Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddai

meddai

"Doedd gen i ddim rhyw lawer o feddwl ohoni hi, wir.' 'A chwithau'n mynd i bregethu,' meddai.

"Rydw i wrth fy modd yn gwrando ar stori." "Mi wyddost am y rhostir anial sydd yna y tu allan i bentref Plouvineg ac am y meini hirion anferth sydd yno?" meddai'r ych.

`Dychmygwch sut oedd y fam yn teimlo,' meddai, gan ysgwyd ei phen.

"Y gamp fwyaf ydi hedfan yn isel, nid yn uchel," meddai peilot arall tra'n bwyta brecwast un diwrnod.

"la, y fflachiadau," meddai'r arolygydd toc.

"Allwch chi ddim dweud 'fuck ' yn Gymraeg, ond mae ' n dderbyniol yn Saesneg," meddai, gan roi'i fys ar un o'r elfennau mwya' rhyfeddol yn sgandal Cwmglo hefyd.

"Edrych, mae Julie Angharad wedi deffro," meddai Sandra gan bwyntio hefo'i llaw chwith.

Canlyniad effeithiau polisi%au y llywodraeth bresennol ar Gymru yw hyn, meddai hi.

"Caution" meddai'r paent, gair digon disgwyliedig ar dro o'r fath - ond wele'r ychwanegiad "- Revolution in Progress".

"Ac wedyn, rhaid i chi gael pump beic yn lle un beic," meddai'r dyn trwsio sosbenni.

Cyfeddyf hi 'fod ynddi bethau sy'n dal yn dywyll i mi, er pob ymdrech i'w deall yn iawn' ac meddai Gwenallt gynt, 'mae symboliaeth ei soned 'Mabon' dipyn yn dywyll i mi'.

." "Roeddwn i'n meddwl yn siwr mai adarydd oeddech chi, bclh bymlag," meddai Olwen.

"Mi dd'wedsoch chi'r gwir yn fan'na,' meddai'r gweinidog.

"Fe hoffwn i weld trafodaeth yn digwydd ym Methesda ar y pwnc hwn," meddai Elinor Ellis Williams o Stryd Grey.

"O, diolch i chi," meddai Dad.

Ac meddai yn y Gynhadledd fis Mehefin dan gysgod Dinas Brân (a lle well nag yn nghartref Eisteddfod y Byd): 'Bydded i nynni yma, o Gymry, fod yn gosmopolitaneiddrwyddiediciach nag o'r blaen, a bydded i ni dderbyn 'a few ..' a 'few..' .

"Mae e'n digwydd gyda phob math o fudiadau hefyd " meddai.

`Does dim rhyfedd bod y cwn yn llawn cyffro,' meddai'r sarsiant.

Cewch wybod pan ddewch yma," meddai wedyn.

'Carchar i Charlie' meddai Harney.

"O, 'doeddech chi ddim yn gwbod?" meddai.

"Do," meddai Huw, "mae yna bost-offis ymhellach ymlaen ar y ffordd yma, fe awn yno." Lluniwyd teligram i Mam: "Dad ddim - yn dda.

"Rwy'n dechrau deall 'nhad," meddai wrth y cŵn.

"Mae yna farciau ar ddwy goeden hefyd," meddai.

"Glywsoch chi?" meddai bachgen y siwt lwyd.

"Dydi adeiladau gwaith yn aml ddim yn addas o gwbwl ar gyfer yr anabl, yn arbennig os ydach chi mewn cadair olwyn," meddai.

"Wyt ti wedi clywed honno am y ras rhwng y crwban a'r ysgyfarnog?" "Do, siŵr," meddai un arall o'r plant/ "Clywais i honno pan oeddwn i'n ddim o beth." "Debyg iawn, debyg iawn - a beth mae'r stori fach honno wedi ei ddweud wrthyt ti?" "Mae hi'n bwysig dal ati," meddai un o'r merched.

"Mae'r ffaith bod First Knight yn dod i Feirionnydd yn golygu bod pobol leol yn cael gwaith, ac arian yn cael ei wario yn lleol," meddai Geraint Parry sy'n cynorthwyo Hugh Edwin, Swyddog Datblygu'r Cyfryngau yng Ngwynedd.

"Popeth yn iawn,' meddai fy Nhad-yng-nghyfraith, "Mi â' i â chi i orsaf Euston.' A dyma gytuno ar hynny.

"Pam y gwnaethoch chi ddianc ar ôl y noson gyntaf a chithau wedi addo cynnal ail noson?" "Gwyddwn yn iawn y buasen ni'n eu trechu nhw'n hawdd, meddai Bholu, "ac felly ni fuasai neb eisiau dod i weld y cwshti ar yr ail noson." Rhoddodd ei law yn ngheg y sach a chydiodd mewn dyrnaid o bapurau gan eu rhoi i mi.

"Plumber ydi Tomi," meddai'r ysgrifenyddes pan ddaeth ati'i hun.

"Mae hyn yn newyddion da dros ben ac yr wyf yn falch iawn y bydd gorsaf newydd yn cael ei hadeiladu ar y safle yn y dyfodol agos," meddai Mr Hughes.

