Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddygon

meddygon

Amcangyfrifwyd bod hanner miliwn o fenywod y flwyddyn yn dioddef, ond deil y rhan fwyaf ohonynt yn debycach o geisio cymorth o ffynonellau eraill megis Cymorth i Ferched, cyfreithwyr, meddygon teulu ac ati.

Yn ôl Meddygon Myddfai un ffordd i wella'r ddannodd oedd rhoi hoelen o dan y dant poenus cyn ei tharo i dderwen.

Erys, wrth gwrs, yr hawl i rywun i gyflwyno'i gorff, ar ei farwolaeth, i ddwylo meddygon.

Yn ôl un o'r meddygon, newidiodd patrwm y clefydau ar ôl y chwyldro.

Ychydig o bobl a bryderai y bu rhaid rhoi pob math o sicrwydd i'r byd meddygol ynghylch hawliau'r meddygon.

Mae'r rhai hynaf ohonom yn cofio adeg pryd y byddai galwadau aml iawn ganol nos ar y meddygon ond tybed a oes angen deddfwriaeth ynglŷn â hynny o alwadau ganol nos sy'n digwydd erbyn hyn?

Ond o fy mhrofiad anffodus i o feddygon ac ysbytai does a wnelo lliw eu croen fawr ddim ag anallu rhai meddygon i gyfathrebu a defnyddio gair yr adroddiadau diweddar.

Ganddynt hwy y ceir moddion a phils y mae meddygon yn eu hargymell i'w cleifion.

"Y mae'n wael iawn," ebe un o'r meddygon.

Edrychodd y meddygon yno yn ddigalon ar ei gilydd.

Golygai'r gwaith datrannu hwn ein bod yn digroeni braich yn llythrennol ond fe wneid hynny, wrth gwrs, â'r cyrff a roddasid at wasanaeth meddygon drwy ewyllysiau unigolion.

Gweithiodd y meddygon a'r nyrsus yn hir a thawel am oriau yn y theatr.

Yn wir, y mae rhestr meddygon y cylch wedi bod yn un dra urddasol, yn eu plith Dr Rowlands a'i fwstas deubig, Dr Black, Dr Kyle a Dr Prydderch.

Trwy gydweithio gyda meddygon, ffermwyr a diwydianwyr, mae cemegwyr yn ein helpu i fyw bywydau mwy iach a chyfforddus.

Lewis Jones, creadur prin yn hanes meddygon Cricieth.

Credai'r Meddygon fod gan y dderwen rinweddau arbennig.

Byddai'n golygu y byddai rhai meddygon yn gorfod cefnu ar eu haddewid i ddiogelu bywyd, costied a gostio - egwyddor sydd eisoes wedi ei chleisio gan nifer enfawr yr erthyliadau sy'n digwydd.

Ffoniodd cymydog atom ni'r meddygon yn y dref Gwyddai hwnnw fod Bob yn gorfod gwrando ar ei frawd yn griddfan ddydd a nos, a bod ei gorff yn berwi o chwys drwy'r amser.

Roedd y Meddygon yn argymell sudd yr ysgawen i wella brath neidr.

Adeg gêm rhyngwladol arall cefais gynnig chwarae rygbi yn Llundain gyda thîm y meddygon graddedig, yn Glasgow gyda'r deintyddion neu yng Nghaeredin gyda'r milfeddygon.

Mewn cyfnod cynnar, y dull arferol fyddai i farnwr mewn llys barn ddedfrydu llofrudd i gael ei grogi a bod ei gorff, wedyn, i'w draddodi i ddwylo meddygon fel y'u galluogid hwytthau i'w astudio.

Fe ofynnais i un o'r meddygon beth fyddai'n digwydd i'r pobl a'r plant hyn yn y gaeaf, ac fe ddywedodd, 'Mi fydden nhw'n marw'.

Dywedodd Dr Roberts fod nifer yn peidio â mynd at eu meddygon oherwydd pryder am y driniaeth.

Ar ôl clywed fod meddygon yn swydd Efrog yn presgreibio llyfrau i gleifion syn dioddef o iselder a stres y cwestiwn y maen rhaid i rywun ei ofyn yw pa lyfr Cymraeg fyddai rhywun yn ei gymryd yn ller tabledi bach syn cael eu cynnig fel rheol.

Rai misoedd yn ddiweddarach derbyniais lythyr oddi wrth famgu'r ferch yn dweud bod y meddygon wedi ei harchwilio'n ofalus a'u bod yn cytuno bod y salwch o'r diwedd wedi ymadael yn llwyr â'r corff.

Yn y gwersyll a godwyd gan y fyddin, roedd meddygon milwrol yn croesawu'r ffoaduriaid - yn rhoi prawf iddynt a'u cofrestru.

Beth bynnag, roedd y darlun yn un digon cyffrous ac eithafol i mi siarad ar y pwnc wrth nyrsys y ward a'r meddygon ifainc oedd gerllaw.

Ac mae bron i 5,500 yn fwy o gleifion allanol yn aros i weld eu meddygon.

Y mae a wnelo fwy ag agwedd drahaus, weithiau, a difeddwl, yn aml, meddygon tuag at gleifion.

Mae Malcolm, a'i rieni yn gwerthfawrogi yn fawr iawn y gofal cyson gan y meddygon, y gweinyddesau ynghyd a'r timau o arbenigwyr sydd wedi ei arwain o gysgodfeydd y glyn at ffiniau y copaon, ac i gael cip olwg ar amser gwell iddo.

Fe wnaethom ni'r meddygon ein gorau iddo, a defnyddio'r cyffuriau diweddaraf i gyd, ond i ddim pwrpas.

Wedi mynd â fo i ysbyty, synnodd y meddygon nad oedd coesau fel pawb arall ganddo.

Go brin mai'r meddygon sy'n cwyno -- mae ganddynt hwy eu dull o ganfod gwir angen.

Eto, go brin y byddai neb am ei anfon ef ar gwrs cyfathrebu y dywedir fod meddygon o'r India a gwledydd eraill gymaint eu hangen.

Clywsom am stgreic deintyddion, docwyr, meddygon, dynion tan, gwyr ambiwlans, trydanwyr, dynion lludw, glowyr, plismyn, athrawon, pobl y wasg, gweinyddwyr amlosgfa, prin fod un swydd a phroffesion na bu defnyddio ganddi ar erfyn streic.