Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meithrin

meithrin

Wrth gwrs ei fod o yn y Beibl, ond mi welais i beth hefyd mewn stori sentimental yn 'Woman's Own' dro 'nôl, a mwy fyth wrth wrando ar gaset "Hwyl yr ŵyl" gan y Mudiad Ysgolion Meithrin.

Bydd y tîm meithrin yn defnyddio'r wybodaeth yma wrth arsylwi, gwerthuso a monitro cynnydd y plant.

Oherwydd hynny, galwa'r Gymdeithas ar y Swyddfa Gymreig i drefnu symposiwm o'r awdurdodau cynllunio lleol, y Bwrdd Iaith, y Mentrau Iaith, a'r Gymdeithas er mwyn trafod syniadau newydd i ddefnyddio'r gyfundrefn cynllunio ar gyfer defnydd tir i ddiogelu a meithrin y Gymraeg.

"Hoff gennyf yw ateb y morwr hwnnw o Wlad yr Haf pan ofynnodd Coleridge iddo paham yr oedd wedi mentro ei fywyd i achub dyn na welsai erioed ac na wyddai enw na dim amdano : "Mae amcan gennym tuag at ein gilydd.' Meithrin yr amcan honno yw galwedigaeth greadigol dyn, ac wrth geisio gwneud byd teilwng o frawdoliaeth daw ef ei hun yn deilwng o'i fodolaeth.'

Y mae meithrin sgiliau dysgu ac agweddau cadarnhaol yn rhywbeth sy'n digwydd dros gyfnod hir ac y mae'n dibynnu ar eich personoliaeth, eich hanes personol a'ch profiad o weithio gyda disgyblion, cydweithwyr a thiwtoriaid.

Fel mater o flaenoriaeth, dylai'r Cynulliad arwain ymgyrch marchnata eang wedi ei thargedu yn arbennig at bobl ifanc er mwyn meithrin hyder yn y Gymraeg a'u hannog i'w dysgu a'i defnyddio.

Er i'r teimlad yma o fod allan yn yr oerfel fod yn gyffredin, bu cryn gefnogaeth i athrawon meithrin o du argyhoeddiad ymgynghorwyr ac athrawon ymgynghorol yr Awdurdodau Addysg Lleol.

Nid meithrin dosbarth dethol o ddysgedigion a fynnai ef, ond cadw gwerin Cymru'n grefyddol a'i gwneuthur yn ddarllengar a goleuedig.

Pwysleisiwyd y dylid meithrin y berthynas yma.

Nid yw ysgolion meithrin a gynhelir yn niferus.

Fe welwn ni, fel rhan o ysgol fabanod neu ysgol gynradd, blant dan bump mewn unedau meithrin, adrannau meithrin, dosbarthiadau meithrin.

Nofelau yw'r rhain y byddem yn annog plant a phobl ifanc i'w darllen er mwyn meithrin ynddynt ryw ymwybyddiaeth o gronoleg hanesyddol.

Gellir dweud mai da yw gweithgareddau sy'n gogwyddo at greu cymundod, ac yn cyfoethogi bywyd cymdeithas, ac yn meithrin cymdogaeth dda; ac mai drwg yw gweithgareddau sy'n malurio cymdogaeth a chymdeithas.

Fel rheol, pwysleisiant mai sylfaen meithrin medrau yn yr amryfal agweddau ar y cwrs addysg yw cynnig profiadau dysgu uniongyrchol sy'n hybu diddordeb, chwilfrydedd a mynegiant plant ifanc.

Byddai wrth ei fodd yn hyfforddi ieuenctid ardal y Rhos a meithrin doniau newydd.

fodd bynnag dylai'r gwaith mae yorath wedi ei gychwyn ymhlith chwaraewyr ifanc yng nghymru barhau ac y mae o, peter shreeves a jimmy shoulder am efelychu norwy sydd yn meithrin pêl- droedwyr ifanc ar gyfer y system y maent yn anelu ati.

'Y gweld cyntaf' a ddaeth iddo, fel yr esboniodd mewn llythyr at Mary Lewis, a oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad, oedd, 'nad oes ddianc rhag enbydrwydd arswydus economeg y gors.' Dyma sail yr athroniaeth feirniadol a fynegwyd yng Nghwm Glo: 'Gweld cefn gwlad yn dihoeni a wneuthum,' meddai ac o ganlyniad meithrin ymwybyddiaeth o'r graddau y dylanwedir ar fywyd yr unigolyn gan amgylchiadau sydd y tu hwnt i'w reolaeth ef.

c) Meithrin awydd disgybledig i sefydlu'r gwir.

