Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

malwr

malwr

Nid yr un drefn sydd ym mhob gwaith; mae y malwr ei hun, yn ambell i le, yn gorfod tyllu'r rhain, ond mewn llefydd eraill mae dyn sy'n gwneud dim ond tyllu.

Wel rwan yntê, dyma'r malwr yn mynd i ben draw'r bonc ac yn nôl wagen, peth rhywbeth yn debyg i focs sgwâr heb gaead arno ac un pen wedi ei dorri i ffwrdd, a'r bocs hwn wedi ei osod ar bedwar olwyn, ac yn dal rhywbeth o ddwy dunnell i ddwy dunnell a hanner o bwysau.

Lle rhyw dair llath o led oedd y fargen, a dyna oedd gweithdy'r malwr, ond gyda hyn o wahaniaeth, mai'r awyr oedd ei do; felly gwelwch fod y creadur hwn yn dibynnu'n hollol ar y tywydd am ei fywoliaeth.

Mae gan bob malwr ei le ei hun; term y gwaith amdano yw Bargen, ond coeliwch fi fuo erioed enw mwy camarweiniol; colled a llwgfa fu i ugeiniau, fel y dywedodd un ryw dro.