Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddwn

meddwn

"Be' 'di'ch enw chi?" "Reilly," meddwn.

Brigau'r coed!" meddwn i, mewn syndod mawr.

'Trachwant,' meddwn i wrthyf fy hun yn hunan-gyfiawn, gan wybod fod yn gas gen i siopau, ac eithrio siopau llyfrau.

"Wel, wel," meddwn i wrthyf fy hun, yn cymryd y gadair gyferbyn, "mae rhyw brofedigaeth lem wedi ei gyfarfod." Ofnais y gwaethaf.

'Dydw i ddim ishio'i gweld hi,' meddwn.

"Hen bennill," meddwn.

Sut ydych chi'n hoffi'ch brandi, syr?" "Fel mae o'n dod," meddwn i.

Doedd dim ond dweud celwydd amdani: '...,' meddwn, '...' Fodd bynnag, dyma'r trên yn chwislo, a llawer yn gorfod gadael y ciw cantîn yn waglaw, y porteri yn galw ar i bawb frysio a dyma ni unwaith eto ar yr 'olwynion chwim'.

Mae'n syn gen i na fydden nhw wedi llyncu'r llestri hefyd!' 'Hy!' meddwn i'n reit bigog.

"A John ydi'ch enw chi, yntê" meddwn innau.

Y peth trist ynglŷn ag anifeilaid meddwn i wrthyf fy hun, yw eu bod yn peri i ddyn fynd yn dduw bach sy'n pennu eu ffawd ac yn gwybod y gwaethaf cyn i hynny ddigwydd iddynt.

'And I am the Aga Khan' meddwn innau.

'Diawch, tyrd allan o'r car 'ma,' meddwn i a heb i mi sylweddoli, roedd y car wedi gadael y ddaear ac yn gyrru'n hamddenol drwy'r awyr.

Trodd ei golwg i'm cyfeiriad a daeth ataf a gofyn yn Saesneg: 'Where are you bound for?' 'Scotland,' meddwn innau.

"Wn i ddim fasa chi'n licio peth," meddai, "fasa fo'n wahaniaeth yn y byd gen i ddwad â dau." "Ardderchog, Mrs Roberts," meddwn innau'n ddigon awchus.

Gyda llaw, be sy gen ti yn y sospan yna?" "Bara llaeth ar gyfer swper," meddwn i, yn symud y sospan o gwr y tân ar y pentan.

"Ydw i'n iawn?" "Ydach," meddwn i wedi petruso tipyn.

"Wel", meddwn i, i gael amser i feddwl am esgus mwy pendant.

'Olreit,' meddwn gan ochneidio.

'Na wnaf,' meddwn.

Yn ystyr arall y gair yn wahanol neu yn unigryw un o'n peciwliaritis ni meddwn yw ein bod yn hoff iawn o roi llys enwau ar bobol a rhoddais yr engreifftiau Dai the Post, Bessie the Milk ac yn y blaen yna dywedais 'This is one peculiar and proud Welshman who cannot wait until the day he can call this lady Maggie Number Ten' wel, fe aeth y lle yn danbaud!

'Dr Kate,' meddwn i, yn ddistaw iawn, gan feddwl y buasai'n rheitiach i mi fynd oddi yno.

"Wrth gwrs,' meddwn, 'os arhoswch chi i'r meddyg gael golwg arna i, ac yna i mi newid i ddillad sych.'

"Tyrd, Sam," meddwn i, "mi hoffwn fod yn ol yn y swyddfa cyn i Matthew Owen gyrraedd yno." "Ai ai, syr.

Beth, meddwn, Dafydd Dafis yn fy annog i beidio mynd i'r coleg!

Mae'n ddrwg gen i dy siomi di," meddwn wrth Meinir.

Dyma fi wedi difetha'ch het chi, syr.' 'Hidiwch befo,' meddwn innau.

"Ond fedra i ddim cwffio," meddwn innau.

"'Dach chi'n gwneud hwyl am fy mhen i." "Mm..." "Be'?" "Cerwch o'na," meddwn.

"Rydw' i'n ddigon prysur rŵan," meddwn i, ar frys, ac yn anghwrtais ddigon er nad oedd yna ddim adwaith oddi wrth y talp o geuled o'm blaen i, "Dodrefnu'r fflat a phrynu celfi newydd, ac atgyweirio a diweddaru a newid tipyn ar y lle hefyd." "Yn wir," meddwn i, a dim ond prin gymryd anadl rhwng dwy frawddeg, "Mae'r pentiwr acw heddiw yn gorfffen addurno'r stafell fyw i mi." Ond nid oedd dianc i fod.

Symud," meddwn, nid wyf yn symud modfedd.

'Wel, dowch, meddwn i.

Cicio wrtyh i chwi ei godro a chornio wrth i chwi ei gollwng - "Wel diolch i'r nef mai dyma'r tro olaf i mi dy ollwng di% meddwn i ryw fore.

"Wel ie," meddwn innau, "ble gall ef fod ?" ac ymunais ag ef i chwilio'r lle yn ofalus.

"Yes, Sir," meddwn innau, "it is my first language." "Say a few words in Welsh for me now," meddai wedyn ac fe enwais innau rannau o'r corff.

Na, ddim mewn gwirionedd, meddwn innau.

'Does dim galw inni gwffio,' meddwn yn isel gan geisio rheoli'r cryndod yn fy llais.

"'Steddwch," meddwn i wrtho, gan wneud fy ngorau glas i fod yn weddol gwrtais tuag ato.

meddwn, yn gwenu fel cath, dim ond am dy fod ti ar y ffordd yn ôl a minnau heb gyrraedd."

'"Na% ydy'r ateb,' meddwn.

'This is a new office development then?' meddwn i.

"Mae arnaf i eisiau'r camp bed 'na sy gyda chi, yr un gawsoch chi gan y Cyrnol." "Reit, syr," meddwn innau, yn hollol ddiniwed.

'Gofyn beth?' meddwn, braidd yn frathog.

"Wasi," sibrydodd yn fy nghlust, "mae hi'n cychwyn yn addawol yma." "Ydi, 'ddyliwn," meddwn i, gan snwffian.

"Does dim sôn amdano fe," meddwn i o'r diwedd.

Ydych chi'n hoffi tegeiriannau?" "Dim yn arbennig," meddwn i.

'Blacmel ydy peth fel'na,' meddwn.

'O na!' meddwn.

Os hynny, meddwn innau, pam 'dach chi'n dŵad yma?

'Llongyfarchiadau,' meddwn.

'Mi ofynna i iddi,' meddwn yn swta.

"Mae o'n tynnu pobol, beth bynnag," meddwn "Gobeithio y dôn nhw i weld y perfformiad." "O, mi fydd 'na rai yn bodloni ar ei weld o'n mynd a dwad, 'run fath a'r tywysog yng Ngholeg Aberystwyth." Mae 'ma gar yn troi i mewn i lôn yr ysgol; ia, fo ydi o, mae'r gofalwr yn agor y giât." Yr oedd y cynnwrf yn dechrau cydio ynof finnau.

Wel, meddwn wrthynt, mae'r Hindw yn India yn marw o newyn pan fo'r ŷd wedi gorffen er fod yr holl wartheg o'i gwmpas.

'Inverness,' meddwn.