"Eitha' gwaith â fo," meddai Sandra.

'Champion,' meddai fy nhad.

`Roedd clasuron Comiwnyddiaeth,' meddai un economegydd ifanc, `yn dangos sut i fynd o sustem breifat i sustem gomiwnyddol.

"Tail fydd ynddi hi fory eto bois" meddai'i pherchennog yn ffeind ac yn flêr.

"Dangos ei hun mae hi, 'sti," meddai Joni.

"Weithiau," meddai, "mae recordio cerddoriaeth glasurol yn cymryd naid i'r dyfodol."

'Begw' meddai Rondol 'chawn ni fawr o newid trwy deg gan neb yn yr ardal yma.

'A beth bynnag, mae 'na lawer o bethau dwyt ti ddim yn eu gwybod; deffra wnei di!' 'Da 'te,' meddai Robat John.

"Dos di yn syth i nôl Cymro, ac i ddweud yr hanes am Dad wrth Mr Bassett, Idris," meddai Cadi, "ac fe aiff Deio a minnau i'r tŷ i gynnau tân ac i hwylio swper." "O'r gore," meddai Idris, ac i ffwrdd ag ef.

`Mae problem gyda ni,' meddai.

"Wn i ddim yn iawn," meddai Einion mewn penbleth.

Anfonodd Duw ei Fab Iesu i'r byd yn gyflawn o'r bywyd perffaith i'n dysgu amdano ac i'n gwahodd bawb, gwerinoedd yr holl ddaear ,i mewn i'w Deyrnas ei Hun." Oblegid ei fod yn gweld "Gormes gyfalafol-imperialaidd yn caethiwo plant y Tad yng Nghymru ac yn eu difreinio%, meddai Gerallt Jones, "Y mae'n genedlaetholwr Cymraeg o Gristion".

`Iawn!' meddai Michael.

Cydweithio yw'r nod, meddai'r Arglwydd Robertson.

"Meddwl mae o y bydd dy nain yn ei weld o," meddai ei fam wrth Joni.

'Bydd yn ddistaw, gyfaill, wnei di?' meddai Ffredi'n ddifalais.

"O," meddai'r gweinidog, "finna wedi ofni mai doctor oedd o!" Gweinidog arall, Parch.

Ac yna, meddai'n feiddgar, Yr Ysgol Sul 'yw MAM llênyddiaeth ein gwlad'.

"Sa gin i bres, mi brynwn i sleifar o gwch fel 'na," meddai Ieus a'i lygad yn pefrio o hyd.

"Rwy'n gobeithio codi a dyfnhau eu hymwybyddiaeth o genedligrwydd," meddai.

"'Dyw e ddim yn edrych yn lle mawr, Beti," meddai wrth ei wraig, "ond maen nhw'n dweud fod mwy na'i hanner e o dan ddaear - er mwyn diogelwch pe bai rhyfel yn dod, wrth gwrs." "Pe bai rhyfel yn dod, Idris?

"Doedd dim amdani%, meddai ar ddiwedd un ohonyn nhw "ond cychwyn tuag adref".

"Deud yr oeddwn i wrth Snowt," meddai Rees wrthyf, "mai er mwyn y darlun y trefnais i'r arddangosfa.

"Mae'n boeth iawn yma, yn 26 ar ei uchaf ac 18 ar ei isaf gyda gwaharddiadau tân ym mhobman," meddai.

"Ddim hyd yma, neu fuaswn i byth wedi mentro ailadrodd yr holl stori wrthych chi heno." "'Rydym yn ffodus ein bod ni wedi gofalu am gaban," meddai fy ngwraig wrth i'r llong symud oddi wrth y cei yn Dover am un o'r gloch y bore.

A Rachel druan yng nghaledi ei gweddw-dod ifanc yn dafodrydd ei hatgofion ac yn ail-flasu'r bywyd oedd arni yng nghegin Y Plas lle ceid cig eidon a reis berw a chaws a bara cartref, - er taw bara du oedd hwnnw, meddai mam.

"Mi fedrwn daflu cerrig os bydd rhaid!" meddai'r llanc.

"Galw gyda fi% meddai, "i adrodd i hap a'i anhap." Ac yna - "Mae'n bwysig i mi newid yn gynnar yn y bore rhag cael fy nala yn fy nisabil." Gair hollol gyffredin yn nhafodiaith gogledd Sir Benfro oedd disabil pan oeddwn yn ifanc.

"Mae'n dda mai rwan Y daethoch chi, Mr Davies, ac nid y bore yma," meddai Catrin Williams wrth ei arwain i mewn i'r ystafell fyw.

adio/ s, " meddai hi.

"Come here John Jones," meddai'n awdurdodol, a gwelais f'amddiffynnydd yn mynd ato, ac i mewn i'r ysgol, a'r plant eraill i gyd yn swilio.

Aros funud,' meddai Bleddyn.

"Roeddwn i'n meddwl bod pawb wedi clywed y chwedl honno." "Tyrd â hi," meddai'r asyn.

