Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mantell

mantell

Chwiliwch am y rhain: pren y ddannoedd Sedum rosea, teim gwyllt Thymus drucei, mantell Fair fynyddig Alchemilla vulgaris, tormaen coch Saxifraga oppositifolia, llafn y bladur Narthecium ossifragum, tormaen mwsogaidd Saxifraga hypnoides, bara'r gôg Oxalis acetosella, tormaen serennog Saxifraga stellaris, eglyn Chrysoplenium oppositifolium, suran y mynydd Oxyria digyna.

Fe'i defnyddid gan wrachod yn eu swynion ac felly os darganfyddid un mewn tusw o flodau Calan Mai fe'i teflid ymaith ar unwaith.Cyfeiria'r enw arall - Mantell y forwyn - at siap y blodau a'r hen arferiad o daenu mentyll ar lwyni i sychu yn y gwanwyn cyn eu cadw tan y gaeaf.

Serch hynny, yn anesmwyth y gorweddodd mantell serennog yr actores ffilmiau ar ei hysgwyddau erioed ac roedd hi'n sôn am droi at yrfa fel gweithwraig gymdeithasol neu rywbeth tebyg hyd yn oed ar anterth ei phoblogrwydd masnachol.

Bydd yn ein gwisgo mewn mantell wych o anfarwoldeb wedi'i llunio â'i law ei hun.

mae'n amlwg fod Bouchard gyda'i wallt du afreolus, ei aeliau dramatig a'i Ffrangeg delweddus wedi cymryd mantell Rene Levesque, fel ymgorfforiad o genedligrwydd Que/ bec.

Roedd Rowland yn aros amdani pan ddaeth hi'n ôl wedi diosg ei mantell a'i het, a theimlai Meg bigiad o anniddigrwydd wrth sylwi ar ei wyneb di-wên.

Felly, er cymaint pwyslais Williams ar hyd ei oes ar uniongrededd mewn athrawiaeth, yr oedd yn sensitif iawn i'r angen am ffydd fywiol yn y galon, y ffydd a oedd yn sicrhau cyfiawnder Duw fel mantell i guddio noethni moesol y pechadur.

Disgynnodd ei berwig grychiog ddu fel mantell am ei ysgwyddau.

Wnaeth Jeroboam ddim nabod y proffwyd ar unwaith, oherwydd roedd yn gwisgo mantell newydd.

Archwiliais wynebau allanol llabedau mewnol ymylon mantell yn y microsgop electron sganio gan obeithio gweld derbynyddion synhwyro eraill.

Roedd y gwres meddal gwlyb fel mantell o'n cwmpas.

Mae ymylon mantell yn arbennig nid yn unig am fod ganddynt nifer o dentaclau hir ond hefyd am fod llabed fewnol ymyl y fantell yn helaeth iawn.

Hen ūr oedd yno, wedi ei wisgo mewn mantell dreuliedig ac arni gwcwll dywyll.