Tra bod Natalie yn mynychu dosbarthiadau meithrin mewn ysgol babyddol leol, mae Adam mewn ysgol breifat - yr ysgol orau ym Methlehem - ac yn cael addysg ardderchog, yn ôl ei fam.

Mae awdurdod Pendaran Dyfed ym mater enwi'r bachgen yn amlwg, a chan fod Teyrnon a Phendaran Dyfed ill dau'n cael meithrin y bachgen, mae'n debyg fod cysylltiad arbennig rhwng Pryderi a Phendaran Dyfed.

Yn yr un modd ag y bu ein hadran ddrama yn gosod sylfeini creadigol cryf ar gyfer y dyfodol trwy fuddsoddi'n helaeth yn natblygiad dawn ysgrifennu, rydym hefyd wedi meithrin talent yn y byd adloniant, gan fuddsoddi'n helaeth mewn projectau comedi newydd ar gyfer radio a theledu ac, ar yr un pryd, yn denu cynulleidfaoedd anferth i berfformwyr cyfarwydd megis Max Boyce, Peter Karrie ac Owen Money.

Yn ôl Cyfrifiad 1991 rhyw 142,000 sydd â rhyw wybodaeth o'r iaith -- canran is na 10% -- a llawer iawn o'r rheiny wedi dysgu'r iaith yn yr ysgol a heb gael y profiad ohoni fel iaith gymunedol fyw, er gwaethaf eu hymdrechion i'w meithrin felly.

Ond un ochr i'w gymeriad oedd y diddordeb mewn meithrin ysbrydoledd.

Rhaid meithrin hyder i sicrhau y dônt yn fwy cyfforddus wrth ddefnyddio'r iaith.

Mae strwythur y Cwricwlwm Cenedlaethol yn cydnabod ac yn cryfhau'r prosesau dysgu a'r egwyddorion sy'n sail i'r arferion da meithrin.

Un o flaenoriaethau'r Cynulliad ddylai fod i sicrhau adnoddau digonol i ddatblygu dysgu Cymraeg a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y sbectrwm addysg o'r oed meithrin at addysg oedolion.

Gwelodd yno sut yr oedd Mrs Booth, er ei bod yn brysur gyda gwaith y Genhadaeth, yn gofalu'n dyner am ei phlant ac yn eu meithrin yn y ffydd, yn ogystal â rhoi addysg gyffredinol iddyn nhw.

Sefydlu Mudiad Ysgolion Meithrin.

Darllenwyd ceisiadau pedwar cylch meithrin sef Hirael, Y Fron, Ti a Fi Salem, Caernarfon a'r Groeslon.

Mae wedi llwyddo i gadw'r safonau gwyddonol uchaf a meithrin yr iaith Gymraeg mewn cylchoedd newydd.

Yn wir, yr oedd y prifathro - yr enwog SM Powell - yn meithrin gwreiddioldeb ymysg ei ddisgyblion.

Bydd cyfran sylweddol o siaradwyr Cymraeg y dyfodol wedi dysgu'r iaith mewn cylchoedd meithrin ac yn yr ysgol.

Os ydys am weld darparu deunyddiau addysgol yn y Gymraeg yn y tymor byr, ystyrir bod angen manteisio ar sgiliau arbenigol prin y canolfannau ar gyfer gwaith golygu, cyfieithu, dylunio, a chysodi a bod angen manteisio ar brofiad a sgiliau gweinyddu'r cyfarwyddwyr eu hunain, sydd wedi denu a meithrin y sgiliau hyn o fewn eu gweithlu ac wedi sefydlu perthynas weithredol nid yn unig gyda'r gweisg a'r cyhoeddwyr ond gyda'r awdurdodau a'r athrawon unigol.

Gydag amser, bydd pob newyddiadurwr yn meithrin rhwydwaith o gyfeillion mewn swyddi allweddol y gall ddibynnu arnynt i roi gwybod iddo am ddigwyddiadau.

Cafwyd cyflwyniadau yn y bore gan Rhiannon Steeds, Cyngor Cwricwlwm Cymru, Ceinwen Davies, Mudiad Ysgolion Meithrin, a Siân Wyn Siencyn, PDAG.

Ymgais i ymddangos yn wâr eu hymddygiad ymhob agwedd ar fywyd oedd 'delfryd' y bonedd, ac er mwyn meithrin hynny, ymfudent yn raddol o'r wlad i'r dref neu'r ddinas, sef canolfannau'r cwrteisi llysol a'r ffasiwn.

O safbwynt meithrin doniau newydd, yr oedd y cylchgronau'n bwysig.

Y mae meithrin ymagwedd Ewropeaidd hefyd yn rhan o ddymuniad y Cyngor.

