Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

medal

medal

`Norman Croucher, i dderbyn medal am roi cymaint o wasanaeth i fynydda!' Ni fedrai'r gynulleidfa yn Neuadd y Dref Kensington gredu'r fath beth.

Dymunwn hefyd longyfarch Mrs Beryl Heber Owen, Tanrallt, a fydd yn y dyfodol agos yn derbyn medal arian gan y RNLI.

Mae'r Gymraes o Gaerdydd, Tanni Grey-Thompson, wedi ennill ei phedwaredd medal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Sydney, Awstralia.

Yfory, bydd Tanni Grey-Thompson yn cystadlu am ei phedwaredd medal aur yn y rasys cadair olwyn.

Dwi'n siwr y byddwn i wedi cael medal o ryw fath pe byddwn i'n cystadlu yn Sydney ar y pryd.

LLAWENYDD o'r mwyaf oedd clywed y newyddion mai ein Golygydd dawnus a gweithgaf fydd yn derbyn Medal Syr Thomas Parry Williams, er clod yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Nedd eleni.

Mae'r rhwyfwr Steve Redgrave, enillodd ei bumed medal aur yng Ngemau Olympaidd Sydney, wedi cyhoeddi y bore yma ei fod yn ymddeol o gystadlu.

Lynn Davies yn ennill medal aur yn y gemau Olympaidd yn Tokyo.

Gallaf ddweud fy mod yn cofio y gwibiwr, Peter Radford, medal efydd yn Gemau Olympaidd Rhufain yn 1960, yn dod i'r coleg.

Dyn heb goesau'n cael medal am fynydda!

Testun: Ni chafwyd cystadleuaeth Medal Ryddiaith fel y cyfryw.

Ar ôl i'r Dr Brynley Roberts gyflwyno'r Tlws iddo, bu llond llwyfan o blant yn perfformio sgript gan Anwen James (ennillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Taf Ela/ i) sef Iwan Williams a Thrysor y Môr-ladron o dan gyfarwyddyd Euros Lewis.

Enillwyd medal aur gan Gymraes arall, Emma Brown o Bentre'r Eglwys, ger Pontypridd.

Yn wir, fod enw neb llai na Tanni Grey - enillydd pedair medal aur yn y gemau paralympaidd yn Sydney - ymhlith cyn-fyfyrwyr disglair y coleg.

Da y cofiaf Jim yn cwympo yn ei hyd wrth gario cydaid o lo ar ei gefn ac yn addo "medal fel plat cino Dydd Sul" i'm ffrind a finne am helpu i glirio'r llanast.

Daeth pedair medal aur arall i Brydain yn y gemau Paralympaidd.

Mae'r Gymraes Tanni Grey-Thompson wedi ennill ei thrydedd medal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Sydney.

Nofel fuddugol Medal Lenyddiaeth Gwyl yr Urdd 2001.

Mae Mark Lewis-Francis wedi ennill medal aur ym Mhencampwriaethau Athletau Ieuenctid y Byd yn Santiago.