'Aros,' meddai, a rhyw awdurdod yn ei lais.

"Os ydi o eisiau bwyd, mae hi wedi darfod amdana i," meddai'n grynedig wrtho'i hun.

"O, rydw i wedi blino," meddai hi ac eistedd i lawr ar y soffa.

"Diolch byth," meddai lona.

'Anobeithiol: meddai 'nhad.

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn ddigon anodd i minnau hefyd," meddai'r ych.

Ac i'r gwragedd (oedd hefyd yn y Cymun) ddod ataf i gydymdeimlo'n dyner "hefo'r hogyn bach." "Mi ddangosodd yr hen lanc i ddannedd cil heddiw'n o glir on'do?" meddai un wraig wrth y llall.

"Wyt ti'n fy nghlywed i'n iawn rŵan?" meddai Llefelys.

'Arhosa i gyda chi heno, Mam-gu,' meddai Seimon, a rhoi ei fraich o i hamgylch i'w chysuro.

"Y rheol aur yw, 'Peidiwch byth â rhoi eich plentyn i rhywun nad ydych chi'n ei adnabod," meddai John Jenkins o Awdurdod lechyd De Morgannwg.

"Prin fod angen cloi yn y fan yma," meddai.

"Yr oedd Cura yn wefreiddiol ac fe ddaeth â rhywbeth cwbl arbennig i'r perfformiad," meddai Mary.

"Yn Llangolwyn yma!" meddai, yn wen o glust i glust, ac yn fyr ei hanadl.

"Mae o, siŵr," meddai Sandra.

"Fydd fy mab ddim yno pan ddychwelwch chi,' meddai.

'Bydd yna chwe mis reit galad o 'mlaen i rwan,' meddai.

"Dacw fo ylwch!" meddai rhyw gwbyn o hogyn.

"Y bobl ifainc sy'n gwneud y penderfyniadau i gyd," meddai cynhyrchydd y gyfres, Bethan Eames.

"Twt, rydw i'n iawn." "Mi wn i beth wnaf i," meddai Nia.

"Dydi cychwyn yn gyflym yn dda i ddim os ydi hynny'n golygu dy fod ti'n chwythu dy blwc." "Go dda, 'merch i," meddai'r hen ŵr.

Bu dadlau am sbel go dda, a'r goruchwyliwr yn gwrthod rhoi yr un geiniog ym mhen y pris, a'r diwedd fu i Wil wylltio, ac meddai: "I'm not cyming here to hambygi my horsus for you.

"Ma' hi'n edrych i fi fel pe bai rhai pobol ffordd hyn yn cymryd gormod yn ganiataol,' meddai Bethan.

"Reit 'ta lads, draw i'r Sailing, a mi geith y cono pia hwn weld great balls of fire," meddai Sam a chwerthin yn uchel ar ei ddoniolwch ei hun.

"Mae o wedi gofyn cwestiwn syml ichi, atebwch o wnewch chi?" "Rwy'n gobeithio nad ydych chi'n cael eich dylanwadu gan benboethiaid anaeddfed fel y ferch yma Alun," meddai'r twrnai.

"Fe gês i bob anogaeth a chefnogaeth gerddorol gyda mam pan oeddwn i'n blentyn," meddai Cale, sy'n awr yn 55 oed.

"Dy nain," meddai ei thad, gan ddal i chwifio'i hosan fel coblyn.

Bu hefyd yn casglu rhai o ddagrau ei wraig 'ond dim ond pan oedd hi'n fodlon,' meddai, gan ychwanegu 'Awn i ddim yn agos ati fel arall, rhag ofn mai fi oedd yn gyfrifol am y dagrau.'

"Da iawn ti, Rex," meddai wrth y ci ifanc.

Ac meddai a'i wyneb mor glo\s at fy nhrwyn nes fy mod yn teimlo dafnau ei boer ar fy mochau.

"Rwyf wedi meistroli ambell frawddeg sy'n fantais wrth fy ngwaith" meddai'n gellweirus wedyn.

"Mae ein dyled yn fawr iddyn nhw," meddai'r Cyng Huws.

Amddiffynodd Hughes ei arddull cyn i'r cyhuddiad gael ei wneud ar bapur, beth bynnag: "...nerth ac anwadalwch, a dyfnder yr argyhoeddiad ar fy meddwl fy mod yn amddiffyn y gwirionedd, yn unig a bair i mi lefaru gydag eofndra a hyder, a lle y tybiaf bod genyf y gwir, yn y peth y mae y rhai a hoffaf wedi methu ei ganfod, cydnabyddaf y rhodd, a gostyngedig ddiolchgarwch a gau allan ymffrost", meddai.

A phrun bynnag, meddai, petai o'n dechrau poeni am bob t gwag roedd o'n ymweld â nhw byddai ar ei ben yn y seilam.

"Edrych arni'n cicio'i choesa'." "Gobeithio na wnaiff y pier 'ma ddim dechra cicio'i goes', 'te," meddai Joni.

"Os ydych chi'n gallu cerdded i Faes yr Eisteddfod, rydych chi'n mynd yn aml", meddai Cyril Golding.