Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

manylu

manylu

Ar ran yr Ysgrifenyddiaeth mynegodd bryder fod y manylion cyllidol a gyflwynwyd i C.DDC yn anghyflawn ac anghywir a byddai'n anodd i geisio manylu ar y wybodaeth ymhellach.

Cyn manylu ar natur y cwricwlwm hwnnw, dylid cyfeirio at ddogfen mwyaf diweddar o stabal Cyngor Cwricwlwm Cymru Agweddau ar Addysg Gynradd yng Nghymru.

Yr oedd y cynnig sosialaidd yn rhy fanwl, gan nad oedd y Blaid eto'n ddigon cryf i fod yn manylu fel petai hi ar fin ennill awdurdod i ddeddfu.

Felly, yn yr un modd, er y byddai rhai gramadegwyr yn manylu mewn ffordd wahanol, fe ddwedwn i mai yr un hanfod o ddibynnu sydd mewn brawddeg fel 'Lladdodd Gwilym y ci.' 'Gwilym' eto yw'r canol.

Yr oedd y cynnig arall yn y pegwn arall: gan nad oedd yn manylu, yr oedd yn ymddangos fel petai'n gorseddu egwyddorion y byddai pawb y tu allan i'r Blaid yn eu dehongli'n wrth-sosialaidd ac yn wrth-werinol.

Ynghylch manylion y myth o ran ei gynnwys, a'i ddylanwad ar feddwl y Cymry hyd at y ddeunawfed ganrif, ni raid manylu yma.

Nid digon manylu ar eu cyflwr economaidd a chymdeithasol.

Yr oedd ar raglen y Gynhadledd gynnig oddi wrth un o ganghennau'r Gogledd, yn galw am ymwrthod â pholisi economaidd tybiedig y Blaid, a mabwysiadu polisi pendant sosialaidd; yr oedd y cynnig yn faith iawn, gan ei fod yn manylu'n llawn am yr hyn a olygid.

Treulir cryn amser a chyllid bob blwyddyn yn manylu ar yr anghenion, gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael a gofynion newydd y cwrs addysg.

Fe fyddaf yn manylu ar ei flynyddoedd yn Llanrhaeadr mewn darlith yno ymhen rhyw ddeng niwrnod - os gallaf sgrifennu'r ddarlith mewn pryd - ac felly fe fodlonaf ar amlinellu'r hanes yn unig yma.

Y mae'r Gweithgor Ymchwil wedi manylu ym mhob categori ar y projectau y dylid rhoi'r brif flaenoriaeth iddynt yn y tymor byr, (gan gydnabod fod oblygiadau tymor byr a hir ynghlwm mewn rhai ohonynt).

Fe fydd y Dr William Griffith eisoes wedi manylu ar y cyrsiau addysg a gynigid yng Nghaergrawnt yr adeg honno, fel mai cwbl afraid ydyw i mi wneud hynny hefyd.

Y dulliau mwyaf effeithiol o drosglwyddo gwerth addysg Gymraeg i rieni ifanc sy'n Gymry Cymraeg neu'n ddi- Gymraeg (Mae adroddiad y Gweithgor Cyhoeddusrwydd yn manylu ar hyn).

Dylid darllen y drafodaeth hon ar bob cyfrif, yn enwedig oherwydd y manylu sydd ynddi ar hanes llunio'r pennill cyntaf.

Nid yw'r Ddeddf yn manylu ar ffurf na chynnwys y cynlluniau unigol ar wahân i nodi'r ddau beth hyn:

Byddai rhaglenni tri, pedwar a phump yn manylu ar y themâu hyn, gan ymdrin â ffermio, cludiad a datblygu diwydiannol.

Afraid fyddai imi ddechrau manylu ar gyfoerth y llyfrgell honno.

Cyflwyno'r broses ysgrifennu a sut y gellir ei gweithredu o fewn dosbarth; manylu ar ymateb i waith ysgrifenedig plant gan gynnwys dulliau ailddrafftio.