Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mawn

mawn

Mae'r mawn a ddefnyddir at bwrpas garddio yn dod o fawnogydd naturiol yng Ngwledydd Prydain.

Fodd bynnag, o safbwynt cadwraethol ac addysgiadol, dylid annog y defnydd o bethau heblaw mawn, a thrafod y rhesymau dros hynny gyda'r plant.

Yr hyn a roddodd fwyaf o syndod imi oedd darllen mewn papur newydd dyddiol poblogaidd yng ngogledd Cymru ar ddechrau'r flwyddyn hon fod mawn yn prinhau ar raddfa frawychus yn yr Ynysoedd Prydeinig a ninnau arddwyr wedi cael ein cyflyru gan wybodusion tros y pum mlynedd ar hugain diwethaf, fwy neu lai, ei fod yn ddefnydd anhebgorol angenrheidiol tuag at arddio llwyddiannus a'r cyflenwad yn ddihysbydd.

Yn lle taflu cynnwys y bagiau, ar ôl cael gwared o'r planhigion a'u gwreiddiau, ei storio ar gyfer ei ddefnyddio fel mawn cyffredin wrth gymysgu compost.

Ac y mae'n fwy gwahanol fyth erbyn heddiw ynghanol yr anghenfilod o beiriannau diweddau yma sy'n medru symud yn eu nerth eu hunain a hyd yn oed heb olwynion o danynt, dim ond stribedi dur yn ymgreinio fel lindys trwy greigiau a mwd a mawn a chors.

Muda gylfinir, cornchwiglen a phibydd y mawn yn heidiau o'u hafotai ar y mynydd i'w hendre ar lan y mor.

Heddiw, nid oes reidrwydd ar neb i wlana ar ffriddoedd bro fy mebyd, ac y mae'r gorchwyl pleserus o dorri mawn yn darfod o'r tir.

Holl bleser hen bobl fyddai casglu at ei gilydd wrth dân mawn o dan yr hen simdde fawr ac am y goreu chwedl a'r mwyaf dychrynllyd ei stori.

Maent yn ddefnyddiol iawn i gynyddu'r gyfran organig mewn pridd (organic matter) cystal a mawn bob tipyn ac efallai'n well gan y gall dþr berwedig ychwanegwyd yny tebot fod wedi rhyddhau elfennau o gynhaliaeth planhigion o'r dail tê sych.

Mewn nifer o lyfrau garddio, awgrymir defnyddio mawn i'w balu i mewn i'r pridd gyda phlanhigion newydd, wrth botio ac ar gyfer amrywiaeth o ddibenion garddwriaethol eraill.

Mae mawn wedi ei ffurfio o ddefnydd organig megis Mwsog Sffagnwm marw, sy'n casglu'n haenau dros gyfnod hir o amser.

Mae'r dewisiadau yn lle mawn yn cynnwys compost heb fawn, rhisgl, llwydni dail, gwrtaith anifeiliaid a gwastraff y cartref (ar ffurf compost).

O sylweddoli'r nodweddion hyn beth efallai fydd raid i ni ddibynnu arno i gymryd lle mawn?

Pe gwireddid y stori mawn yma buasai'n ddoeth inni fod yn fwy gofalus o gynnwys y bagiau gyfu (growbags) ar ôl i dyfiant y cnydau haf ynddynt orffen.

Mae'r mawn yn raddol godi tu ucha i'r llyn ac ymhen amser fe allai lenwi'r llyn yn gyfangwbl.

Y mae cenhedlaeth ohonom yn fyw heddiw sy'n cofio cyfnod cannwyll yn y lloft, lamp olew yn y gegin, mawn yn y grat, ty bach ym mhen yr ardd, ceffyl yn y stabl, a siop bob peth yn y pentref.

Gall astudiaeth o baill o'r mawn ddangos inni yn union sut blanhigion dyfai mewn gwahanol gynefinoedd filoedd o flynyddoedd yn ôl (gw.

Sefyllfa Argyfyngus Cyflenwad Mawn?

Caf esgus i loetran yn hamddenol yn hytrach na bustachu tua'r copa pan ddof ffordd hyn ganol haf i chwilota am blanhigion yng nghysgod y creigiau, wrth ffrydiau neu ar ymylon y pyllau mawn.

pibydd y mawn.

Mae'n rhyfedd meddwl pan wneir awgrymiadau fel hyn o ganolfannau ddylai fod yn ddibynnol, iddynt hwy ac eraill fychanu gwerth deilbridd pan ddaeth y syniad o ddefnyddio mawn i fod, gan ddweud fod deilbridd yn ffynhonnell pob math o afiechydon planhigion a phryfetach tra bod mawn yn glir ohonynt!

Efallai y gall y cwmni%au rheini sy'n cynnig rhisgl coed ar gyfer ei balu i fewn i bridd neu ei osod yn haen o gwmpas planhigion yn tyfu i helpu cadw gwlybaniaeth o gwmpas eu gwreiddiau, ddarganfod dull i addasu'r rhisgl at yr un pwrpas a mawn.

Ni fwriadaf restru yma ddulliau defnyddio mawn, ddaeth mor wybyddus erbyn hyn, ond caf aml ymholiad ynglŷn ag o gan ambell newyddian gyda garddio sydd wedi gwrando ar y canmoliaethau niferus amdano ac yna mlwg yn fodlon coelio bron bopeth ddarllena neu a wrendy.