Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mercher

mercher

Roedd yn arferol chwarae tair gêm mewn wythnos, sef brynhawn Mercher, y Sadwrn a'r Sul.

Pnawn dydd Mercher cynhaliwyd yr oedfa ordeinio.

Bydd Cwmban yn chwarae Llanelli ddydd Mercher.

Ar y ffordd bydd y cerddwyr hefyd yn ymweld a chanolfannau Vodafone (Newbury, 12-1pm Mercher) a BT Cellnet (Slough 4.30pm).

Ar ddydd Mercher y cyhoeddir y Gwyliwr, ac am ddeuddydd cynta'r wythnos fy mhrif broblem i fel golygydd yw dod o hyd i stori ddiddorol ar gyfer tudalen blaen y papur.

Am 1 o'r gloch Dydd Mercher Rhagfyr 1af ar stepen drws y Cynulliad Cenedlaethol ei hun bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio ei dogfen ddiweddaraf Arwain o'r Gadair.

Eu gwahodd nhw am bryd ddydd Mercher i ddathlu fy mhen-blwydd.

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal ei phrotest gyntaf tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd am 2 o'r gloch Dydd Mercher Hydref 27ain.

Ar y dydd Mercher, ni allai'r tad ddod o hyd i allwedd y bocs lle y cadwai ei lyfr banc.

GWIBDEITHIAU: Ar y dydd Mercher olaf o'r mis fe deithiodd wyth deg ac wyth o hynafgwyr, a gwragedd i ganolfannau siopio Pen Bedw.

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi disgrifio'r cyfarfod fu rhyngddynt a'r Ysgrifennydd Gwladol Alun Michael ddoe (Dydd Mercher Ionawr 6ed) fel un adeiladol.

Gwnaed y cyhoeddiad heddiw (dydd Mercher 29 Medi) y byddai yna rai rhaglenni Cymraeg ar S4C o Gwpan Rygbi'r Byd, a hynny yn dilyn trafodaethau manwl yn ystod yr wythnosau diwetha'.

Fe ddylai'i fam fod wedi dewis dydd Ffŵl Ebrill neu Ddydd Mercher Lludw yn lle hynny.

Braidd yn anarferol ar achlysuron fel hyn, trefnwyd oedfa fore ar y dydd Mercher gyda D. J. Roberts (Aberteifi ar ôl hynny) yn cymryd y rhannau arweiniol ac Irfon Gwyn Jones, brawd y darpar-weinidog, yn traddodi'r Siars i'r Eglwys.

Cylch Chwarae Dechreuodd Cylch Chwarae'n ddiweddar; mae tri sesiwn ar gael sef bore a phrynhawn Mawrth, Mercher a Iau.

Fel y nodwyd uchod fe ryddheir y ffigurau llawn Dydd Mercher.

Yn y cyfarfod - fydd yn cael ei gynnal am 12.30 Dydd Mercher bydd y Gymdeithas yn egluro pam yr ydym yn galw am Ddeddf Iaith berthnasol i'r unfed ganrif ar hugain.

Trueni i'r pwyllgor fethu a sylwi ar sylwadau helaeth yr ysgrifennydd cyffredinol yn yr adroddiad, llun dalen flaen o'r Wyl y dydd Mercher yn ei dilyn a thri tudalen o luniau a stori yn tynnu sylw at ei 'llwyddiant' yr wythnos wedyn.

Ddydd Mercher, fe wnaeth Bwrdd yr Iaith eu datganddiad mawr cynt' ers tro - fe fydd drafft o'u canllawiau iaith ar gyfer y sector cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi ddechrau Hydref ar gyfer ymgynghori a chynllun ar gyfer y sector preifat yn dechrau cael ei weithredu.

Bydd y detectif byd enwog (a'i gynorthwydd) yn cyrraedd lobi Cynulliad Cenedlaethol am 10 o'r gloch Dydd Mercher Rhagfyr 15ed er mwyn ceisio dod o hyd i Ms Butler.

(Rhaid cofio mynd i lofnodi'r ewyllys fore Mercher.) Chefais i 'run broblem heddiw yn yr ysbyty.

Prynhawn Mercher ar faes Eisteddfod Llangollen - dyna'n sicr pryd y plannwyd yr hedyn i fynd i Mallorca i gystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd, er na wyddwn hynny ar y pryd.

Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg sy'n cerdded o'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd i'r Senedd yn Llundain wedi derbyn gwahoddiad oddi wrth Vodafone i alw heibio i'w gweld yn Newbury dydd Mercher 20/09/00.

Gyda nifer o gyhoeddiadau ar faterion pur dechnegol y cychwynnodd ar sesiwn cwestiynau llafar y Cynulliad ddydd Mercher.

Ddydd Mercher, cafodd wyth o Balestiniaid eu saethu'n farw tra'n ymladd â byddin Israel.

Bu Cell Colegau Aberystwyth am dro o amgylch banciau a chymdeithasau adeiladu'r dref ychydig yn ôl (Dydd Mercher, Tachwedd y 1af) i weld os oeddynt yn gweithredu polisiau dwyieithog llawn.

Digon yw cyfnodi i'r ddau fynd gyda'i gilydd i'r dre un bore Mercher a dychwelyd yn ŵr a gwraig.

Dydd Sadwrn oedd y diwrnod olaf i dderbyn y cyfansoddiadau a gwyddwn i fod Llew yn brysur yn ysgrifennu ei nofel gyntaf; ond pan euthum heibio dydd Sadwrn nid oedd yn barod, ac ni fyddai tan y dydd Mercher canlynol.

Cyn cyfarfod dydd Mercher, dywedodd aelod o Gabinet Israel, Binyamin Ben-Eliezer, fod y trais wedi cynyddu dros y dyddiau diwethaf.

Roeddem ni'r plant yno deirgwaith y Sul a phob noson o'r wythnos ac eithrio Dydd Mercher a'r Sadwrn - Cwrdd Gweddi,Dosbarth Beiblaidd neu Ddosbarth Tonic Sol-ffa, Cymdeithas y Bobl Ifainc a Seiat a hyd yn oed ar ddydd Mercher, roedd te i'r aelodau yn y festri.

Roedd pobol yn dathlu ar y strydoedd fore Mercher ar ôl noson ddigwsg - wrth iddyn nhw weld 22 mlynedd o reolaeth byddin Israel yn dod i ben.

Erbyn pnawn Mercher dyma gadael y siap 'swch' i droi, plygu'r gliniau, plannu'r polyn yn yr eira, naid bach i fyny ac i rownd y tro.

Ddydd Mercher, bu morwr arall farw o'r oerni, a'r noson honno bu farw llongwr arall wedyn.

Mae'r clwb yn agored nos Fawrth, Mercher a Gwener o hanner awr wedi saith hyd at hanner awr wedi naw.

Erbyn dydd Mercher roedd Alun wedi gwella'n wyrthiol ac yn ddigon da i godi.

Dwedodd ar y Post Cyntaf bod y tîm wedi treulio'r penwythnos yn llyfu'u clwyfau ac yn gobeithio am well canlyniad ddydd Mercher.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi barnu'n llym Araith y Frenhines heddiw (Mercher, Tachwedd 17), gan nad yw'n darparu Deddf Addysg benodol i Gymru.

Bydd chwaraewr canol-cae Cymru Robbie Savage yn cael archwiliad arall ar ei ben-glîn heddiw i weld a fydd e'n ddigon iach i chwarae yn y gêm yn erbyn Iwcrain wythnos i ddydd Mercher.