Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mary

mary

Roedd Jim Pellai hefyd, a oedd yn blisman rhan amser, ac felly'n gyfarwydd â'r heddweision lleol, yn awyddus iawn i Ali ddweud wrth yr heddlu am ddiflaniad Mary.

Gwadai Mary ei gyhuddiad a bu rhagor o ffraeo rhyngddynt, ac aeth hi a'r plant at ei mam unwaith yn rhagor.

O dipyn i beth datblygodd carwriaeth rhyngddo ef a Mary, a phan godai Ali'n fore i weithio shifft gynnar, nid yn anaml neidiai Fred o un gwely i'r llall i'w gadw'n gynnes, fel petai!

Y fam yn y cerbyd gyda'r rhai lleiaf, y tad yn gyrru un wagen, Iago yn gyrru y llall, a David Rhys y brawd hynaf yn gyrru y drol, a'r ddwy chwaer hynaf, Mary ac Elisabeth ar gefn ceffyl ar yn ail i yrru y gwartheg ar ceffylau.

Yna, gofynnodd Mary iddo fynd â'r allwedd yn ôl at Fred Bird.

Roedd yn anrhydedd mawr pan ymddangosodd pedwar gwleidydd blaenllaw sef Mary Robinson, Mikhail Gorbachev, Eduard Shevardnadze a Lech Walesa mewn rhaglen arbennig, Dathliad Gwag? a gynhyrchwyd ar gyfer BBC Cymru gan y cwmni annibynnol, Quadrant.

Ceisiodd Ali ei orau i berswadio Mary i aros, gan fynd cyn belled â gwrthod i'r plant fynd gyda hi yn y gobaith y byddai hynny'n ei darbwyllo.

Agorodd Mary'r drws iddo ymhen hir a hwyr gan wneud esgus ei bod wedi pendwmpian ar y soffa a'i bod yn rhaid bod y glicied wedi dod i lawr ar ddamwain.

Parhaodd y garwriaeth rhwng Martin a hi am beth amser, ond yn y diwedd penderfynodd ef na fedrai adael ei wraig a'i blant er mwyn Mary Yafai, a phan ddywedodd hynny wrthi, digiodd yn llwyr a mynd unwaith yn rhagor i dŷ ei mam y tro hwn heb y plant.

Mary Whitehouse yn sefydlu Cymdeithas Genedlaethol Gwylwyr a Gwrandawyr.

Jane Mary yn mynd yn gyflym - clip, clip, clip, clip ....

Pe byddai Helen Mary Jones yn cyrraedd yr uchelfannau, felly, gallwn fod yn siwr y bydd llais yr ifanc yn cael ei glywed o fewn Plaid Cymru.

Cafodd y fraint o arlwyo gwledd i'r ddiweddar Frenhines Mary, ac wedi hynny, i'r Dywysoges Elisabeth (fel y'i gelwid bryd hynny), y Tywysog Philip, yr Arglwydd Mountbatten a llu o enwogion eraill, megis Mrs Eleanor Roosevelt, Syr Winston Churchill a Dug Caerloyw.

Mewn dathliad yn Theatr Felin-fach, ger Aberaeron, dyfarnwyd iddo Dlws Mary Vaughan Jones.

Hyd yn oed ar ddiwedd ei oes, ac yntau erbyn hynny yn byw ym Mhenarth, ac yn briod a'i drydedd wraig, Mary Davies, merch un o'i aelodau yn King's Cross, Saesneg oedd iaith y defosiwn teuluol a doi'r darlleniadau fel arfer o gyfieithiad Moffatt.

"Yr oedd Cura yn wefreiddiol ac fe ddaeth â rhywbeth cwbl arbennig i'r perfformiad," meddai Mary.

Dylai canghennau cylch Bangor ddod a'u Llyfrau Lloffion at Delyth Murphy a changhennau cylch Caernarfon at Mary Roberts, yr Is-ysgrifennydd Rhanbarth.

Pan ddychwelodd Mary Jane i Dyddyn Bach ymhen deuddydd, cyffesodd Siôn Elias ei fod wedi lladd dyn mewn tafarn yn Lerpwl rai blynyddoedd cyn hynny.