Ac i Dduw y mae teulu dyn yn atebol am ddiogelu a meithrin y cyfoeth hwn.

Maent i ofalu am y ddaear a'i meithrin hi.

Ond adnawdd, hefyd, fyddain meithrin campwyr y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn hefyd i Ffion o gylch meithrin Talgarreg am y llun ar gyfer y clawr.

Caf gyfle eto i gyfeirio at rai o'r prosiectau arbennig sydd gennym ar y gweill yng Nghwm Gwendraeth sydd yn ceisio meithrin agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith ar ddiwedd y cyflwyniad hwn.

Ond os ydym yn anelu tuag at Gymru sy'n gynyddol ddwyieithog dylid ceisio meithrin agweddau cadarnhaol tuag at ddwyieithrwydd drwy sicrhau fod pob plentyn sy'n derbyn addysg feithrin yn cael blas o'r Gymraeg fel rhan o brofiad addysgol cynnar.

Tudalennau lliwgar i ddisgyblion meithrin sy'n dysgu Cymraeg.

Ac er bod patrymau a rhwydweithiau cymdeithasol wedi newid yn fawr yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r achos dros geisio meithrin a chryfhau'r agweddau cymdeithasol ar yr iaith yn dal.

Byddai'r DAA yn ystyried barn pobl proffesiynol (seicolegydd addysg, gweithiwr cymdeithasol, meddyg ac yn y blaen), asiantaethau eraill (er enghraifft, gweithwyr y sector gwirfoddol megis staff cylchoedd meithrin, swyddogion addysg RNIB ac yn y blaen), ynghyd â rhieni wrth ddisgrifio angen y plentyn a chynllunio ar gyfer ateb yr angen hwnnw oddi fewn i'r gwasanaethau addysgol.

Ar y dechrau, y drefn oedd fod Ankst yn mynd at artistiaid i'w gwahodd i recordio; erbyn hyn, maent yn derbyn tapiau demo gan grwpiau newydd yn ogystal â meithrin perthynas barhaol gyda'r artistiaid sydd eisoes ganddynt.

Y mae eisiau cydnabod mai menter ar y cyd yw addysg plentyn meithrin ac y gall ansawdd y berthynas sy'n cael ei greu rhwng rhieni a'r athrawon/gweinyddesau meithrin yn yr ysgol fod yn sylfaen i bartneriaeth bwysig ac yn fantais i'r ysgol, y rhieni, ac yn bwysicaf oll, i'r plentyn.

Roedd cytundeb cyffredinol (80%+) y dylai addysg drwy gyfrwng y Gymraeg fod ar gael o ysgolion meithrin hyd at ysgol uwchradd neu brifysgol.

Adran B Straeaon sy'n meithrin consarn

Trefniadaeth Dosbarthiadau Cymraeg Pan fydd rhywun yn meddwl am addysg feithrin Gymraeg, mae rhywun yn meddwl yn syth am y Mudiad Ysgolion Meithrin.

Yn ychwanegol at yr awch cynhenid i estyn eu tiroedd, eu hamcanion oedd meithrin eu teyrngarwch i'r goron a'r sefydliadau perthnasol iddi, a chadw cysylltiad agos â'r beau monde dros y ffin yn Lloegr.

Gwn yn iawn fod fy Mam a'i dau frawd wedi cael eu dysgu a'u meithrin i gasau'r mor.

Gan gofio fod nifer arwyddocaol o'n hysgolion yng Nghymru yn ysgolion bach (pump athro neu lai) a bod ysgolion bach iawn yn gyffredin lle nad oes ond dau athro, mae na felly nifer go helaeth o blant dan bump, plant cyfnod meithrin, yn yr un dosbarth â phlant hyn sy'n dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Mae meithrin grwpiau o'r fath felly yn bwysig - a) er mwyn cyfnewid profiadau cydymdeimladol seiliedig ar wir brofiadau.

Yn ystod y flwyddyn bydd Angela Roberts yn gweithio gyda 28 practis doctoriaid yng Ngwynedd ac yn meithrin cysylltiad agos efo Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Orllewin Cymru i ddatblygu a gweithredu cynlluniau gofal.

Nid tasg syml serch hynny yw diogelu traddodiadau, meithrin hunaniaeth, meithrin perthynas effeithiol efo gwledydd y Gorllewin a'r Dwyrain a sicrhau ffyniant economaidd wrth ddiosg yr hualau Sofietaidd.

Ac yn y rheolau sy'n dilyn, gwaherddir torri addewid, amharchu'r Saboth, glythineb mewn bwyta ac yfed, gwisgo dillad ffasiynol sy'n meithrin balchder, anlladrwydd a gwastraff.