Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddiannu

meddiannu

Ac y mae gan waith yr Arglwydd ei drwm a'i ysgafn, ac os oes llwyfannau y mae cyfle i bobl orffwyso wrth y gwaith arnynt, wele maent hwy wedi eu meddiannu eisoes gan rai o gyffelyb fryd.

Rwsia yn meddiannu hanner Yr Almaen, y lleng haearn yn disgyn.

b) Meddiannu doethineb wrth reoli gweithredoedd.

Tyrrodd i'r orsaf gyda rhai ohonynt yn meddiannu'r blychau arwyddo.

Daeth diwedd y rhyfel heb i Hadad wybod dim am y peth oherwydd fe barhaodd gwrthryfel y Senwsi nes daeth rhyfel byd arall i wthio'r Eidalwyr o'r arfordir ac o'r oasisau yr oeddynt wedi eu meddiannu.

'A dyna'r gofid,' meddai ei brawd, Tom, '- blaenau'r cymoedd, lle'r oedd y Gymraeg ar ei chryfa', gafodd eu heffeithio gan y meddiannu..

Ar y dechrau ymgolli yn y digonedd a'r moethau a wnaeth y pedwar, gan feddwl meddiannu'r cyfan eu hunain.

Pwy yw'r dieithriaid sy'n meddiannu ein cartrefi tra ein bod ni'n rhy brysur yn sicrhau llwyddiant i'n hunain dros y ffin?

Cofia, saith o'r gloch nos Lun." Wrth sefyll am foment ar ben y lôn wedi dywedyd 'Nos dawch,' clywn fy nghyfaill Williams yn mwmian canu - "'Does unman yn debyg i gartref." Pan gyrhaeddais gyffiniau Siop y Sgwâr ar noson y cinio yr oedd yn amlwg fod ysbryd y Nadolig wedi meddiannu'r lle.

Dydy hi ddim yn glir eto beth fydd tynged yr ardal ar ôl cael ei meddiannu am gymaint o amser - nag yn wir beth fydd effaith hyn i gyd ar y broses heddwch yn y Dwyrain Canol yn gyffredinol.

Gyrrodd i fyny at Cefnbryn Isaf, ac egluro i David Lewis a'i wraig Anne fod Adran Ryfel y Llywodraeth yn bwriadu meddiannu'r ardal ar gyfer ymarfer tanio.

Cyn toriad gwawr yr oedd dros 350 o swyddogion o Heddlu 'Cenedlaethol' Sbaen wedi meddiannu prif swyddfa a chanolfan gynhyrchu Egin yn Hernani (Gipuzkoa) a'i swyddfeydd rhanbarthol yn Irunea, Bilbo a Gasteiz.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Wedi i'r Arlywydd Nasser wladoli camlas Suez, Prydain a Ffrainc yn bomio ac yn meddiannu'r ardal.

Mae hanes i'r awdur yn rhywbeth hanfodol ddramatig am fod pob trobwynt mor llawn o bosibiliadau, a'i bod yn rhaid brwydro a'r deg ewin i gael goruchafiaeth a meddiannu llwybr y traddodiad.

Wedyn, ymhen amser, daeth y Gwyddelod i ddymuno meddiannu'r wlad ac fe gartrefodd llawer ohonynt yn y gorllewin.

Unwaith y sefydlwyd Lloegr fel cenedl-wladwriaeth, yr oedd hi'n anochel y byddai'i brenhinoedd yn meddiannu Cymru, yn rhannol, wrth gwrs, am fod brenhinoedd yn y dyddiau hynny yn hoffi meddiannu llefydd, ond hefyd am y byddai Cymru yn fygythiad parhaus i Loegr, boed yn fygythiad uniongyrchol o du'r Cymry eu hunain neu o du gelynion tramor.

Ganol bore oedd hi o hyd, ond roedd y tyrfaoedd eisoes wedi meddiannu'r sgwâr a'r feidir lle cynhelid yr arwerthiant Chwysai'n ddidrugaredd.

Wedi i'r Arlywydd Nasser wladoli camlas Suez, Prydain a Ffrainc yn bomio ac yn meddiannu'r ardal.

Mae Culhwch, yn ei lasoed, wrth geisio ymaflyd yn yr Hunan, yn symud oddi wrth ei fam(au), dan ddylanwad y tad - yr ochr fwyaf echblyg i fywyd - ac wedi iddo ymryddhau oddi wrth yr elfen famol, rhag bod yn Oidipos, yn meddiannu a phriodi'r elfen fenywaidd dderbyniol, briodol i'r Hunan, sef ei amima: Olwen.

Wedi'r achos llys, aeth Branwen a Sioned, a'r cefnogwyr oedd yn y llys, draw unwaith eto i swyddfa Rod Richards ym Mae Colwyn, a meddiannu'r adeilad am rai oriau, gan lansio posteri newydd Grwp Addysg Cymdeithas yr Iaith — ROD RICHARDS: UNBEN ADDYSG CYMRU.

Deuai llais Therosina drwy'r cyrn a theimlai Meic fel pe bai'r llais ybn meddiannu pob rhan o'i gorff.

Yr oedd rhyw erfyn a distawrwydd llethol wedi meddiannu'r hen gwm i gyd.

Mae milwyr Naferyn wedi meddiannu'r ystafelloedd - mae cryn ugain ohonynt yno, ac mae sawl un wedi sylwi ar y drws yn agor.

Mae'n amlwg oddi wrth ei holl gynnyrch, er gwaethaf ei barch at reswm, at drefn, at ffurf mewn bywyd a chelfyddyd, nad pleidiwr llythyren farw'r ddeddf ydyw o gwbl, oherwydd mae'n barhaus yn herio'i gymeriadau i gamu y tu hwnt i gylch cyfyng eu harferion traddodiadol a gweithredu'n greadigol er mwyn meddiannu gwirionedd uwch.

A sut mae diogelu cleifion rhag drwg fwriadau perthasau sydd eisiau gweld eu diwedd, er mwyn meddiannu eu harian a'u heiddo?

Roedd y tyddyn wedi meddiannu ei bersonoliaeth ac o ganlyniad nid oedd yn gallu meddwl amdano'i hun fel etifedd ei gyndadau: