Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lythyr

lythyr

"Sut mae Owen?" "Reid dda; mi ges lythyr y bore yma, yn licio i le'n iawn." "Da iawn bod rhywun yn hapus." "Ond cofiwch, 'dydi i gyflog yntau ddim hanner digon, a chysidro'r gost sy wedi bod efo fo." "Nag ydi, mae'n siŵr." "Mae o'n talu chweugian yn yr wsnos am lodging ac yn prynu i fwyd i hun." "Gwared y gwirion!" "Ydi, a mae'r criadur bach yn tri%o anfon rhyw 'chydig adre bob mis." "Chwarae teg iddo fo.

Mi ddaw 'na lythyr mwya sydyn yn amal iawn'.

Dridiau cyn iddo gychwyn derbyniodd Hector lythyr, rhyw brofiad anghyffredin yn ei hanes llwm.

Mae gennym ninnau, Gymry, le i gwyno am y diffyg gofal a pharch y mae'r Ffrancod yn ei ddangos tuag at Lythyr Pennal Owain Glyn Dwr.

Fe a i draw i'r plas i weld oes yno lythyr." Cododd a golwg flin ar ei wyneb.

PENDERFYNWYD datgan cefnogaeth i lythyr Mr Cynog Dafis AS

Hwyrach y ca' i lythyr arall yn fuan.

I ddangos nad oedd dim drwgdeimlad, er bod pawb yn gwybod fod, gwnaeth Affos frawd-yng-nghyfraith ei wraig yn Swyddog Cynllunio gyda'r teitl o Bennaeth ac er mai dyna'r teitl isaf yn y wlad mynnodd Ynot o hynny ymlaen gael ei alw wrth ei deitl, a phan arwyddai lythyr, swyddogol neu breifat, torrai ei enw, 'Ynot Benn.' Rhyfeddodd erioed i'r Brenin Affos gydsynio iddo briodi i mewn i'r teulu brenhinol, ond wedi'r cwbl roedd Arabrab yn ddychrynllyd o hyll, a'r blynyddoedd yn cerdded.

Wrth gwrs, yr oedd i safbwynt Saunders Lewis yn ei 'Lythyr' gryn fanteision.

Yn 'Atebiad y Golygydd i Lythyr Mr Saunders Lewis' yn yr un rhifyn cydnabu Gruffydd fodolaeth traddodiad ond fe'i cafodd ei hun yn anghydweld â diffiniad Saunders Lewis ohono.

Does genna'i ddim diddordeb mewn iaith sy'n lythyr i ofyn ffafr gan y Bwrdd Iaith.

Yr hyn sy'n drawiadol yn y cyd-destun penodol hwn yw iddo yn ei lythyr cyntaf ar sir Gaernarfon rybuddio'r awdurdodau yn Llundain fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio i annog teyrnfradwriaeth - a'r troseddwr pennaf oedd Thomas Gee.

* * * * * Fel yr oedd Llefelys wedi addo yn ei lythyr, aeth i Lundain i weld Lludd yr wythnos ganlynol.

Mae deilen de fawr ar wyneb y cwpan yn arwydd o lythyr yn y post.

Ychydig ddyddiau cyn y Nadolig diwethaf, anfonais lythyr i'r Wasg yn amddiffyn penodiad Mr Graham Hulse yn gadeirydd Awdurdod Iechyd Gwynedd.

Fel sy'n naturiol i lythyr, y Rhagenwau pwysicaf yw 'fi' a 'ti'.

Cefais lythyr gan y prif Weinidog yn dweud fod cynrychiolydd Uchel Gomisiynydd gwlad Nigeria yn dod yma am dri diwrnod i weld y wlad a siarad â'r llwythau.

Gyda hyn yn gefndir, penderfynodd Cymdeithas yr Iaith mai syniad addas iawn fyddai cyflwyno Ail Lythyr Pennal i'r Prif Ysgrifennydd Alun Michael.

Hwyrach y ca' i lythyr 'fory.

Parhaodd ei feddwl a'i gof yn iraidd hyd y diwedd, a daliodd i daro'i deipiadur bach â'i fysedd diwyd, gan lunio ambell englyn a chân, neu bwt o lythyr cynnes i'w ffrindiau.

(c) Mesuriadau Rheoli Trafnidiaeth, Beddgelert CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar lythyr a dderbyniwyd gan Gyfarwyddwr Priffyrdd y Cyngor Sir yn rhoddi manylion am fwriad y Cyngor Sir i gyflwyno gorchymyn traffig er gwella'r tagfeydd a rhwystrau a oedd yn bodoli ar rai strydoedd yn y pentref ac yn gofyn am sylwadau'r Cyngor hwn.

Wedi i Alun Michael deithio o Bennal i Fachynlleth ddydd Gwener, Ionawr 21, bydd yn cael ei gyflwyno â dogfen yn dwyn y teitl 'Ail lythyr Pennal'.

lythyr diweddar yn f'erbyn.) Ac unodd y dosbarth yn yr anthem, "Iddo ef!", wrth gwrs.

Ar y llaw arall, oherwydd cysylltiadau eang y golygydd deuai cynrychiolaeth deg o Gymru gyfan i mewn i'r Ymofynnydd, drwy erthygl a chân, sylw neu lythyr, gan ei wneud yn gyfoethog ei syniadau ac eang ei orwelion.

Yn ei lythyr heddiw i Alun Michael mae Ffred Ffransis llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Addysg yn hawlio fod hon yn foment dyngedfennol fydd yn dangos ai twyll oedd datganoli i hwyluso gweinyddu polisiau Llundain yng Nghymru ynteu a gymerir y cam cyntaf tuag at ffurfio polisiau datganoledig Cymreig.

Cafodd Mam lythyr ganddo'n gofyn iddi ddod trosodd hefo'r plant.

Pwniai llifeiriant gwyllt o gofion am helyntion y noson cynt ei hymennydd, a nawr wele lythyr Hannah Dim gwahoddiad i Fryste!

Rai misoedd yn ddiweddarach derbyniais lythyr oddi wrth famgu'r ferch yn dweud bod y meddygon wedi ei harchwilio'n ofalus a'u bod yn cytuno bod y salwch o'r diwedd wedi ymadael yn llwyr â'r corff.

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar lythyr a dderbyniwyd gan y Cyngor Sir yn tynnu sylw at swydd newydd a fwriedid ei chreu yn y dyfodol agos gyda chymorth Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop sef Swyddog Rheilffordd Cymuned.

Yn 1995 cafodd Kath swydd bwysig yn y gymuned leol fel postmon - llwyddodd Kath i fanteisio ar ei swydd i gael clywed y clecs i gyd a bu'n barod i agor ambell i lythyr hefyd.

Anfonodd lythyr i bob perchen lotment, a gosododd hysbyseb enfawr ym mhob rhan o'r deyrnas gyda herald i bob stryd i ddwyn sylw'r cyhoedd atynt.

Blydi Saeson, rhefrai bob tro y cyrhaeddai'r postman heb lythyr.

Owain Glyndŵr oedd un o'r rhai dderbyniodd lythyr yn gofyn a fyddai ef yn cefnogi'r Pab newydd.

Dewch gyda mi am dro y bore 'ma i ganol ail lythyr Paul at y Corinthiaid.

Wrth ailadrodd y gair 'pechod' yn ei 'Lythyr' yr oedd Saunders Lewis yn dangos yn glir ei fod yn ymwrthod â rhyw foesoldeb cysetlyd, arwynebol, ond yn Žedu yng ngrym moesol llenyddiaeth yn ystyr ehangaf a dyfnaf y gair 'moesol': h.y., yn gwrthod llenyddiaeth foeswersol, ond yn derbyn llenyddiaeth yr oedd ei harwyddocâd sylfaenol yn foesol.

Mewn llanerch lle hidlai'r haul drwy'r brigau llenwodd ei phocedi â choncars a moch coed, a mwynhau'r ychydig wres tra cyfansoddai lythyr.

'Ond rhaid imi ddweud y peth sy'n ffaith: ni chafodd syniadau politicaidd Maurras nemor ddim effaith arnaf,' ebe Saunders Lewis yn ei Lythyr at Gruffydd.

Ni wyddai Dr Peate--mwy na neb arall--mai Tegla oedd "Another Adjudicator", a diau mai un o lawer oedd ei lythyr protest ef.