Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddw

meddw

Doedd ei dad byth wedi dod adref a gwaith go ddiflas fyddai ceisio cysuro ei fam wrth iddi bryderu ynglŷn a chyflwr ei gŵr meddw.

"Tyrd efo ni, Jabi boi, i sodro'r uffar bach." Roedd gan Jabas gywilydd mawr o'i dad meddw.

mae'r llyfr yn cynnwys popeth fyddech chi'n ddisgwyl mewn cyfrol o'r fath - yr holl straeon chwedlonol am antics meddw, ar blerwch alcoholaidd oedd yn fygythiad i yrfar grwp yn y dyddiau cynnar.

Cerddai fel dyn meddw a theimlai fel pe byddai ar syrthio i bwll o dywyllwch diwaelod.

Y rhain oedd yn codi tafarnau a diotai, yn cyflogi asiantiaid rheglyd a meddw, ac yn gorfodi gweithwyr i dorri'r Saboth.

Neithiwr ac echnos, mi godis i i'r ffenast, a gweld rhai meddw'n baglu ar hyd y stryd, ac yn canu fel petha' gwirion.

Aeth i lawr y grisiau meddw i'r salŵn - i weld drosto'i hun am y tro cyntaf alanastra salwch mor ar ferch ieuanc.

Brysiodd Denis y Stiward o'i bulpud i geisio troi y locals meddw rhag tarfu ar brynhawnol hedd y sipwyr gin.