Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

melyn

melyn

Mae meddygaeth lysieuol yn ei ddefnyddio i drin anhwylderau'r iau, y clefyd melyn, y gymalwst, cryd cymalau, rhai anhwylderau'r arennau ac i rwystro neu ddileu cerrig y bustl.

Daliai un o'r bechgyn lantern fechan uwch ei ben ac yn ei golau melyn medrai pawb weld y ddau filwr yn sefyll i'w hwynebu.

Cadwai nhw mewn bocs pren gyda'i drysorau eraill: darlun brown a melyn o'i gariad cyntaf, y llythyrau a anfonodd ati a'i hances lês.

Pan es i lawr yr ardd ddoe mi welais fod pethau'n dechrau rhyw ymsymud o'u trwmgwsg fel y goeden Forsythia a oedd yn gawod o flodau melyn a'r rheini yn disgleirio yn haul oer y prynhawn.

Yr unig bryd y gwelwn ni'r lliwiau melyn yma yn y dail yw cyfnod y cwympiad.

Roedd wedi cryfhau ffenestri ei gaban pren melyn â bariau haearn cryf, fel pawb arall, gyda llaw, a allai fforddio hynny yn y rhan hon o'r dref.

Yr oedd yn debyg i amffitheatre enfawr, y gwaliau'n disgyn yn serth i grombil y mynydd, a'r llawr yn bentwr o gerrig, rhai ohonynt yn dwyn staen goch a melyn lle'r oedd nwyon cuddiedig Vesuvius wedi bod yn ffrwydro'n ddiweddar.

Yn Ffrainc cyfrifir sicori'n fwyd hanfodol i'r sawl sy'n dioddef o'r clefyd melyn.

Fel yn y llun Chwarel gyda'r marciau coch a melyn, mae'n amlygu'r cerrig ar wyneb yr adeiladau gyda lliw llachar.

Ymysg y coedydd cochion a melyn yma, ar ymylon y goedwig ac yng nghysgod y coed mae yna ddwy goeden fach, na feiddiwch eu cyffwrdd.

Fel efo'r sudd fe roddir y te hefyd i iachau'r iau ac ar gyfer y clwyf melyn.

Mi fydda i'n sleifio heibio'i gawell o am fod yn gas gen i ei weld o'n edrych i lawr ei hen drwyn hir main arna'i efo'r llygaid melyn lloerig yna.

'ia, ydyn.' Botwm melyn ...

Dwi ddim yn awgrymu fod yr holl enwi, cardiau melyn a choch ar cwynion a glywson ni yn ystod y tymor yn anghyfiawn.

O'i flaen, cyn belled ag y gallai weld, ymestynnai anialwch hirfaith, heb fod yno na phren na llwyn nac afon na llyn na diferyn o ddŵr - dim o gwbl ond tywod melyn a chreigiau noeth.

Ond doedd Gwen ddim yn credu rhywsut, y byddai Niclas yn barod i ganu clodydd cwlffyn melyn, crofenllyd ar ei blat.

Ni welodd erioed o'r blaen draethau mor lân, y tywod melyn heb ôl troed yn unman.

Ymddangosodd pen melyn, yna gwelwn ferch ifanc osgeiddig yn gwenu'n siriol ar Enoc, a ddaethai i'w chyfarfod.

Mwynhaodd y sylw a llithro'n ôl i'w blynyddoedd melyn - cysgu yn yr un ystafell fechan lle y gwelsai wyneb Duw yn y lleuad a chlywed Evan Moses yn mwmian am Ei gartre i fyny rywle yn yr awyr.

Corgi bach melyn oedd Cymro, ci Rhodri, ac fe wnâi gymaint o sŵn wrth gyfarth, fel na fentrai lleidr ddod o fewn canllath i'r tŷ.

'Oes rhywun yn cuddio rhywbeth oddi wrth y Gwylwyr' Botwm melyn ...

Mae gwahaniaeth rhwng lleuad a lleuad mewn gogoniant hefyd gyda thros ugain o dermau â lleuad yn rhan ohonyn nhw - yn amrywio o lleuad fain i leuad march melyn a lleuad naw nos ola.

Cwilt pobol ddiog yw'r cwilt erbyn hyn a'r clytiau o las Gwanwyn a melyn Haf ac aur Hydref wedi mynd yn fawr ac yn ychydig, a'r tractorau a'u gwehyddion a'u casglwyr silwair a'u combeiniau yn llusgo hyd yr erwau agored fel chwilod mawr, boliog yn ysu'r cnydau.

Mae'r lliwiau y mae'n eu defnyddio yn Beddgelert yr yr Hydref yn gyfoethog o goch a brown a melyn - lliwiau'r Hydref.

Ar ben y grisiau hongiai un lamp drydan wan o'r nenfwd gan daflu goleuni melyn ar y paent a godai'n swigod gwlyb ymhob man.

