Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

magwyd

magwyd

Magwyd yma gymeriadau anturus a phenderfynol, fel John Roberts (Siôn Robert Lewis), awdur y pennill 'Braint, braint, yw cael cymdeithas gyda'r Saint', a chyhoeddwr Almanac Caergybi.

Fe'i lleolir yn Awstria ac yn Abertawe, lle magwyd yr awdur.

Mae'n beth rhyfedd, ond siwr o fod yn wir, fod cymeriadau yr ardal ble magwyd chi i weld yn llawer mwy diddorol na'r cymeriadau rydych yn eu cyfarfod heddiw.

Un dechneg o'r fath yw BLUP; gall hwn gymharu ansawdd gan ystyried unrhyw ffactorau eraill sy'n berthnasol, megis lle magwyd yr anifail, ei hanes teuluol, ffactorau megis rhyw neu ddul magu yr anifail.

Magwyd Richard Davies, mae'n amlwg, yn awyrgylch a thraddodiad yr uchelwyr o barch tuag at leynddiaeth gynhenid Cynru a diddordeb mawr ynddi, megis rhai eraill o gyfieithwyr beiblaidd ei gyfnod; a William Salesbury, William Morgan, a John Davies, Mallwyd, yn eu plith.

Er mai yn Lambeth yn Llundain y ganed ef, fe'i magwyd ym Mhen-y-groes ac acen hyfryd shir Gâr fu ganddo weddill ei oes.

Yn enedigol o'r ardal - fe'i magwyd yn Nhalysarn - dywed i'r holl bwyllgorau fod yn eithriadol o weithgar ac er fod llai o "ddwylo'' i'w cael nag mewn ambell ardal arall oherwydd poblogaeth denau ni fu pall ar eu brwdfrydedd, meddai.

Magwyd ef yn y cyfnod braf gynt, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, pan feddylid fod popeth yn gwella wrth ei bwysau, a'r unig beth y disgwylid i bawb o'i gyfnod ei wneuthur oedd cadw'u dwylo ar yr olwyn.

Bellach yn ddeuddeg ar hugain oed, fe'i magwyd ym Mhenmachno, ac yno, yn wyth oed,yr aeth ar lwyfan gyntaf, mewn drama bentref.

Fe'i magwyd yng Ngorllewin yr Almaen ond mae wedi byw yn Berlin ers y chwedegau pan chwaraeodd ran flaenllaw ym mhrotestiadau gwrth-sefydliad, gwrth- gyfalafiaeth a gwrth-imperialaeth y myfyrwyr yno.

Er ei geni yn Lerpwl, magwyd Mrs Jones ym Maesteg, South Beach, Pwllheli.

Mewn ffordd doedd dyn yn disgwyl dim gwell gan bobl yn eu diod, ond fe fyddai sglyfaethdod ar ran blaenoriaid ar dripiau Ysgol Sul a chynghorwyr Sir ar ymweliadau swyddogol yn arfer codi dychryn arno - nid felly y'i magwyd ef i ymddwyn ac roedd o wedi meddwl fod pawb parchus wedi rhannu'r fagwraeth ofalus gafodd ef - ond os oedd pymtheng mlynedd o yrru bws wedi dysgu rhywbeth iddo, roedd o wedi ei ddysgu nad oedd pawb yn rhannu'r safonau uchel o lanweithdra a moesoldeb a gyfrifid mor anhepgor gan ei fam ac yntau.

Ganwyd a magwyd Gwyn Chambers yn Llundain, yn fab i Gymro Cymraeg o Lerpwl a Chymraes o Dywyn, Meirionnydd.

Yno magwyd fy nhad, ac fe fuo New York ynghlwm yn ei enw ar hyd ei oes.

Erbyn heddiw tueddwn i feddwl am gŵn fel anifeiliaid anwes ond ar ffermydd a thyddynnod Sir Benfro a Sir Aberteifi y magwyd y ddau fath o gorgi yn arbennig ar gyfer gyrru gwartheg ac er mwyn hela y crewyd cŵn megis Daeargi Sealyham, y Daeargi Cymreig (a fu mor llwyddiannus yn Sioe Cruft eleni) a'r Tarfgi Cymreig (Welsh Springer Spaniel).

Mae cyw wedi ei godi mewn nyth ar fferrn ym Mhen Llþn yn treulio'r Gaeaf yn Affrica, ond mae yn dod yn ôl i'r union nyth y'i magwyd ynddo, y Gwanwyn canlynol.

Yn ystod y tridegau y magwyd syniadau Pero/ n, y gwr a oedd i osod agenda wleidyddol Ariannin am drigain mlynedd.

Magwyd cannoedd o deuluoedd ar nefer nefer y 'llyfr siop'.

Ffaith arall newydd a ddaethpwyd o hyd iddi trwy astudio cylch bywyd yr anifail yn fanwl yw fod rhai ohonyn nhw yn magu eu rhai ifainc yn ystod y gaeaf hyd yn oed cyn hyn credwyd mai yn ystod y gwanwyn yn unig y magwyd y rhai ifainc.

Magwyd yr awdur ym Merthyr Tudful ond y mae yn awr yn byw yn New Jersey.

Yn yr anobaith parhaol hwnnw y magwyd cefnogaeth i Saddam Hussein.

Magwyd yr awdur yn Ohio; y mae'n byw yng Nghaerdydd.