Eglwys Saesneg oedd ym Mwcle, ac ymhlith y gynulleidfa yr oedd y ferch ifanc o dras Albanaidd, Mary Taylor, a ddaeth ymhen ychydig flynyddoedd yn wraig iddo.

'Roedd Mary ei chwaer wedi priodi ac yn byw ym Mhenrhyn Terrace ac yno yn naturiol yr aed gyntaf i holi.Siwrnai sethug a gafwyd.

Methais â dod o hyd i lawer o fanylion amdano, ond gwn mai Mary oedd enw ei wraig a bu iddynt ddeg o blant, - y canlynol yn eu plith:

Roedd wedi galw yn nhŷ Ali fore dydd Gwener pan ddywedodd Ali wrtho fod Mary wedi mynd i Lundain ac iddo roi decpunt iddi.

Tra oeddent yn byw yng Nghaerllion, ac yn fuan wedi pen blwydd Mary yn un- ar-hugain, bu cweryl ffyrnig rhyngddi hi a'i gŵr, ac aeth hi a'r pedwar plentyn yn ôl at ei mam i Birmingham.

Dyma'r rhaglenni sydd i ddod: Drefach Mai 19 Rhodri Morgan, Prif Ysgrifennydd y Cynulliad; Helen Mary Jones, Aelod y Cynulliad dros Lanelli; Jon Gower, darlledwr; Gareth Davies, cyn-chwarewr rygbi rhyngwladol.

Cyn i Alun Michael gael cyfle i ateb neidiodd Helen Mary Jones i'r adwy.

Am rai wythnosau bu Fred yn gyrru'r fen o gwmpas y dref, weithiau yng nghwmni Ali ac weithiau yng nghwmni Mary.

Holwyd Mary Jane yn galed gan Mr Thornton Jones.

Breuddwyd y ddiweddar Shân Emlyn, cyn gadeirydd Cymdeithas Cymru Ariannin, oedd ffilmio'r Misa Criolla a Mary Simmonds a Ceri Sherlock o gwmni teledu Teliesyn sy'n llafurio ers dyddiau yng ngwres Rhagfyr i droi'r freuddwyd yn rhaglen deledu.

Yn eironig iawn, mae datganiad Mary Harney wedi ennill brwydr iddo, er nad, o bosib, y rhyfel.

Ganwyd ef ym Mary Street, Caernarfon, a'i addysgu yn Ysgol Sir y dref honno, gan arbenigo mewn Saesneg a Ffrangeg.

Pryddest farwnadol dyner am Jane Mary Walters, y wraig a fu'n gyfrifol am fagu'r bardd wedi iddo golli ei fam yn ddwyflwydd a hanner oed.

Dywedodd Alun Michael iddo ymweld âr ysbyty ddwywaith yn ddiweddar - yn ceisio cywain pleidleisiau i Lafur, mae'n debyg - ond ddim digon i gadw Helen Mary draw.

Ond gallaf weld Mary O'Riordan, nyrs o Ddulyn sy'n gweithio i Gronfa Achub y Plant, yn gwibio'n nerfus rhyngddynt.

Pan ofynnodd Francis i John pam y bu iddo dorri'r gwn dywedodd fod arno ofn i'w dad ei saethu, ond iddo gael ar ddeall wedyn, gan Mary Jane Williams, mai bwriad ei dad oedd ei daro â baril y gwn yn hytrach na'i saethu.

'Roedd yn hoff iawn o Mary Jane, meddai, yn fwy felly nag o'i wraig ei hun a dim ond y gwn a hithau oedd wedi ei gadw'n fyw.

Raffl: Ar ol cael y manylion yngl^yn a dyddiad y Sioe Ffasiynau, bydd Mary Roberts, yr is-ysgrifennydd rhanbarth, yn trefnu'r raffl.

Tua hanner awr wedi dau neu chwarter i dri, galwodd Ali yno a rhoi allwedd y fflat iddo oddi wrth Mary.

Aeth yn ôl i'r gegin a chlywed y sgrechian wedyn a llais Mary yn glir yn gweiddi mewn dychryn, 'Mae'n ddrwg gen i, ddrwg gen i.

