Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lywodraeth

lywodraeth

Aeth yn ei flaen i sôn am yr angen i baratoi Cymru ar gyfer hunan lywodraeth; siaradodd Fred Jones am yr angen i fynnu gwell triniaeth i'r iaith Gymraeg, a thraddododd Lewis Valentine ychydig eiriau am bwrpas ac amcanion y blaid.

Efallai bod dylanwad gohebydd Cymraeg dipyn llai, ond dibynnu ar bwysau poblogaidd y mae ewyllys gwleidyddol i weithredu, ac mae llais Cymry yn llais pwysig yng nghôr y cyhoedd y mae'n rhaid i lywodraeth gwledydd Prydain wrando arno.

Ar ôl naw mlynedd o lywodraeth geidwadol, roedd y diflastod a deimlid tuag at Brian Mulroney, y cynbrif weinidog, yn sicr o effeithio ar gyfle ei olynydd Kim Campbell.

Yn eironig ddigon y barnwr yn yr achos hwn yw Baltasar Gozón, yr un barnwr yn gywir a ryddhaodd aelodau o'r mudiad GAL (terfysgwyr gwrth-ETA a ariannwyd gan lywodraeth Sbaen i ladd aelodau o ETA) ar ôl dim ond pum mlynedd o ddedfryd o 100 mlynedd.

Cyfeirlyfr ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru.

Mewn llefydd fel Beirut, Gogledd Iwerddon neu Kuwait lle bynnag yr ydw i wedi bod - mae yna ddigwyddiad sicr a phendant wedi dangos i mi fod yna lywodraeth ddwyfol ac nid jyst llywodraeth fydol.

Y perygl mwyaf i ni fyddai caniatáu i'r Bwrdd Iaith, Tai Cymru, Quangos Addysg ac yn y blaen fynnu cael hunan-lywodraeth.

Llywodraeth De Affrica yn penderfynu cyflwyno'r awenau i lywodraeth â mwya frif du.

Os nad oes, mae o leiaf dwy ffactor y gellir eu hystyried:- (a) Mae'r hyn a wnaeth, wedi ei wneud pan oedd yn blentyn y byd hwn, yn ddieithryn i wladwriaeth Israel Duw, ac o dan lywodraeth tywysog llywodraeth yr awyr.

Yn y cynnig yna mae'r seiliau ar gyfer dymchwel y Quangos, seiliau ar gyfer datblygu democratiaeth yng ngwir ystyr y gair, a seiliau i ddangos ein bod yn barod am hunan-lywodraeth.

Fel yr oedd Thomas Jones Llanuwchllyn, a roes wasanaeth mor wiw i lywodraeth leol yng Nghymru ac i'r Eisteddfod Genedlaethol.

Targedau cyrhaeddiad, Datganiadau o Gyrhaeddiad a datganiadau ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol;Y berthynas rhwng iaith leiafrifol â gyrfaoedd yn y sector cyhoeddus; h.y a ydyw'n cynyddu dibyniaeth yr iaith ar lywodraeth leol a chanolog, ac os ydyw, beth yw'r canlyniadau i awtonomi'r grŵp iaith hwnnw?

Nid oes obaith fyth fythoedd i Lywodraeth Whitehall fabwysiadu safbwynt Cymreig.

Rhoddwyd y penderfyniad a ganlyn i'r Gynhadledd ac fe'i derbyniwyd: "Fod y Gynhadledd hon yn datgan ei barn yn ffafr Deiseb o blaid hunan-lywodraeth seneddol i Gymru%.

phan welsant ar etholiad y `Rail-splitter o Illinois' [Abraham Lincoln], ys gwelid ef, fod tebygolrwydd y buasent hwy bellach yn colli llyw y peiriant o'u dwylo, gadawsant Washington mewn dicter a soriant - wedi moni: symudasant gyda'i gilydd i ganolbarth gwlad y cotwm; yna sefydlasant ym Montgomery, prifddinas y dalaith hon, a gosodasant i fyny lywodraeth fawr o'r eiddynt eu hunain, ac etholasant cotton planter o dalaith Mississippi yn ben arnynt - `yn engineer in chief' - i redeg y peiriant.