Erbyn hyn, os oes dau neu dri o dai yn weddol agos at ei gilydd ar fin y ffordd, mae'n rhaid cael lamp drydan i gneitio drwy'r nos ar ddrysau caeedig a ffordd ddidramwy, ac y mae goleuadau'r man bentrefi'n llewyrch melyn yn yr awyr dywyll.

Edrychai'r Gors Las yn welw iawn yn ei llewyrch, yn welw ac yn beryglus - yn ddigon peryglus i unrhyw un gredu iddi lyncu hofrennydd mawr i'w chrombil i ddiflannu am byth yn ei llysnafedd gwyrdd ac yn ei mwd melyn.

Gyda'r newyn yn y gell gosb daeth yr hiraeth am sigaret; hiraeth am glywed ei haroglau, am osod y tân wrth ei blaen melyn, gollwng y mwg glas allan rhwng ei wefusau a'i weled yn ymdorchi i'r awyr.

Tynnwyd y disc melyn ag arno'r llythrennau BC oddi ar ddrws ei gell.

Mae'r lliwiau'n rhan o gyfansoddiad gofodol y llun, glas clir yr awyr a melyn y das yn gwrthgyferbynnu â gwyrdd tywyll y blaendir.

Ar yr un pryd, fe geisiai hi chwarae gemau sylwi efo Owain, cyfri ceir melyn, ceir brown, ceir glas, lori%au a bysiau nes i'r ddau alaru ar hynny.

'Roedd y set mewn darnau - pot o flodau melyn; desg ysgol a chadair; mainc, overalls a manion eraill; côt-ddaliwr efo gwisgoedd; a basgiad fawr a dwy gadair.

Mae yna ddau liw arall yn y chlorophyll - lliw melyn y carotin sydd i'w weld mewn menyn, a lliw oren y xanthophyll sydd i'w weld mewn melynwy.

Edrychodd Eira ac `Elen ar ei ffrog hardd a'r cyrls melyn taclus ar ei phen.

Gweld 'Eryr Pengwern pengarn llwyd', ei glywed yn 'aruchel ei adlais', blasu 'afallen beren a phren melyn' teimlo Dafydd ap Gwilym pan drawodd ei 'grimog .

Yn sydyn sylweddolodd nad oedd y drws yn cau yn hollol dynn a bod rhimyn melyn o olau yn dod i mewn drwy'r agen fechan oedd rhwng y ddau drws.

Yr unig nodyn di-galon i Gymru oedd ail gerdyn melyn i Robbie Savage sy'n golygu ei fod wedi ei wahardd rhag chwarae yn y gêm nesa yn Armenia ym mis Mawrth.

Erbyn wyth o'r gloch, mae Duw a wyr faint o famau a'u plant o dan bump oed yn eistedd mewn Duw a wyr faint o gorlannau, ar ddaear sy'n wastad a melyn.

Gwallt melyn, yn donne dros i gwar hi, llyged glas tywyll yn llawn chwerthin, a gwefuse...

Rhyw liw felly wedi ei gymysgu efo melyn cyfoglyd ydi'r milgi.

Mae melyn yn dynodi fod y plentyn yn dal i ddiodde'n ddifrifol o effeithiau newyn.

Bydd y beirdd yn sôn am yr haul yn gosod aur ar y dail, neu'r lleuad yn gosod arian, ond gŵyr pawb call mai ffansi bardd yw hyn ac nad oes mewn gwirionedd ond rhyw fymryn o oleuni melyn neu wyn yn syrthio ar ddail coeden gyraints duon yng ngardd y bardd.

Cofiai Myrddin Tomos am ddefaid yn pryfedu; am eu dwyn i fuarth y fferm, eu dal, torri'r gwlân o amgylch y cynrhon a oedd wedi ymgladddu yn y cnawd, eu pigo allan â'r gwellau a rhwbio pridd melyn yn y man pryfedig.

Gwinwydd yn tyfu o bob tu iddi, a chlystyrau anferth o rawnwin du a melyn yn crogi wrth y prennau.

Trwy gil ei lygad, gwelodd gysgod o rywbeth melyn.

Gwelwn fod y wawr yn dechrau torri a gwelwn ambell i fferm yn y pellter gyda chaeau o geirch melyn; hyn oedd eu prif gnwd, a hyn yn dod ag ambell i baced o Shredded Wheat a blas Scotch Quaker Oats yn ôl i'm cof.

Aeth ar hyd y tywod melyn tuag atynt.

Roedd hi'n un ar bymtheg oed as wedi tyfu'n ferch ifanc dal, osgeiddig; y gwallt cyrliog melyn a fu ganddi pan oedd yn blentyn wedi tywyllu'n frown golau cochlyd.

Er nad yw canser y pancreas bron byth yn digwydd mewn pobl o dan ddeugain oed, ac er ei fod yn amlygu'i hun trwy achosi clwyf melyn yn hytrach na phoen, gwnaeth y llawfeddyg ddiagnosis o ganser y pancreas.

