Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mabinogi

mabinogi

Ceir hanes ym Muchedd Cadog sydd yn debyg i'r hyn a welir yn y Mabinogi, er na ellir dweud eu bod yn agos iawn.

Awdl alegorïol gelfydd yn y modd y mae hi'n rhoi gwedd gyfoes i chwedl Branwen yn y Mabinogi.

Hawdd gweld fod y cyfan yn ddeunydd chwedloniaeth - hawdd suddo i awyrgylch Krishna a mabinogi'r hen India.

Bu rhaid i awdur Pedeir Keinc y Mabinogi weithio allan ei iachawdwriaeth ei hun pan geisiodd ef egluro fod darganfod baban yng Ngwent-is-coed a'i fagu yno yn digwydd tra oedd Rhiannon yn dioddef ei phenyd yn Arberth, a gorfu arno geisio ffordd i ddwyn y ddau hanesyn yn un.

Yn y Mabinogi fe gyferbynnir yr hen a'r newydd: balchder, rhyfeloedd a dial yr hen gymdeithas baganaidd yn erbyn gostyngeiddrwydd, amynedd, a chariad brawdol cymdeithas wedi ei selio ar rinweddau Cristnogol.

Mae'n wir i amryw un, o Saunders Lewis i Hywel Gwynfryn (yn Melltith ar y Nyth), ailgyflwyno'r chwedlau yn y Mabinogi mewn modd sy'n denu chwilfrydedd meddylwyr Freudaidd neu Jungaidd, gyda'u diddordeb yn y wedd rywiol i bethau, a'r amwysedd a'r diffyd rhesymolder sydd yn y chwedlau ym mherthynas pobl neu greaduriaid â'i gilydd, a'r symud sydd rhwng y byd greddfol, anifeilaidd, a byd dynion a'u defodau a'u hawydd i roi trefn ar bethau.

Mae'r un peth yn wir wrth chwilio am enwau priod, fel BBC, neu Mabinogi: mae'r Chwilotydd yn gwahaniaethu rhwng y defnydd Cymraeg a'r gweddill.

Ym Mabinogi Manawydan mae crefftwyr eiddigeddus yn bwriadu lladd Manawydan a Phryderi ac yn y Vita Cadoci fe geir hanes adeiladydd o Wyddel y rhagorai ei waith ar waith y crefftwyr eraill a gyflogid gan Gadog gymaint nes iddynt ei ladd.

Er mor wahanol eu moddau yw dramâu Groeg, Dante, Shakespeare, y Gododdin, y Mabinogi, Rhys Lewis, Dafydd ap Gwilym, Rilke, Dostoevsky, y rhyfeddod mawr yw y gellir dadlau eu bod i gyd yn arwyddocaol am yr un rhesymau, fod yn gyffredin iddynt i gyd yr elfennau a'r nodweddion sy'n cyffroi dyn yn deimladol ac ymenyddiol.

Yr oedd y stori%au a seiliesid ar chwedlau'r cyfarwyddiaid - Pedair Cainc y Mabinogi a'u tebyg wedi'u hen gyfansoddi erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond delid i'w copi%o i lawysgrifau mawrion megis Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest.

Mae hyn yn wir hefyd am enwau: er enghraifft, gellid chwilio am safleoedd Cymraeg am Aberystwyth, am y Mabinogi, neu'r Super Furry Animals, neu Dafydd Morgan Lewis hyd yn oed. Golwg ar y Chwilotydd newydd

Nid turio i'r Mabinogi a Chymraeg Canol a wnaeth, a chwilio am batrymau fel ysgolhaig, ond ysgrifennu o gyflawnder ei enaid fel Cymro o Lanuwchllyn.

Yn y cyswllt hwn gellid codi posibilrwydd diddorol ynglŷn ê iaith y Mabinogi.