Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meryl

meryl

Yn y cyfarfod hwn fe alwodd y Gymdeithas am rywun oedd yn siarad Cymraeg i reoli'r adran addysg ac ar i'r cyngor ail-edrych ar y polisi iaith gan gyda'r bwriad o wneud y Gymraeg yn iaith weinyddol y Cyngor.Yn wir mae Meryl Gravell wedi mynd mor bell a dweud ei bod yn barod i ymddiswyddo os na lwyddith hi i weithredu'r gofynion hun.

Fe lwyddodd y Gymdeithas i amharu'n ddifrifol ar y cyfarfod hwn a bu trafodaeth breifat rhwng Sioned Elin, cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin, a Meryl Gravell, arweinydd y Cyngor.

Mae Cymdeithas yr Iaith felly yn pwyso am gyfarfod gyda Meryl Gravell ar Chwefror 21 i glywed y canlyniad.

Mae'r Gymdeithas yn awr yn gobeithio cwrdd â Meryl Gravell ar 21 Chwefror er mwyn cael trafodaeth bellach ar y materion hyn.