Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

march

march

Ar ôl yr ymgyrch gyntaf honno ynglŷn â'r iaith, daeth o bob cythrwfl fel march rhyfel yr Ysgrythur, ond bod y mwg o'i ffroenau ef yn fwg baco ac yn fwg bygylaeth.

Mae gwahaniaeth rhwng lleuad a lleuad mewn gogoniant hefyd gyda thros ugain o dermau â lleuad yn rhan ohonyn nhw - yn amrywio o lleuad fain i leuad march melyn a lleuad naw nos ola.

Dyma real American Army - ar ei homeward march o faes y rhyfel!

"Stand, turn, march," ebe'r athro yn ei ddull awdurdodol, ac allan â ni, yn weddol drefnus nes mynd o'i ŵydd, ond wedi hynny yn bur wahanol.

Dewis March yw'r tymor pan na fydd dail ar y coed, a chân Esyllt englyn gorfoleddus, yn llawenhau y bydd hi'n gallu treulio pob tymor yng nghwmni ei chariad, gan fod tri phren, y gelynnen, yr ywen a'r eiddew, â dail ir trwy gydol y flwyddyn.

Gofynnodd March i'r brenin Arthur ddial ar Drystan am y sarhad - er bod March a Thyrstan ill dau yn perthyn i Arthur, yr oedd March yn gefnder i'r brenin, ond nid oedd Trystan ond yn fab i gefnder.

Hen arferiad cas gan Owain Goch oedd tynnu yng ngwallt yr eneth fel tynnu ym mwng march.

Cynnar iawn, wrth gwrs, yw'r gerdd (neu'r ddwy gerdd) yn Llyfr Du Caerfyrddin, ond yr unig ffeithiau pendant yno yw ei bod yn cyfeirio at hanes am Drystan a March (sef yr elfen fwyaf sylfaenol yn yr hanes), a hanes arall am 'ddial Cyheig' - cymeriad na wyddys fawr ddim amdano, ac na ddaw ar gyfyl hanes Trystan mewn unman arall." Yn ôl y ddysgeidiaeth hon, felly, y mae'n rhan o swyddogaeth y llywodraeth i ddefnyddio'r gyllid lywodraethol i reoli galw cyfanredol yn yr economi er mwyn sicrhau lefel cynnyrch gwladol sy'n cyfateb i gyflogaeth lawn.

Mewn rhai o'r llawysgrifau ychwanegir un episod arall, lle cynigia Arthur, gan nad yw March na Thrystan yn barod i ildio, y dylai un feddiannu Esyllt tra fyddai'r dail yn ir ar y coed, a'r llall yn ystod gweddill y flwyddyn.

Wedi i March apelio eto at Arthur, danfonodd y brenin 'wyr cerdd dafod' i swyno Trystan, ond dychwelyd i'r llys a wnaethant, wedi i Drystan eu gwobrwyo ag aur.

Aeth i mewn iddi nid fel cadfridog ar gefn march rhyfel ond fel gwas ar gefn asyn, arwydd o'r fath o oes fesianaidd y buasai Iesu'n ei chyhoeddi o'r dechrau.

Pranciodd y llong fel march piwus, llamsachus trwy'r cawodydd o ewyn hallt nes gyrru'r teithwyr ansicr i lawr i noddfa'r salŵn.

Ond un diwrnod daeth gūr bonheddig cyfoethog ar gefn march glas i Aberceinciau gan holi am ūr y tū a phan ddeallodd ei fod wedi mynd i Abergwesyn fe aeth i'w gyfarfod.

Yn amlwg, gallent weld y pedwar march am fod effaith y llwch yn dechrau gwanhau.

Ifan: O'r borfa ar y cloddiau a'r twmpathau ar y gors fe gliriwn y rhent ag ŵyn-tac ac ebolion, pob llwdn fel ebol, a phob poni fel march erbyn y Gwanwyn .

'Was, gwna fy march yn barod, Rwy'n cychwyn ar daith.'

Ystorya Trystan yw'r peth tebycaf sydd gennym i chwedl go iawn am Drystan, ond anghyflawn iawn yw'r naratif fel y mae wedi ein cyrraedd, fel y dengys crynodeb ohono: Aeth Trystan ap Tallwch ac Esyllt gwraig March ap Meirchiawn yn alltudion i Goed Celydon, yng nghwmni morwyn Esyllt, Golwg Hafddydd, a gwas ifanc o'r enw y Bach Bychan.

Darllenais gyda diddordeb ei bod yn fwriad gan y Peoples Fuel Lobby i ailgreu y Jarrow March hanesyddol.