Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

manafon

manafon

Ar ôl i chi symud i'r ardal yma, oeddech chi'n teimlo fod y bobl yma yn debyg i bobl Manafon?

Roedd yna rhyw awydd yno i i symud o Manafon oherwydd doeddwn i ddim yn gartrefol ymhlith y Sais Gymry.

Mi ddes i i gysylltiad a Euros Bowen pan o'n i yn Manafon roeddwn i'n mynd drosodd ambell i noson, ac roeddem ni yn sgwrsio am sut yr oeddwn i yn teimlo am dirwedd Cymru ac yn y blaen, ac roedd o yn dweud fod hyn, "yn dangos eich bod chi'n Gymro%.

Ffermwyr defaid oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw, ffermio cymysg oedd yn Manafon, pobl oedd yn gweithio'n galed trwy'r flwyddyn, ond fel da chi'n gwybod mae bywyd y ffermwr defaid yn wahanol, mae o'n brysur ar adegau ond mae 'na adegau pan nad ydio'n rhyw brysur iawn, ac mae ganddo ddiddordeb mewn eisteddfodau a llunio englynion a phethe felly.

Byddwn i'n mynd i'r Waendir y tu draw i Manafon oedd yn amlwg yn Gymraeg ac yn methu dal sgwrs efo nhw heb droi i'r Saesneg.

Mi es i ati, ond dim ond cael gwersi unwaith yr wythnos yn Llangollen, ond wedi symud i Manafon mi ges i afael ar Weinidog nepell o Lanbrynmair, Llanfair Caereinion ac mi es ati o ddifri wedyn i ddysgu.

Sais Gymry oedd pobl Manafon a'r cylch, wedi cyflyrru i'r dull Seisnig o fyw.

Roedd yna bentref o'r enw Yr Adfa rhyw bedair milltir o Manafon, a thu draw i fanno roeddech chi'n teimlo eich bod chi yn y Waendir, a'r ychydig bobl fasa chi'n cwrdd a nhw yn Gymry Cymraeg.

Pan oeddech chi yn Manafon deuthoch chi i gysylltiad a phobl fel Iago Prytherch?

Un gwahaniaeth oedd fod yn rhaid i mi symud i'r Waendir o Manafon i deimlo'n gartrefol.