Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

materol

materol

Ni allaf wadu na ddaeth lles materol o ymwadiad fy hynafiaid a'r Gymraeg.

Penderfyniad cennad y Deyrnas oedd ymwrthod â'r math o Selotiaeth a ymddiriedai yn nulliau grym materol; ond ategir gan yr hanesion am demtiad Iesu yn yr anialwch y dybiaeth iddo gael ei demtio i ennill goruchafiaeth ar y byd trwy ddefnyddio dulliau'r byd ac iddo orchfygu'r demtasiwn.

Gellid gweld bod yna gysylltiad rhwng diffygion yr awyrgylch moesol a'r diffygion yn yr amgylchedd materol, a rhwng y rheini a'r gwasgu a oedd ar addysg i wneud iawn amdanynt, dyna arwain at un o'r themâu pwysicaf yn yr Adroddiadau.

Prif amcan y llys brenhinol a'r llys lleol ydoedd cyfrannu at gynhaliaeth eraill yn ysbrydol yn ogystal â materol.

Defnyddio'r genedl a wnânt i amcanion gwladwriaethol, tra bo cenedlaetholdeb yn ceisio datblygu adnoddau moesol a materol y gymdeithas genedlaethol.

Digon posibl eu bod yn rhesymau mwy materol a bydol efallai, ond eto roeddynt yn rhesymau cryfion.

Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn.

Edrychid ar briodas, nid fel modd i barhau gweddau materol ar y teulu'n unig, ond hefyd fel disgyblaeth y byddid drwyddi yn cryfhau cyfathrach deuluol a pheri bod sadrwydd oddi mewn iddo.

Ychwanegwyd yr iwaleiddio: Y mae aristocratiaeth neu oligarchiaeth, a garfer y gair sy'n well gwrthwyneb i ddemocratiaeth, yn meddwl rheolaeth yr ychydig dros y llawer, yn rhinwedd yr afael gadarnach sydd gan yr ychydig ar bethau materol y byd, ac wrth y pethau materol meddyliaf ei gyfoeth, ei allu cymdeithasol, ei allu politicaidd, ei ddysg, - popeth sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r rhith yr ydym yn byw yn ei ganol.

Bernid mai'r tad a ddiogelai les ei deulu mewn cyfnod pan na cheid gwladwriaeth oleuedig ddemocrataidd y deuai i'w rhan ofalu am fuddiannau materol ei deiliaid fel y gwneir yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Y gwreiddyn materol ffisiolegol a ystyrid bennaf yn eu hathroniaeth ac ohono ef y deilliai hanfod pob gras a rhinwedd.

Pan ddaw'r newid, bydd y bobl yn llawenhau wrth dderbyn y nwyddau materol hynny y bydd America yn fodlon eu hallforio unwaith eto.

Cysylltai'r dirywiad materol a welodd yn sir Fynwy â'r duedd at derfysg cymdeithasol.

Daliai'r Gnosticiaid i gwymp ddigwydd yn achos dyn, o ysbryd pur i feidroldeb materol.

Adolygu a rhannu adnoddau materol.

Roedd pob dim yn fwyd a diod i'r Dirprwywyr: gwaddoliadau, amodau materol, daliadaeth, maint ysgolion, y plant, ynghyd â dadansoddiad o'r athrawon a'u cefndir.

Awdl am yr elfennau materol ym mywyd Cymru a oedd yn bygwth ei thraddodiadau diwylliannol ac ysbrydol.

Trwy gydweithio mewn clwstwr o ysgolion, gellir cronni a rhannu profiad llawer o athrawon ac o adnoddau materol a hybu cyfathrach ehangach ymhlith plant.