'Y gweld cyntaf' a ddaeth iddo, fel yr esboniodd mewn llythyr at Mary Lewis, a oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad, oedd, 'nad oes ddianc rhag enbydrwydd arswydus economeg y gors.' Dyma sail yr athroniaeth feirniadol a fynegwyd yng Nghwm Glo: 'Gweld cefn gwlad yn dihoeni a wneuthum,' meddai ac o ganlyniad meithrin ymwybyddiaeth o'r graddau y dylanwedir ar fywyd yr unigolyn gan amgylchiadau sydd y tu hwnt i'w reolaeth ef.

Y peth nesaf oedd y Dirprwy Weinidog Mary Harney yn dweud y dylai'r cyn Brif Weinidog gael ei garcharu.

Ar ddiwedd sgwrs Mr Bevan mwynhawyd paned o de a bisgedi a diolchwyd i Mr Bevan ar ein rhan gan Mrs Mary Roberts.

Er nad yw Mary'n hoffi'r modd y mae hyn yn cael ei wneud, dywed mai dyna'r unig ffordd.

Felly ar Elisabeth y syrthiodd y cyfrifoldeb o gadw trefn ar y plasty a'r gweinyddion yn ogystal a'r gofal am ei brodyr a'i chwaer fach, yn enwedig pan fyddai Meistres Mary Games yn mynd a'i mab hynaf, Richard, i'r plas newydd ger Y Fenni.

Gwgodd Mary mewn anfodlonrwydd.

Aeth Ali ymlaen i ddweud iddo ef a Mary fynd allan i ddosbarthu cig wedi i'r plant fynd i'r ysgol.

Pan ddaeth adref tua phump o'r gloch roedd Mary yn y fflat yn ei ddisgwyl.

Cerddodd Mary Games yn ol tuag at ei phlas yn Llanelli.

Evans a'i wraig Dilwen, y pryd hynny o Ben-uwch ond yn ddiweddarach o Lanilar, lle mae'r ddau'n byw hyd heddiw; Eiddwen James, Llanfair; Mary Jones, Pennant; T.

Yn fwy ffodus na Mary, druan, mae hi wedi cyflawni gofynion rhaglen addysgiadol Mr Evans, hen weinidog Blaenycwm ac wedi dychwelyd i wareiddio Cymru.

Mae'n wir nad oedd e mor dal a'i frawd Edward nac yn debyg i'w dad fel yr oedd Henry a doedd e ddim mor hoff o lyfrau ac addysg a'i chwaer Elisabeth, ond serch hynny i gyd roedd Mary'n siwr y byddai ei hetifedd yn dod yn wr doeth, anrhydeddus un diwrnod - yn deilwng o enw ei dad, Richard Games.

Yn fflat Fred yn Stryd Alma yr arhosodd Mary y noson honno.

Pan ddaeth Mary adre'r noson honno ar ôl bod yng nghwmni Fred, gyrrodd Ali hi o'r tŷ, ond addawodd y câi weld y plant drannoeth.

Aeth Mary'n ôl adref am hanner awr wedi naw fore trannoeth i wisgo'r plant a'u taclu i fynd i'r ysgol.

Arhosodd Mary yn fflat Fred y noson honno wedyn, a bu'n cysylltu ag un o'i chwiorydd yn gofyn i honno chwilio am dŷ iddynt a holi am waith i Fred naill ai yn Birmingham neu yn Daventry.

'William Henry Moss' oedd enw tad fy mam, ac yr oedd ei wraig Elizabeth ('Bessie') yn ferch i William Thomas a'i wraig Mary (nee Owen).

Ar wahân i Ali, un o'r rhai olaf i weld Mary oedd Aaron Rees, y bwtsiwr o Abercarn y prynai Ali ei gig ganddo.

Awgrymodd y dylai Fred wybod bod gan Mary gariad arall - rhywun o Gaerllion - a'i bod yn bwriadu cwrdd ag ef am un o'r gloch y prynhawn hwnnw, a'i fod ef (Ali) wedi rhoi decpunt iddi yn ei phoced a'i chynghori i fynd i ffwrdd i ystyried y peth.

