Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

manawydan

manawydan

Mae ansawdd naturiol y cysylltiad ê Lloegr ym Manawydan, ac i raddau llai ym Mranwen, yn drawiadol.

Adwaith cyntaf Manawydan oedd goddef yr amgylchiadau drwg, ond o'r diwedd yr oedd yn rhaid iddo ddod o hyd i'r gelyn a'i wynebu.

Fel canlyniad i weithredoedd Manawydan rhddheir Rhiannon a Phryderi, dychwelir gwraig Llwyd ato, daw bywyd a dedwyddwch yn êl i Ddyfed, ac ni wneir drwg i neb.

Mae'r Athro Pennar Davies yn diffinio problem Manawydan yn eglur - pa mor hir y dylid goddef anghyfiawnder, pa bryd y dylid gweithredu?

Arweinydd sy'n ymddiried mewn amynedd, cynllunio a phwyll yw Manawydan hefyd.

Nid ymryson rhwng dau ŵr cyffredin yw'r ymryson rhwng Llwyd a Manawydan, ond defnyddia Manawydan ei alluoedd mewn ffordd hollol wahanol i'r hyn a welir gan Lwyd a chan Wydion.

Er na chymer ran mor helaeth ê Manawydan yn y Pedair Cainc, mae Brên hefyd yn personoli syniadau'r awdur am lywodraethwr delfrydol; felly Pwyll hefyd ac, i raddau llai, Math.

Mae Manawydan a Llwyd, ill dau, yn adennill yr hyn a oedd yn nesaf at eu calonnau, mae anrhydedd y naill a'r llall heb niwed, ac ni chollir diferyn o waed.

Mae'r Athro Mac Cana wedi sên am bwysigrwydd Manawydan, gan awgrymu bod y cymeriad hwn yn mynegi barnau yr awdur ei hun.

Aethai'r Cymry i Iwerddon am ganrifoedd i geisio lloches a chymorth, ond try Manawydan at Loegr.

Ym Mabinogi Manawydan mae crefftwyr eiddigeddus yn bwriadu lladd Manawydan a Phryderi ac yn y Vita Cadoci fe geir hanes adeiladydd o Wyddel y rhagorai ei waith ar waith y crefftwyr eraill a gyflogid gan Gadog gymaint nes iddynt ei ladd.

Ym Manawydan fe ddywed yr ysgolhaig ei fod wedi dod 'o Loygyr o ganu', a gellid meddwl bod yr offeiriad a'r esgob yn dod o'r un cyfeiriad.

Deuir i gytundeb eglur, gofalus, a Manawydan yn gwylio ar bob manylyn.