Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meddyliwr

meddyliwr

O leiaf fe fynnai, gyda'r proffwyd a'r meddyliwr praff hwnnw, fod yr iaith Gymraeg a'r patrymau diwylliannol sydd ynghlwm wrthi yn elfennau sylfaenol ym modolaeth cenedl y Cymry.

Yn hapus ryfeddol cafodd y mudiad ifanc newydd arweinydd a phroffwyd i'w ysbrydoli a'i borthi yn y meddyliwr cymdeithasol praffaf a godwyd yn ein Cymru Gymraeg ni y ganrif hon, sef yr Athro J R Jones.

Nid oes ganddo'r uchelgais i dorri cyt fel meddyliwr neu athronydd, er y gall fod ganddo feddwl chwim ac athroniaeth dreiddgar; a thybiaf finnau nad oedd mewn rhai cyfeiriadau neb llymach ei ddeall yng Nghymru yn ei genhedlaeth na Waldo Williams.

Er iddo wadu'r cydraddoldeb sydd yn ymhlyg yn nysgeidiaeth Crist cam dybryd a gafodd y meddyliwr gonest hwn pan drodd y Natsiaid ei gred yn yr Uwchddyn i'w melin afiach eu hunain: yn y bon, ei orchfygu ei hun yw camp Uwchddyn Nietzsche a byw'n beryglus yn y meddwl, gan gefnu ar deganau gwael y dorf.

Meddyliwr radical ydoedd ef, a ysgrifennodd yn helaeth ar ryfel a heddwch, comiwnyddiaeth a chyfalafiaeth, y bom hudrogen a dyfodol dyn, a chenedlaetholdeb a rhyng-genedlaetholdeb.