Meddai: "Y mae hunan lywodraeth seneddol i mi yn fater o gydwybod Gristnogol" Gwelai Syr Ifan ab Owen Edwards ddisglair olau 'mlaen.

Yr unig beth mae o'n addo ydy be mae'r pensiynwyr yn ei gael yn barod gan Lywodraeth Lafur, meddai.

Yn ein sefyllfa bresennol fydd hunan-lywodraeth yn datrys dim.

A chydnabyddwn ein bod wedi ein gosod gennyt ar y blaned hon nid i'w hanrheithio a'i difetha ond i ddwyn cyfrifoldeb drosti o dan dy lywodraeth Di, Arglwydd y cread.

Go brin y gallai gwlad fechan dlawd heb lywodraeth na llais rhyngwladol ddylanwadu ar dynged y rhain, hyd yn oed pe bai ei phobl yn dymuno hynny.

Ymgyrch fawr i gadw Ulster allan o unrhyw lywodraeth annibynnol a fyddai'n cael ei sefydlu yn Iwerddon.

Yn gysylltiedig â'r egwyddor uchod daeth pwyslais hefyd ar weithgarwch ac ymroddiad lleol ac ar ymgynghori gofalus rhwng pobl o wahanol haenau o lywodraeth - dychwelir at hyn ar y diwedd.

Os anarchiaeth yw'r gred mai'r wlad fwyaf diddig yw'r un â lleiaf o lywodraeth ganol, yna anarchydd oedd Gandhi.

Ac mae'r diffiniad yna'n bwysig, achos mi ddaw y dydd pan fydd y Bwrdd Iaith ayyb yn galw am hunan-lywodraeth, pan fyddan nhw'n sylweddoli y ca'n nhw lawer mwy o fudd o gael ei rheoli gan Senedd Gymreig.

Ail ddarlleniad y mesur i roi hunan-lywodraeth i Iwerddon ond bu protestio yn Ulster.

Yr ydym yn gadael rhigolau plaid am ein bod o'r farn mai mater tyngedfennol o bwys mawr yw sicrhau hunan lywodraeth ar fyrder" Dyna osod y pwnc yn ei le, ynghanol cymeradwyaeth frwdfrydig.

Fodd bynnag wrth gymryd y grym oddi wrth Lywodraeth Leol, rhannwyd y cyfrifoldebau am wahanol feysydd yn y byd addysg ymysg y Quangos.

Ei gyfraniad mawr i lywodraeth yr Eisteddfod oedd ei allu i edrych ar broblem o sawl cyfeiriad, o safbwynt ariannol, o safbwynt trefniadol, ac o safbwynt celfyddydol, ac arwain ei gydgynghorwyr yn y diwedd at benderfyniad y byddai'r budd mwyaf ohono yn deillio i'r eisteddfodwr cyffredin.

Dyna felly lwyddo o'r diwedd y polisi a osodwyd yn nod i Lywodraeth Loegr yng Nghymru yn y mesur a elwir yn Ddeddf Uno Cymru a Lloegr yn y flwyddyn 1536.

Roedd gan lywodraeth Ethiopia strategaeth arall - llawer mwy dadleuol - i ymladd y newyn.

Dyna'r delfryd a bortreadid dro ar ôl tro yng ngweithiau'r beirdd - yr ymdeimlad o lywodraeth deuluol yn ystyr gyfyng yr endid hwnnw.

Am y tro cyntaf erioed, mae gan Gymru lywodraeth sy'n agored.

Yn ôl y sôn, yr oedd John Edmunds â'i fryd ar ddod â thipyn o fywyd i Borth Iestyn ac am, ddechrau gwneud hynny trwy ddathlu hanner can mlwydd o ryw lun o hunan-lywodraeth ym mywyd yr harbwr.

Nid oedd obaith cael gan Lywodraeth Lloegr gydnabod hawl fel hon.

Y Prif Weinidog, Asquith, yn addo hunan-lywodraeth i Iwerddon.

Roedd hanes trist y Ddeddf Iaith yn brawf pellach o'r modd y caiff Cymru a'i phobol eu trin gan lywodraeth estron.

Yn ei chynllun hi bydd pum gwastad i lywodraeth.

