Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mamau

mamau

Wrth fynd i mewn i ward y mamau a'r babis fe gynigiodd nyrs ei helpu.

Yr hyn ddigwyddodd felly oedd i un mudiad sefydlu patrwm o fwydo babanod dan flwydd oed am ddeg o'r gloch ac eto am ddau o'r gloch bob dydd, tra bod mudiad gwahanol ym mhen arall y ddinas yn agor ei ddrysau i fwydo mamau, a neb ond mamau, am hanner dydd.

Ond fel dwedodd y Saesnes benwyn, rhywbeth i'r kids - heb anghofio'r mamau a'r tadau sy'n eu gwthio - ydi'r Eisteddfod.

Ni ddylid rhoi'r flaenoriaeth yn gyfan gwbl i ieuenctid: yr oedd angen targedu grwpiau eraill yn ogystal (fel mamau/teuluoedd o oed cenhedlu, ac oedolion sy'n arwain barn yr ifanc).

Ond pa obaith oedd ganddi yn erbyn aelodau darbodus Undeb y Mamau?

Rhoddi tro drwy fynwentydd y cedyrn a gwympasant - a sefyll ar rai o'r meysydd a'r llanerchi ag ar ydym yn y pedair blynedd a basiodd mor gynefin â'u henwau ag yr ydym ag enwau ein mamau a'n chwiorydd, ar tai y'n ganwyd ynddynt.'

Y mae'r tair merch sydd heddiw, a minnau'n sgrifennu, yng ngharchar Bryste wedi eu rhwystro rhag siarad yn eu mamiaith wrth eu mamau, yn pigo cydwybodau hyd yn oed aelodau seneddol Cymreig y Blaid Lafur.

Mewn buggy neu gadair olwyn fechan (push-chair) y caria mamau eu plant heddiw, neu mewn cwd ar y cefn neu wrth y fron.

Y Prawf - Fe lwyddodd y gohebydd i fynd heibio i'r Dderbynfa a wardiau unigol lle'r oedd mamau yn bwydo'u plant ond fe gafodd ei rhwystro ddwywaith cyn cyrraedd at y brif ward ei hun.

Gwenodd ar Leusa Parry, a oedd wrth ei phleser yn llnau'r brasus: llawenydd ei bywyd hi oedd y sglein ar yr allor: Talai o'i phoced ei hun am y Brasso ar ôl i Undeb y Mamau gwyno ei bod yn defnyddio gormod ohono; ond ni ddychwelodd Leusa Parry ei gwên, ac roedd hynny'n brifo o gofio fel y bu hi'n ddadlau drosti.

Yn ôl tystiolaeth un meddyg y bu+m i'n siarad â hi, roedd rhai mamau wedi anobeithio ac wedi troi cyrn gyddfau'u plant er mwyn arbed eu maeth a'u nerth eu hunain.

Dylid osgoi gwahanu mamau a'u plant.

Ceisia pob lloches gynnig gofod, offer, a gweithgareddau ar gyfer y plant, ond dengys ein profiad na elwir yn llawn ar y rheini heb weithwraig plant wedi ei chyflogi i ganolbwyntio'n neilltuol ar anghenion y plant, ochr yn ochr â rhai'r mamau.

Y tu allan i'r corlannau, mae rhai mamau'n ceisio golchi'r staen oddi ar ddwylo eu plant - er mwyn mynd yn ôl am docyn bwyd arall.

Mae cyfraniad Harvinder Sangha - a gyfrannodd hefyd i Hen Wlad Fy Mamau rai blynyddoedd yn ôl - yn un pwysig i lif y gân gyda'r bît ethnig yn amlwg ac yn sicr yn un o uchelbwyntiau'r albwm sy'n dangos yn eglur faint o feistri ar eu crefft ydy Llwybr Llaethog, yn gosod y llais mewn mannau allweddol yn y cyfoeth o gerddoriaeth.

Mae'n debyg fod mamau na allai fforddio bwydo'u plant yn eu rhoi yn yr olwyn.

Ac nid mamau yn unig - ond tadau yn ogystal, arferiad na welid mohono ym Morgannwg y dauddegau.

Mewn sioliau y mae'r mamau yn cario eu plant mân yn 'Diwrnod i'r Brenin' - a nodwch fod y mamau yn mynd â'u plant mân gyda nhw ar y trên i siopa er bod eu gwŷr yn segur gartref ac yn rhydd i'w gwarchod.

Mamau oedd mamau a thadau oedd tadau.

Oherwydd hyn mae nifer o chwaraewyr yn anfodlon i'w mamau, gwragedd neu gariadon eu gwylio'n chwarae.

Nid yw'n syndod fod plant ar ben heol yn ceisio denu milwyr i gysgu gyda'u chwiorydd - a'u mamau hefyd, fel y clywais.

Yn yr olaf y mae dosbarth dysgu Cymraeg i'r mamau.

Eisteddodd disgynyddion William Davies, Fforest Uchaf, teuluoedd Nant y Gro, Culheol, Y Tyddyn Melyn, Maesgwilym, Tŷ Mawr a Phwllygod a Thŷ'r Gors a'r Waungrin a gwrando ar gatalog o weithredoedd eu tadau a'u teidiau, eu mamau a'u neiniau.

Clywais sawl stori am y bechgyn hyn yn cael eu cludo i wersyll enfawr yn y wlad - y mamau'n crio yr ochr draw i weiren bigog wrth i'r bechgyn ddisgwyl am yr awyrennau a fyddai'n eu cludo i faes y gad.

Os oedd hyn yn wir, yr oedd yn ddigon i gyfrif am bob anfoesoldeb arall, gan fod pob cenhedlaeth yn derbyn ei safon foesol i raddau helaeth oddi wrth y mamau a'i magodd.

Ond ni fyddai perfformiad o'r fath safon yn bosib heb lafur ymroddedig ymlaen llaw gan yr athrawon eraill, a chymorth y mamau dawnus oedd wedi addurno'r llwyfan a'r neuadd yn gelfydd a gwneud llawer o'r gwisgoedd tlysion.

Ar ôl sefyll mewn rhes am oriau i sicrhau fod eu plant yn cael un pryd maethlon y dydd, roedd hi'n gwbwl amhosib' i'r mamau gyrraedd yr ail ganolfan fwydo mewn pryd i gael eu bwyd eu hunain.

Er mai plant a phobl ifanc yw'r rhan fwyaf ohonynt, ceir mamau, tadau a hen bobl yn troi i mewn o dro i dro.

Trefniadau Diogelwch - Cloi drysau'r uned ar ôl deg y nos, camera ar y drws i weld pawb sy'n cyrraedd, camerâu eraill yn gwylio'r ward, clo digidol ar y feithrinfa, cardiau adnabod a sustem i'r mamau nodi hynny os ydyn nhw'n gadael y ward.

Maen nhw hefyd yn cerdded ymlith y mamau a'r plant sy'n eistedd yn amyneddgar mewn rhesi trefnus.

Gwthiai'r mamau ifanc y babanod o gwmpas mewn cadeiriau a phramiau.

Pryd ddiwethaf (os erioed) y gwelsoch chi'ch mamau yn pobi bara (erbyn hyn daeth pobi gartref yn orchwyl ymwybodol, nid yn anghenraid) ac yn treulio rhan dda o'r dydd yn glanhau'r tŷ gan flacledio'r lle tân a golchi'r aelwyd?

Roedd rhaglenni eraill yn cynnwys cyflwr yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd, bywyd mamau sengl ym Mlaenau Ffestiniog, a gwneud ffilmiau cartref.