Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

maddau

maddau

Drwy lwc iddi hi mae Reg wedi maddau am y cwbwl.

O edrych ar rai o luniau David Gepp o Ogledd Iwerddon fe ellid maddau i'r anwybodus am feddwl fod bywyd yno'n un carnifal hwyliog.

Petai rhywrai'n digwydd gweld y ffilm hon ar ei hanner, a'r olygfa o'r gweithlu ym mol buwch y sinema, oll yn eu lifrai gwynion a'u helmedau lampiog a'u lanternau yn eu dwylo, gellid maddau iddynt am dybio mai glowyr oedd ar y sgrin.

Gweddi: Maddau i ni O Dduw y modd y llygrwn ni feddyliau a bywydau ein gilydd.

Gallai rhywun fod wedi maddau ei hun agwedd sarhaus pe na byddai'r creulondeb hwnnw yn ei lygaid.

Byddai rhywun yn ei chael rywfaint yn haws maddau y pethau hyn hyn pe byddai Henry wedi profi ei hun yn dipyn mwy o wr gwyrthiau ers ei ddyfodiad i'n gwlad.

Cydymdeimlo a maddau.

Gweddi: Maddau i ni'n camgymeriadau, O Dad nefol.

Roedd hi'n haws maddau i'r rhai a fu'n Frenhinwyr pybyr erioed am geisio adennill y wlad i Charles Stuart nag i'r gwrthgilwyr oedd yn barod i ymuno a'u gelynion!

Mae'n ymddangos y byddan nhw'n cefnogi'r Prif Weinidog, ond yn argymell maddau i arweinydd y coup" os bydd yr helynt yn dod i ben yn heddychlon.

Yng Nghymru gellir maddau popeth ond bod o ddifri ynglŷn â'r iaith.

Y tynerwch hwnnw sy'n ildio a maddau a derbyn hanfod pobl a phethau, oedd ei disgrifiad ohono i mi un tro.

Er hynny, maddau iddo wnaeth Rhian ond bu'r berthynas rhwng y ddau yn un stormus.

Gallwn yn hawdd fod wedi ei hoffi a maddau llawer iddo petai wedi dangos yr arwydd lleiaf o serch tuag ataf.

Ond ar ôl ein profiad yng Nghymru gyda'r refferendwm datganoli, gellid maddau inni am deimlo'n amheus iawn ynglyn â gwerth y fath beth.

Rydw i'n gobeithio y bydd fy mamwlad yn maddau i mi am beidio â bod mewn cytgord â'r Zeitgeist.

Maddau inni'r camweddau hyn ac arwain ni i weld fod plant Cymru yn rhan o'n cyfrifoldeb am dy fod Ti wedi eu caru a bod bendithion yr iachawdwriaeth wedi eu harlwyo ar eu cyfer hwy fel ninnau, ond iddynt gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist.

Yr wyf yn bechadur mawr; maddau, Arglwydd, er mwyn y gwaed, maddau.'

Ac yn wir dyma'r awel yn dod, ac yn rhoi Richard Owen ar lawr ar ei liniau i weddio'n gyhoeddus am y tro cyntaf erioed am wn i, ac yna yr oedd yn ceisio gweddio yn ei ddagrau, ac yn methu dweud dim, ond dyma fo yn medru gweiddi allan: 'O Arglwydd, maddau, maddau, maddau imi.