Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddyliais

meddyliais

Meddyliais y gallai hwn fod yn daid i'r Cadfridog Sternwood.

Meddyliais am fy nhŷ gwag; fawr o ddim yno ar wahân i ddau wy, tamaid o gaws a choffi du i swper, a'r awydd i fwyta mwy ond heb yr hawl i wneud hynny.

Ar ôl ymbalfalu am y switsh lectrig mewn ystafell anghyfarwydd, gwelais ei bod yn hanner awr wedi dau yn y bore a meddyliais fod rhywun yn siwr o fod yn chwarae tric go wael arnaf.

Ond wedi darllen pennod Mr Steffan Griffith ar achau Waldo, meddyliais nad anniddorol fuasai cyfeiriad neu ddau at rai o aelodau'r teulu nodedig hwn fel tamaid i aros pryd.

Aeth Jim i fyny am Bwll y Bont a chan fod yr ystlumod yn eu hanterth meddyliais ei bod yn amser i minnau ddechrau.

Lle od i gadw newid mân, meddyliais.

Yr un funud daeth gair Abel i'm meddwl, ``Paid â dychymygu am siopa a phregethu,'' a meddyliais y byddai raid i mi roi heibio'r pregethu hefyd.

Meddyliais am ei gysuro wrth sôn am yr hyn ddigwyddodd i mi a'm gwraig yr haf hwnnw ddwy flynedd yn ôl.

Meddyliais am y Mab Afradlon yn hanner marw o newyn; roeddwn yn gweld yr un dynged yn digwydd i mi, ond fe ddaeth hi'n well arno ef pan gafodd fynd adre i gnoi aml i sleisen o'r llo pasgedig!

Safwn o flaen y dyn pen moel yn y siaced law denau, trywsus brown golau, crys brown golau; edrychai fel pawb a neb, meddyliais, a dim.

Meddyliais bod Bholu wedi cychwyn colli arni - fedrwn i ddim ond dychmygu sut fuasai hi petawn i'n trio gwneud hynny yn Heathrow.

Marwolaeth o'n cwmpas i gyd, meddyliais.

Wrth ymlusgo drwy'r glaw meddyliais y byddai'n od, er hynny, na fyddem yn gweld George byth eto.

Meddyliais yn siwr unwaith fy mod am gael lle ar yr SS LLanarth, un o longau Radcliffe.

O gofio mai Sais ydoedd, meddyliais lawer am ei ddywediad, ond symud wnaeth i gadw tafarn, a daeth Mr Sleigh yn ei le.

Un bore, wrth ddihuno, gwelais golomen wen yn disgyn ar sil fy ffenestr Wrth edrych arni, meddyliais am y lleianod wrth y llyn, am fy nyweddi ac am rai eraill a oedd wedi marw, yr oedd cwlwm ysbrydol rhyngof a hwy.

Ystryw yw hyn, meddyliais, i gael y gath i newid ei meddwl ynglŷn â chosb Anti Meg.

Meddyliais fy mod yn arogli bacwn yn ffri%o.

Gan gerdded drwy'r gwlybaniaeth i fyny'r rhiw mewn esgidiau rasio cyn deneued â phapur, meddyliais yn galed am y ceffyl roeddwn wedi dechrau'r ras ar ei gefn, a cheisio didol a dethol yr hyn yr o'n i am ei ddweud wrth ei hyfforddwr.

Pan welais Mrs Thatcher y bore wedyn yr oedd ei gwallt yn edrych yn ysblennydd a meddyliais fod yn rhaid fod popeth wedi gweithio allan yn iawn.

Meddyliais am hanesion Tarzan lle roedd yr eliffantod yn dod i farw.

Dyna hen feddwl bach cas, meddyliais.