Newyddion Teuluol Hyfryd oedd clywed newyddion da am Rhian a Rhidian Lewis, merch a mab Mr a Mrs Les Lewis, St Mary's Cresc, Garth.

Cytunodd Ali, a bodlonodd Mary aros gydag ef tan hynny.

Amheuaf ai Miles oedd yr enw arall, ond gwn fod cerdyn coffa am hen gyfaill iddi yn hongian ar y mur ar bwys y lle tan yn yr ystafell flaen ac mai enw ei chyfaill ymadawedig oedd Mary Miles Minter a gwn fod y cyfenwau Miles a Minter i'w cael yn weddol aml yn Ne Penfro.

Mae Mary Simmonds yn galw am drefn trwy gyfieithydd.

Gohebydd y Wasg: nid oedd adroddiad wedi dod i law gan Mary Vaughan Jones.

Mae wedi'i wneud yn gelfydd ar siâp llyfr agored o bren derw a rhai o gymeriadau gweithiau Mary Vaughan Jones (rhai fel Tomos Caradog, y llygoden unigryw) wedi'u llunio mewn arian yn sefyll ar lwyfan o'i flaen.

Un noson ym mis Gorffennaf roedd Debbie a'i brawd Darren yn ymweld â'u mam-gu, Mrs Mary Regan, a oedd yn saith deg pedwar mlwydd oed.

Ymhen diwrnod neu ddau, holodd Ali am unrhyw newyddion ynglŷn â Mary, a phwysodd arno i fynd at yr heddlu ond ni fynnai Ali mo hynny.

Pwysodd Waters arno ynglŷn â'r ymladd gan nad oedd neb wedi gweld Mary'n gadael y tŷ a'i ateb ef, yn ddigon rhesymol oedd, 'Wel, rydych chi wedi chwilio'r tŷ ac nid yw Mary yma, felly mae'n rhaid ei bod wedi gadael.' Digon teg.

Cadwodd Fred yr oed ond gorfu iddo ddisgwyl am awr yn ei fen y tu allan gan fod yr allwedd gyda Mary.

Pan ddaethant yn eu hôl, torrodd Mary'r newydd iddo nad oedd, wedi'r cwbl, yn mynd i fyw at Fred Bird ond bod ganddi rywun arall.

Roedd hi'n enedigol o Nantyffyllon, yn ferch i Howell a Mary Williams a gadwai siop groser yn y pentre ac yn selogion yng Nghapel Salem.

Martina Hingis yn erbyn Mary Pierce ac Arantcha Sanchez-Vicario yn erbyn Conchita Martinez fydd gemau rownd gyn-derfynol y merched ym Mhencampwriaeth Tenis Agored Ffrainc ym Mharis.

Merch yw hi sydd yn ei hanfod yn debyg i Mary Williams Blaenycwm, a chyfnither Morgan yn Y Tri Brawd, sef un sydd wedi'i chodi uwchlaw amgylchiadau'r teulu gwerinol yn rhinwedd addysg Saesneg mewn ysgol breswyl.

Ni welwyd Mary Yafai fyth wedyn.

Gan nad oedd ganddo ef na Mary drwydded yrru, cytunodd Fred i yrru'r cerbyd drostynt a phrynodd Ali fen Bedford at y gwaith.

Daeth Mary Jane Williams, un o Gaergybi ond yn lletya dros dro yn y Ffatri, Llanfachraeth, yno i geisio rhoi rhywfaint o drefn ar bethau, ond cyndyn iawn oedd yr hen Siôn Elias o roi ei law yn ei boced i dalu iddi er ei bod hi'n ôl pob sôn yn fwy na morwyn, a'r un mor gymwynasgar tuag at y tad a'r mab.

Mae hi'n amlwg fod Gwacamoli wedi cymryd sylw o boblogrwydd Mary Jane oddi ar yr EP ddiwethaf, gan fod hon yn ymdebygu o ran naws.

Tua hanner awr wedi un-ar-ddeg gadawodd Mary ef i fynd i gwrdd â Fred mewn caffi.

Dymunwn adferiad buan iddo, ac hefyd i Mrs Mary Jones, Hill Side ar ol damwain.

