Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meistroli

meistroli

Y nod yw llunio rhaglenni astudiaeth ar gyfer pob un o'r categoriau uchod gan amcanu i sicrhau y bydd cymaint ag sy'n bosibl, os nad pob un, o blant Cymru yn meistroli'r Gymraeg yn ystod eu cwrs ysgol.

Mae'r naill a'r llall yn meistroli mecanwaith cnewyllyn yn y meddwl, ac yn dysgu amrywio o'i fewn.

"Rwyf wedi meistroli ambell frawddeg sy'n fantais wrth fy ngwaith" meddai'n gellweirus wedyn.

Y rheswm pennaf am hyn yw fod yr actorion a'r cynhyrchwyr yn ymroddedig ac wedi mynnu meistroli, orau y gallent, grefft a disgyblaeth y llwyfan.

Ond mawredd Pantycelyn, meddai, yw iddo allu ffrwyno'i ramantiaeth ac felly osgoi mynd i ormod rhysedd trwy alltudio'r rheswm o'i waith yn gyfan gwbl: 'Dechrau'n fardd rhamantus a wnaeth Pantycelyn, datblygu ei ramantiaeth a'i mynegi'n llawn, yna ei meistroli a thyfu i weledigaeth fwy.

* gynnal sesiynau adborth cyson yng nghanol ac ar ddiwedd gwersi a fyddo'n rhoi cyfle iddynt: -ddarganfod pa syniadau a chysyniadau sydd yn anodd i'r disgyblion eu meistroli ac sydd angen sylw pellach, -ddarganfod pa unigolion sydd angen cynhaliaeth a chymorth ychwanegol (a hynny mewn amgylchiadau caredicach i'r disgybl na sefyllfa athro-ganolog, ddosbarth cyfan);

Gallent ddadlau nad oeddent yn gallu meistroli amodau creulon y gors.

Mae pwyslais cynyddol y dyddiau hyn, yn arbennig yn y sector addysg uwchradd, ar ennill cymwysterau a meistroli sgiliau ar gyfer byd gwaith.