo a'i lethu: 'nawr yn llewygu ar fin tranc', meddai wrth R.

Nid ydi Dewi Sant wedi ei lwyr anghofio ychwaith.

Ym meddwl John Davies nid oedd amheuaeth o gwbl ynglyn ag "urddas diamheuol" y Gymraeg ac y mae Ceri Davies yn fawr ei edmygedd nid yn unig o'i lafur oes "yn ymboeni am urddas y Gymraeg' ond hefyd o'i feistrolaeth "ryfeddol o lwyr" ar adnoddau'r Gymraeg, ei hidiomau a'i geirfa.

Yn ei Salmau Cân yn ogystal ag yn ei gywyddau ymryson â William Cynwal ac eraill dengys Edmwnd Prys ei lwyr feistrolaeth ar Gymraeg clasurol yr hen feirdd.