Ond mae'r 'Arlunydd Mawr' wedi cymysgu'r pinc yn ofalus a chywrain a lliw melyn, gwyrdd, du, gwyn a llwydlas.

Ac o'r coed yma (Maple) - y tynnir y sudd sy'n rhoi y triagl melyn (syrup).

Mae'r holl graffu ar dudalennau melyn sydd y tu ôl i'r llyfr yn rhyfeddod ynddo'i hun.

Mae'r cerrig ar y gwaelod yn llyfn ac i'w gweld yn goch a melyn drwy'r dwr, ac yn gynnes rwy'n siwr.

Plorod anferth, coch a oedd nawr ac yn y man yn codi'n gop**aon melyn.

Eisteddodd disgynyddion William Davies, Fforest Uchaf, teuluoedd Nant y Gro, Culheol, Y Tyddyn Melyn, Maesgwilym, Tŷ Mawr a Phwllygod a Thŷ'r Gors a'r Waungrin a gwrando ar gatalog o weithredoedd eu tadau a'u teidiau, eu mamau a'u neiniau.

Roedd y brithyll yn yr afon yn dywyllach na rhai o afonydd eraill, ac yn fwy melyn odanynt a'r smotiau ar eu cefnau yn goch tywyll.

Cofiaf fel y byddem yn plastro menyn ffarm yn dew hyd-ddynt ac yna'r siwgr yn toddi'n ddi-rwgnach yn y môr melyn.

Pwy ond Jacob a allai droi sefyllfa o'r fath yn gyfrwng gwên a gofid, gan gloi ei ddameg gyda her o gwestiwn: 'Pwy dynn ei gôt?' Aeth blwyddyn gron heibio cyn i neb weld Yr Ymofynnydd yn ymddangos drachefn â chlawr melyn braf amdano, gyda'r golygydd yn cyfaddef i'r cywilydd a donnodd drosto oherwydd iddo 'orfod tynnu côt oddi ar gefn yr hen ŵr' a'i anfon allan 'fel sgerbwd noethlym, gwyn'.

Lliw llwyd y llechi yw lliw cyfannol y darlun, ond y mae marc neu ddau o goch a melyn yn agos i'r gwaelod.

Ymdonnai gwallt Anna, hithau, yn dusw o wenith melyn ar y duwch.

Gyda'i gwallt melyn, trefnus, ei gwisg o siwt las tywyll a'r 'brooch' ac yna ffrog las ysgafnach, y briefcase.

Tu mewn mae'r chwe briger a'r pistil hefyd yn las, a'r unig liw arall a welir fydd y paill melyn.Fe gynhyrchir hyd man tywyll, ond mae bwlb dan y pridd a gall oroesi'r gaeaf felly.

Mae golchiad o liw melyn yn dod i'r golwg trwy haenau o las golau a llwyd, gan awgrymu'n gynnil ôl tywydd ar garreg.

Edrychais dros fy ysgwydd ar y criw yn eu dillad melyn dal dŵr.

Roedd Affos y Brenin yn cynnig gwobr bob wythnos am dri mis o Gan Ceiniog Felen am y wnionyn mwyaf allan o holl erddi N'Og, ac ar ben hynny Fil o Geiniogau Melyn am y mwyaf bob mis.

Rhinwedd y tyddynnwr anhysbys o safbwynt llysieuwr yw na wellodd y tir ac oherwydd hyn mae'r caeau'n frith o flodau gwylltion yn y gwanwyn a'r haf; gwyn y llygad eglur, melyn y gribell felen, coch ysgafn y bengaled a choch tywyll y teim ynghyd â nifer o degeiriannau fel y tegeirian brych Dactylorhiza maculata y tegeirian brych cyffredin D.

Yn ddisymwth daeth wyneb Betsan yn fyw unwaith eto o flaen ei lygaid, y rhychau melyn yn diferu â dþr Wnion, yr amrantau trwm yn cau allan y casineb a'r gwarth a'r crechwenu dieflig o'r chwmpas.

A'r coed a'r gwrychoedd yn goch a melyn: canmil, canmil harddach na'r hydrefau yr ochr hyn i'r Iwerydd.

Safai'r wyau ar ben ei gilydd yn y pedyll, wyau gwyn ac wyau melyn ac wyau mawr gwynlas yr hwyaid.

Ymlaciodd eto a mwynhau cynhesrwydd ei blancedi gan lithro'n freuddwydiol-ddyfnach i gofio am yr hen hapusrwydd, y dyddiau melyn cynnar, yn arbennig cofio'i Hewyrth Joseph yn cyrraedd Trefeca mewn chaise o Lundain i adfer ei iechyd yn y tawelwch.

Cofiaf lond ffridd o'r pabi melyn sy'n gyffredin i'r Grisiwn ac i Gymru.

Cododd y saim melyn bwys ar Enlli ond roedd y te yn felys a chwilboeth.

Cafodd chwech o chwaraewyr gardiau melyn gan y dyfarnwr Graham Barber yn ystod y gêm.