Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meirch

meirch

Rhywbeth pell oedd y rhyfel ac ni bu rhyfela yng Ngwynedd er dyddiau'r hen frenin John pan fu raid i'w filwyr fwyta cig eu meirch ar lannau afon Conwy.

Taflodd y gweddill dros ei dri chyfaill a'u meirch a diflannodd pob un ohonyn nhw.

Roedd y werin wedi darganfod llawer ffordd o ddangos eu hatgasedd tuag at fyddin y Senedd a'r ffordd fwyaf effeithiol oedd yr ymgyrch gan y gofaint i'w gwneud hi bron yn amhosibl i gael eu meirch wedi eu pedoli.

Roedd yn rhaid i'r cyfeillion ddisgyn oddi ar eu meirch, swatio yn erbyn y graig, a chuddio'u clustiau rhag y sŵn.

Iawn yw i arglwydd ennill clod a bod yn batrwm i'w farchogion, oherwydd nid gweithgarwch 'diffrwyth' mohono bellach gan ei fod yn foddion cyfoethogi 'ei lys a'i gydymddeithon a'i wyrda o'r meirch gorau ar arfau gorau ac o'r eurdlysau arbenicaf a gorau'.' Trwy'r adran hon gwelir yr awdur, ac mae'n debyg ei gynulleidfa a'i noddwr, yn ymhyfrydu ym mhasiant y llys, gloywder lliwiau a helaethrwydd anrhegion a gwleddoedd ac yn urddas gosgorddion 'yn wympaf nifer a welas neb erioed', fel na ellir peidio â sylwi ar ei ddiddordeb byw yn ystyr arglwyddiaeth a'r mynegiant gweladwy ohoni.

Felly, pan deimla fod Brên a'r uchelwyr wedi'i sarhau, ymetyb Efnysien ê chreulondeb erchyll yn erbyn meirch Matholwch, lladd y Gwyddyl sy'n ymguddio yn y sachau croen, llosga ei nai yn fyw, a phair ryfel a ddaw'n agos at ddifetha dwy genedl ac a gymer fywyd ei lysfrawd a'i lyschwaer.

Ar y dechrau, bu'r Ysgrifennydd Cartref Winston Churchill yn betrus, ond cyn bo hir rhoddodd rwydd hynt i'r ceisiadau am Gatrawd Gwyr Meirch a throedfilwyr yn y Rhondda, yn groes i ewyllys RB Haldane, yr Ysgrifennydd Rhyfel.

Dynesodd y corachod o un i un a gorfodi'r milwyr i dynnu ar afwynau'r meirch, ond roedd gormod o elynion o'u cwmpas iddyn nhw feddwl am wneud dim.

Mewn cyfres o ymladdfeydd gwaedlyd gyda lladron o farchogion treisgar a thwyllodrus dengys Geraint ei nerthoedd fel marchog arfog, ond yn y modd garw, didostur yr ymetyb i rybuddion ffyddlon Enid gwelir mor brin ydyw o wir gymhellion y marchog urddol, er bod un awgrym mai'n groes i'w natur ei hun y gweithreda fel hyn, 'a thost oedd ganthaw edrych ar drallod cymaint â hwnnw ar forwyn gystal â hi gan y meirch pe ys gatai lid iddaw'.

Y mae geiriau cyntaf Geraint yn arwydd eglur fod perthynas newydd wedi'i sefydlu rhyngddynt ac mai ynghyd yr wynebant bob anturiaeth newydd, 'Arglwyddes', ebe ef, 'a wyddost ti pa le y mae ein meirch ni?' Yr antur olaf yw'r cae niwl a'r chwaraeon lledrithiog.

Uwchben y silff ben tân hongiai darlun olew mawr ac uwchben y darlun roedd llumanau gwŷr meirch, naill ai wedi eu rhwygo gan fwled neu eu bwyta gan wyfyn, ar ffurf croes mewn ffrâm wydr.

Ond chwerw neu beidio mae ysgall y meirch wedi bod yn boblogaidd er dyddiau cynnar yr Arabiaid a'r Rhufeiniaid.