Er bod yr hyn a saethwyd eisoes yn "fendigedig" eglura Mary Simmonds fod y tîm cynhyrchu yn anelu at "berffeithrwydd".

Diolchwyd yn fawr i Mary Roberts, yr Is-ysgrifennydd Rhanbarth, am eu gwaith diwyd yn trefnu'r raffl.

Cyngor Gwlad: Adroddodd Mary Vaughan Jones fod llyfr o luniau bro Eco'r Wyddfa ar y gweill gan y Cyngor Gwlad.

Am ychydig o flynyddoedd, a hithau'n blentyn bach, yr oedd tŷ William a Mary Thomas yn gartref i'm mam.

Gellir dweud, gyda thafod mewn boch, mai Dr Frankenstein oedd y cyntaf i ddod â deallusrwydd 'artiffisial' i rywbeth difywyd - ond creadigaeth ffug dychymyg Mary Shelley oedd hwnnw.

Mae'r rhain gan April Bowen o Gwm Cynon, Joanne Pate a Mary Moylett, yn wreiddiol o Loegr, ond yn byw ac wedi dysgu Cymraeg yn Aberystwyth.

Bob tair blynedd y cynigir y Tlws, un wedi'i lunio'n gain gan Rhiannon Evans, yr eurych o Dregaron, i gofio am Mary Vaughan Jones a wnaeth gymaint ei hun i gyfoethogi llenyddiaeth plant.

Roedd Helen Mary Jones am sicrwydd - yn Saesneg - y byddai lefel bresennol y gwasanaethau yn adran ddamweiniau ac argyfwng Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, yn parhau.

Beth bynnag, priododd ei fan hynaf, Thomas a Mary Elisabeth Morgan o Ynys y Bwl, morwyn yn nhafarn Y Griffin, Pentre a bu iddynt naw o blant.

O blith y rhain cafodd Clwb Llanystumdwy ddwy o rai gweithgar iawn - Mary Pritchard (May) o Edern a ddaeth i Gefn-y-Meysydd, Pentrefelin, a Rhian Owen (Griffith gynt) a ddaeth i Bach-y-Saint, Cricieth.

Go brin y bydd hynny yn wir am Helen Mary Jones os y bydd hi'n cael ei dyrchafu o fewn Plaid Cymru.

Ar ddiwrnod olaf Awst bu'r tri yn trafod y sefyllfa a chyhoeddodd Mary a Fred eu bod yn mynd i fyw gyda'i gilydd.

Gobaith Ali oedd na fyddai Fred yn barod i dderbyn y pedwar plentyn yn ogystal â Mary, na Mary'n fodlon ildio'r plant er mwyn Fred, ac y deuai'r gyfathrach rhyngddynt i ben yn raddol, fel y gwnaethai gyda Martin Charles.

Roedd llais Mary'n eitha llym.

Tuedd dreisgar yw gwendid Griffith Jenkins yn y stori gyntaf, Ar Wely Angau, a'i wraig druan, Mary, sy'n dod yn destun ‘trancedig' yr hanes.

Nid oedd Mary yno.

Holodd Mark Waters Ali'n fanwl a'i fersiwn ef o'r hyn a ddigwyddodd oedd fod Mary ac ef wedi cweryla y bore hwnnw a'i fod wedi ei tharo.

Fe ddaeth amser yr hen bopty mawr i ben a daeth ei merch Mrs Mary Jones i edrych ar ol y capel a symud i fyw i'r ty ger y capel, ac erbyn heddiw mae ei merch hithau yn yr un gwaith.

O'r diwedd, cyfaddefodd Ali fod cweryl wedi bod rhyngddynt a bod Mary wedi dweud rhai pethau na fedrai ef mo'u goddef.

Go brin y bydden nhw'n ffansïou lwc yn erbyn rhywun mor nobl a Helen Mary Jones, dyweder.

Mary Pickford, John Wayne a Gracie Fields yn marw.

Roedd Mary'n falch o'r plas newydd yma.

Yn ôl Mary Marsh, Prif Weithredwr NSPCC, mae canlyniadau'r arolwg yn bryderus.