Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meinciau

meinciau

Ni wn am harddach tai na ffermdai unigryw yr Engadin - y pyrth mawr bwaog ar gyfer troliau, y ffenestri dyfnion ciwbig, y rhwyllwaith haearn, y patrymau a'r arfbeisiau a'r adnodau Romaneg ar wyngalch neu hufengalch y talcenni, heb son am banelau a nenfydau a meinciau pin y parlyrau gyda'u stofiau anferth addurnedig.

Gyda'r nos yn yr haf byddai'r meinciau i lawr ger Penycei yn llawn o ddynion mor, pawb a'i bibell yn ei ben yn hel atgofion am hynt a helynt cychod a llongau.Clywid enwau llefydd fel Valparaiso, Taltal, Callao, Buenos Aires, Cape Town, Hambro a Genoa yn amlach o lawer na llefydd fel Pwllheli a Chaernarfon.

Ar fy llaw dde, mae bwlch i bobl gerdded hyd-ddo, yna mae'r meinciau cysgu, er bod pobl yn eistedd hefyd ar y lefel isaf o feinciau.

Heriwyd un o'r bechgyn yn y meinciau i farchogaeth y ceffyl a oedd yn trotian yn ddestlus o gwmpas y cylch.

Tywysodd Lisa yr ymwelydd o gwmpas, gan symud o'r meinciau at y byrddau, o'r torwyr at y peirianwyr, o'r rhesi o esgidiau lliwgar ar eu hanner at y gwadnau yn disgwyl am sodlau, ac o'r diwedd at yr esgidiau gorffenedig yn cael eu gosod yn daclus mewn blychau gwynion.

Un res o seddau, llawr pridd, a meinciau.