Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddu

meddu

Yr ydym yn meddu ar wareiddiad, ebe George Steiner (a'i drosi'n llythrennol), am ein bod wedi dysgu cyfieithu allan o amser, neu (a dyma'i ystyr) am ein bod wedi dysgu dehongli'r gorœennol a gedwir mewn geiriau.

Nid yw hyn, fodd bynnag, yn amharu ar y gân, gan ei bod yn meddu ar felodi gref iawn sydd mor nodweddiadol o ganeuon Maharishi.

Byddai agwedd dychmygus a chreadigol o'r fath yn gwahaniaethu'n fawr oddi wrth y sefyllfa bresennol sydd wedi ei sylfaenu ar feddylfryd negyddol dan ddylanwad y Comisiwn Archwilio, nad yw'n meddu ar arbenigedd addysgol na chydwybod gymdeithasol.

Yr oedd Rhiain yr Hesg unwaith yn meddu ar lais, a'r medr i ganu.

Hynny yw, mae'n rhesymol tybio y byddai llenor yn meddu ar dreiddgarwch Danied Owen yn datguddio mwy ohono ei hun yn ei waith.

Yn sicr mi fyddwn ni yn chwarae caneuon Bysedd Melys yn aml iawn ar Gang Bangor gan eu bod yn meddu ar swn aeddfed iawn a chaneuon syn gofiadwy.

Nid oes yna reswm dros ddewis yr enw, dim ond fod yna un o'r aelodau, Dylan Evans, yn meddu ar y cyfenw.

Hynny yw, meddai, roedd yn meddu ar 'y ddawn ryfeddol honno.....

Y ddau eithaf y gellir eu disgwyl yw'r athrawon hynny a feistrolodd y Gymraeg yn ddiweddar a hynny fel dysgwyr a'r rhai hynny sydd yn meddu ar radd yn y Gymraeg ac yn Gydgysylltwyr Iaith o fewn eu hysgolion.

Cenedl fach iawn wledig oedd Cymru, yn meddu ar ychydig o gannoedd o filoedd o boblogaeth yn unig, heb brifddinas debyg i Gaeredin neu Rennes a feddai ar seneddau y pryd hynny, neu Ddulyn a gâi senedd am gyfnod yn y ganrif nesaf.

Ac er fy mod i'n meddu ar luniau gwell ohono na'r papurau newydd a gyhoeddai luniau honedig ohono fyth a hefyd, nid oedden nhw wedi fy mharatoi.

Roedd un o'r strabs yn ein plith yn meddu ar feddwl chwim a synnwyr digrifwch braidd yn anarferol.

Mae hi yn 27 mlwydd oed ac yn meddu ar radd mewn gwleidyddiaeth.

O'r herwydd y mae'n bwysig sicrhau beirniaid sydd, nid yn unig yn hyddysg yn y gwaith, ond sydd hefyd yn meddu â chydymdeimlad â phobl ifanc.

Paol Tirili, i roi ar waith y doniau fel artist, fel cerflunydd, y gþyr ei fod yn meddu arnynt.

Un o ser mwyaf disglair byd y teledu ar hyn o bryd yw'r gŵr dwys, pryd tywyll sy'n honni ei fod yn meddu ar allu goruwchnaturiol i ddefnyddio'r cyfrwng er gwella afiechydon ac anhwylderau o bob math.

Olyniad o arwyddion ieithyddol oedd brawddeg i Saussure, yn meddu ar ddau fath o berthynas: (i) perthynas syntagmatig, sef trefn arbennig elfennau'r frawddeg, a (ii) perthynas baradigmatig, sef perthynas rhwng yr elfen - yr arwydd - sy'n bresennol a'r rhai nad ydynt yn bresennol, megis y berthynas rhwng ffurfiau berfol fel mae, oedd, bydd, etc, a allai weithredu yn yr un lle mewn brawddeg.

A fydd Lloegr yn meddu ar y doniau crediagol i lwyddor adeg hynny?

Wrth gwrs mae rhai chwaraewyr yn meddu ar y doniau hyn eisoes.

Roedd o tua phump ar hugain, mor dal â chre%yr glas, yn ddwys ac yn meddu ar groen swyddfa.

Chwi sy'n meddu aur ac arian Dedwydd ydych ar ddydd Calan; Braint y rhai sy'n perchen moddion Yw cyfrannu i'r tylodion; 'Rhwn sy' â chyfoeth, ac a'i ceidw, Nid oes llwyddiant i'r dyn hwnnw.

Yn wir ychydig o seiri coed a oedd yn meddu ar y gallu a'r amynedd, a hefyd yr arian i fedru gweithio am hir amser heb gael eu talu am eu gwaith.

a '...' Keats, ond cynhwysa hefyd y dyfyniad hwn gan Samuel Roberts: 'Yr wyf yn credu nad yw canonau na chredoau na thraddodiadau dynol yn meddu dim awdurdod ar ymarferiad Cristnogion.' Er nad yw'r geiriau ynddynt eu hunain yn ychwanegu dim at ddadl Peate mai ym mhrofiad yr unigolyn y mae chwilio am Dduw, ac er y gellid eu hystyried yn fawr mwy nag allweddeiriau hwylus i gael gwrandawiad yn uchel lys Annibynia, camgymeriad fyddai eu hanwybyddu.

Mae'r Bwrdd yn cyrchu at weld y dydd pan fo'r rheiny yng Nghymru sydd â'r Gymraeg yn ddewis iaith iddynt yn meddu ar yr un hawliau â'r rheiny sydd â'r Saesneg yn ddewis iaith iddynt.

Ac y mae meddu ar lyfrau Morgan Llwyd yn well na pheidio â meddu arnynt.

Dyw'r Gymraeg, y Fasgeg y Gatalaneg ayb, ddim yn meddu ar y statws hwn.

Nid oes ryfedd felly bod 'cenedl' a 'brenhiniaeth' (neu 'teyrnas', fel y cyfieithir yr un gair weithiau) yn ymddangos yn gyfochrog yn y Beibl, ac i bob pwrpas yn cael eu defnyddio fel cyfystyron - "chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd" Ymddengys i Israel, o sylwi ar y cenhedloedd oddi amgylch, ganfod eu bod o ran eu trefn gymdeithasol yn deyrnasoedd neu'n freniniaethau, a daeth felly i ystyried meddu brenin fel un o nodau cenedligrwydd.

Y mae grŵp ymwthiol yn ym wneud ag amcanion penodol, ac yn ceisio eu sicrhau trwy dylanwadu ar y bobl sy'n meddu grym.

Yr oedd y traddodiad Cymraeg, felly, yn un a oedd yn meddu ar holl nodweddion traddodiadaol clasurol, ond hefyd yr oedd yn fyw ac yn dal i ymestyn a datblygu..