Gan nad oes modd ymddiried yn llwyr mewn rhagolygiaeth economaidd, y mae temtasiwn naturiol i unrhyw lywodraeth ymateb i ddigwyddiadau cyfoes, fel cynnydd yn y gyfradd diweithdra.

Dechreuodd wneud cyhuddiadau cyhoeddus fod ei gwr a'i lywodraeth yn llwgr.

Lladd cenedlaetholdeb yw pregethu i etholwyr Cymru mai mantais economaidd iddynt hwy fyddai fod gan Gymru annibyniaeth neu mai felly'n unig y cânt hwy lywodraeth sosialaidd.

Llafur yn colli'r Etholiad Cyffredinol a Churchill yn Brif Weinidog ar Lywodraeth Dorîaidd.

Tynged cenedl heb lywodraeth, yw diweithdra, tlodi, diboblogi, ymfudo, malurio diwylliant, ac mewn rhyfeloedd gwaedir hi er nad oes a wnelont ddim oll â'i lles hi.

Mae'n rhaid i gynghorau ildio, mae'n rhaid i'r Quangos ildio, ac mae'n rhaid i Lywodraeth ganolog ildio i Gymru ac i'r iaith Gymraeg gael ymryddhau.

Amcanem at geisio rhoi cyfle i Gaerdydd brofi ei hawl i fod mewn gwirionedd yn brifddinas Cymru ac ennill lle iddi ei hun fel amddiffynnydd ac arweinydd diwylliant y wlad y mae eisoes yn ganolfan iddi mewn materion masnach ac economeg, a chyda hynny o hunan lywodraeth sydd gennym.

Rhodesia yn cyhoeddi UDI, ac yn ffurfio gwlad annibynnol dan lywodraeth Ian Smith.

Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.

Roedd y cyfieithydd yn gwybod, ond roedd e'n gwrthod dweud wrtha'i!' Yn y diwedd, daeth cynrychiolwyr o lywodraeth Iran ac o fudiad y Red Crescent.

Y Blaid Lafur yn wan iawn yn yr Etholiad Cyffredinol, ond Ramsay MacDonald yn parhau'n Brif Weinidog ar Lywodraeth Genedlaethol.

Galaru'r golled i Gymru drwy farwolaeth Llywelyn saith gan mlynedd ynghynt a wnaeth Gerallt Lloyd Owen, gan ofidio ar yr un pryd am amharodrwydd Cymry ei ddydd i dderbyn unrhyw ffurf ar hunan-lywodraeth.

Roedd Siad Barre eisoes wedi difa'r hen drefn o lywodraeth yn Somalia, drwy danseilio grym yr hynafgwyr ymhob llwyth - a phan ddiflannodd yr unben, fe adawodd ar ei ôl wlad ar chwâl.

O ran democratiaeth, mae'r mudiad yn dal i ystyried athroniaeth Jefferson yn ddilys, ac mae'n cytuno'n llwyr â fformwla Lincoln o lywodraeth y bobl, gan y bobl, ar gyfer y bobl'.

Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd un o bob tri Ewropead yn byw o dan lywodraeth estron.

Efallai y dygai'r iaith hunan-lywodraeth yn ei sgil: 'wn i ddim.

Hunan-lywodraeth i Gymru yn dod yn bolisi swyddogol gan Blaid Genedlaethol Cymru.

Mae'r iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth.

Achos sail yr hunan-lywodraeth hwnnw fyddai parhad eu rheolaeth hwy.

Y Cnedlaetholwr John Redmond yn galw am hunan lywodraeth i'r Iwerddon.

Er pan glywsai am fwriad John Edmunds i ddathlu sefydlu hunan-lywodraeth yn yr harbwr, ni buasai taw ar ei fremian, na wyddai'r cynghorydd y peth cyntaf am fywyd môr, mai dyn tir oedd o, o dras a diddordeb, mai esgus i gael ei weld oedd ei glochdar am gael dathliad yn yr harbwr am nad oedd sail i ddathlu dim arall yn y Porth.

ydych chi'n gwybod pa fath o lywodraeth sy'n rheoli sbaen ar hyn o bryd?

Hyd at y diwedd un mynnodd fod yr 'iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth'.