Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

malu

malu

Ac eto, malu awyr ydi hyn i gyd, mewn gwirionedd.

I bwrpasau meddyginiaethol gellir paratoi sudd betys trwy grasu'r betys, eu plicio wedyn a'u malu'n ddarnau mân a'u rhoi trwy hidlen neu gymysgydd bwyd, ac yna ychwanegu dŵr neu ddŵr mwyn (mineral).

Ond yr oedd yna eleni yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, ymdeimlad cryf o bwrpas a chryn dipyn o dân yr 'Oes Aur' futholegol honno y bydd newyddiadurwyr a chenedlaetholwyr sydd wedi hen chwythu eu plwc yn hoffi malu awyr amdani.

Symbol y cyfeillgarwch a'r malu yw'r cwt bugail a adeiledir yn llythrennol ar lwyfan a'i falu drachefn.

Byddai'r hen ffermwyr yn malu'r garreg-las ac yna yn ei chymysgu â sebon a'i rhoddi ar y crwn (ringworm) sydd yn cael ei achosi gan ffwng.

Ac meddai Defi Jones, Glangors, a oedd yn bwriadu cystadlu nesaf: "Brenin mawr," meddai "dyna Wil wedi malu nhelyn i'n grybinion"!

Wedi tanio'r garreg yr oedd gwaith malu arni wedyn.

Deall wedyn mai fy nghyfaill Bernard oedd yn gyrru a ddim yn arfer gyrru car gyda'r llyw ar yr ochr dde ac wedi mynd yn rhy agos i balmant a malu teiar.

Adeiladwyd hen wal gerrig yn y gornel yma o'r oriel, yn amgylchynu ysgubau o ŷd a cherrig malu hynafol.

Y noson yma roedden nhw wedi dod adre fel arfer; roedd o wedi agor y drws efo goriad fel arfer, ac roedd y ddau wedi cerdded i mewn i'r tŷ i glywed y sŵn malu a thorri mwyaf ofnadwy yn dod o'r gegin.

Diau ei fod yn iawn, ac eto, wedi gweld arwyddion o friciau'n malu, ni thybiwn i fod cerdded drwyddo'n gwbl ddiberygl.

Defnyddient y garreg-las, wedi ei malu'n fân, hefyd i roddi ar y dolur llaith (foul-foot), ar garn yr anifail.

Yn Rhiwlas, lle'r oedden nhw'n byw cynt, byddai Mam yn gweithio rhan-amser yn y siop ffrwythau, ond yma doedd hi'n gwneud dim byd heblaw gofalu am Malu a glanhau'r tŷ, a doedd hynny ddim yn dod ag unrhyw arian i mewn.

Byddai'r belen filain yn malu pob gewyn yn ei gorff, tarian ai peidio.

''Neno'r gogoniant, i be ma' isio i chi drampio'r wlad, gefn berfadd nos, yn malu ffenestri pobol onast?' ''Ddrwg gin i, Miss Willias.

'Nid yw'r felin heno'n malu', ac nid oes dân i grasu'r ŷd.

O'r herwydd, doedd yna, yn llythrennol, ddim car yng nghyffiniau y Gaiman a Threlew nad oedd ei ffenest flaen yn graciau i gyd - wedi eu malu gan y cerrig dirifedi a fyddai'n cael eu taflu gan olwynion ceir eraill yn pasio.

Gwaethygodd y storm, ysgubodd moryn mawr drosti a golchi'r ddau gwch achub i'r môr a malu'r olwyn llywio.

Wneith o ddim tarfu arni hi, mae o'n gaddo bihafio, wneith o ddim malu'r lluniau tro 'ma na dymchwel y byrddau.

Y gost oedd y bwgan yma eto, ond yn hytrach na gwario ar 'bowdwr mawr' o bryd i bryd i geisio'i symud yn ei grynswth, buasai wedi bod yn llawer mwy proffidiol i gael peiriant malu metling ('stone crusher') i lyncu'r gwenithfaen fesul tipyn, a'i werthu i wneud ffyrdd yn hytrach na'i fwrw dros y domen.

Ymhellach i ffwrdd mae'r dolydd glas a'r caeau yd ger y felin sy'n malu'r grawn yn flawd i'w fwyta.

Sbonciodd gwydryn dŵr o'r basn ymolchi a malu'n deilchion ar y llawr.

"Mae 'na ryw grinc yn y fan yma yn meddwl mai refferî ydy o." Wn i ddim beth gafodd o yn atebiad, ond tra oedd o wrthi'n malu felly, mi aeth yna ddau foto i wyneba'i gilydd.

A waeth heb a malu awyr am brydferthwch cwysi union gwŷdd main yn sgleinio yn yr haul, a siffrwd y gyllell drwy'r dywarchen, a rhugl y cwlltwr drwy'r pridd wrth i wedd o geffylau porthiannus ei dynnu, a'r certmon rhwng y cyrn yn ei ddal ag un troed yn y rhych ac un goes yn fwy na'r llall drwy'r dydd.