Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

melin

melin

Mae ar ei ddwysaf ym 'Melin ym Môn'.

Bu'r cyhuddiad hwn fel maen melin am wddf Ferrar trwy'r blynyddoedd dilynol er iddo fynnu'n gyson mai llithriad gan ei ganghellor ydoedd.

Mae'n llawer rhy hawdd cael benthyciad y dyddiau hyn, a dyw'r sawl sy'n rhoi'r arian yn aml iawn ddim yn poeni os bydd y ddyled yn faen melin am wddf rhywun, ac yn eu harwain i ddyfroedd dyfnion.

Er hynny, diddorol dros ben oedd bod mor agos at yr ugain melin wynt a godwyd ar y mynydd i gynhyrchu trydan.

Am to swear like a trooper cawn, yn gwbl gymeradwy, rhegi fel cath, paun, melin, tincer a cwrcyn ond nid rhegi fel llongwr na nafi.

Dyma flaen-nant hwyaf Afon Crugyll, ac mae'r ddwy'n cydlifo ger Melin Cymunod ym mhwll Bodedern.

Ar hyd arfordir gogleddol yr ynys ceir cipolwg ar hanes amaethyddol pwysig Ynys Môn, gyda hwyliau Melin Llynnon yn llywodraethu dros Landdeusant ac yn parhau i droi hyd heddiw.

Ond i un yng Nghymru sydd â'i fryd ar lenora, y mae hi'n faen melin am ei wddf.

Ymddengys fod Llyn Frogwy, i'r gogledd o Fodffordd, yn bwll afon a gaewyd ac a ehangwyd er mwyn creu blaenddwr ar gyfer Melin Frogwy.

Gelwid y pentwr hwn yn wats (term morwrol yn golygu gwyliadwriaeth), pedair wats bob dydd ym mhob melin, a'r dalwr oedd yn gyfrifol am eu rhoi'n daclus yng nghefn y felin o fewn cyrraedd y bwndelwr a'r shêrwr.

Er iddo wadu'r cydraddoldeb sydd yn ymhlyg yn nysgeidiaeth Crist cam dybryd a gafodd y meddyliwr gonest hwn pan drodd y Natsiaid ei gred yn yr Uwchddyn i'w melin afiach eu hunain: yn y bon, ei orchfygu ei hun yw camp Uwchddyn Nietzsche a byw'n beryglus yn y meddwl, gan gefnu ar deganau gwael y dorf.

Gwelwn fod meddwl Delwyn yn gweithio fel melin bapur.

Mae cael morgais yn ddigon o faen melin heb wahodd rhagor o fygythiad i ddiogelwch eich cartref.

Ym 'Melin Adda, Amlwch' mae paent yr awyr wedi ei osod yn ffyrnig â chyllell balet nes bod y cymylau'n edrych fel petaent wedi eu cerfio, eu ffurfiau deinamig yn cau am y felin a'r beudai, yn gymheiriaid i ffurfiau'r tir.