Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mawnogydd

mawnogydd

Mae'n siŵr bellach fod rhywrai o'r darllenwyr wedi ail gynhyrchu darluniau yn llygad eu meddwl o'r mawnogydd welsant wrth deithio tros ucheldiroedd, ac yn îs i lawr o ran hynny hefyd, digon yng Nghymru heb sôn am rannau eraill o Brydain, ond rhaid sylweddoli nad yw pob math yn addas.

Mae mawnogydd hefyd yn cynnwys carbon sydd, ar ffurf carbon deuocsid, yn rhannol gyfrifol am yr Effaith Tŷ Gwydr.

Mae mathau prin o blanhigion, adar a thrychfilod yn byw mewn mawnogydd; y Cwtiad Aur, Picellwr Wynepgwyn (math o was y neidr) a'r Rhosmari Gwyllt, ac enwi dim ond ychydig ohonynt.

Mewn amrywiol lefelau o fewn y mawnogydd, mae cofnod o amodau tywydd y gorffennol ynghyd â ffurfiau diflanedig o fywyd gwyllt a hefyd weddillion dynol wedi'u cadw.

Yn hytrach nag anelu'n union at y garnedd mae'n werth gwyro rhyw ychydig i'r dde er mwyn osgoi mawnogydd gwlybion Cors yr Hwch a Blaenrhiwnant.